Skip to main content

Chwistrell wyrthiol yn arbed bywydau dau ddioddefwr gorddos cyffuriau

Dyddiad

160221 PCC-1

Mae swyddogion heddlu sy’n defnyddio chwistrell trwyn gwyrthiol wedi achub bywydau dau ddioddefwr gorddos cyffuriau yn Sir y Fflint.

Roedd y swyddogion wedi gwirfoddoli i gymryd rhan mewn cynllun arloesol i dreialu chwistrell trwyn Naloxone sy’n gwrthweithio effaith heroin a gorddosau sylweddau opioid eraill.

Digwyddodd yr achos diweddaraf yng Nghei Connah pan gafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu galw i fflat yn y dref ac adrodd yn ôl i ddweud eu bod wedi dod o hyd i ddyn yn anymwybodol a’u bod yn amau ei fod wedi dioddef gorddos cyffuriau.

Yn gwrando ar yr alwad honno oedd yr heddweision Tom Brownhill a James Tapley, dau o’r 12 o  wirfoddolwyr a hyfforddwyd i ddefnyddio’r chwistrell Naloxone a hyrwyddwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sydd wedi bod yn allweddol yn y cynllun peilot sydd ar droed yn Sir y Fflint.

Mae gan y sir broblem cam-drin cyffuriau ddifrifol ac yn y cyfnod dwy flynedd diweddaraf y cedwir cofnodion ar ei gyfer, sef 2016-2018, gwelwyd 21 o farwolaethau oedd yn gysylltiedig â chyffuriau, mwy nag un rhan o bump o gyfanswm gogledd Cymru.

Mae Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, bellach yn gobeithio y gellir cyflwyno’r cynllun arbed bywydau yma ar draws gweddill y Gogledd ac y bydd swyddogion heddlu eraill yn dod ymlaen i gael eu hyfforddi.

Dywedodd y Cwnstabl Brownhill, sydd wedi bod yn heddwas am wyth mlynedd: “Pan ddaeth yr alwad i mewn, mi wnaethon ni adnabod symptomau gorddos cyffuriau felly mi wnaethon ni ymateb o dan oleuadau glas a sicrhau bod ambiwlans ar ei ffordd hefyd.

“Mae’r eiddo lle daethpwyd o hyd i’r dyn yn cael ei ddefnyddio fel sgwat a phan gyrhaeddon ni yno roedd y dyn yn anymwybodol. Mae’n ddefnyddiwr heroin amser hir ac er i’r bobl eraill oedd yno ddweud nad oedd wedi cymryd unrhyw beth, roedd yn amlwg ei fod wedi gwneud hynny.

“Roedd yn anadlu’n llafurus iawn ac roedd yn anymwybodol felly rhoddodd y ddau ohonom ddos ​​yr un iddo o’r chwistrell roeddem yn ei gario.

“Mae’r chwistrell yn gweithio’n gyflym iawn ac o fewn tri munud fe ddechreuodd y dyn ddod at ei hun ond yn sicr roedd wedi bod mewn cyflwr gwael.

“Roedd yn dioddef hypothermia sy’n golygu bod tymheredd ei gorff wedi gostwng yn gyflym ac rwy’n credu ei fod o fewn ychydig funudau i farw ac er i’r ambiwlans gyrraedd yn gyflym, heb i’r dyn gael dos o’r chwistrell rwy’n credu y byddai wedi bod yn rhy hwyr.”

Hyfforddwyd y ddau swyddog i ddefnyddio Naloxone yr haf diwethaf ar ôl gwirfoddoli i gymryd rhan ac ychwanegodd y Cwnstabl Brownhill: “Hwn oedd y tro cyntaf i mi allu defnyddio’r Naloxone ond rwyf wedi cael fy ngalw o’r blaen i sawl digwyddiad gan gynnwys marwolaethau oherwydd gorddos cyffuriau.

“Mae’n dda gwybod y gallwn ni fod yn rhan o’r ateb yn yr achosion hyn yn hytrach na gorfod sefyll o’r neilltu a disgwyl am yr ambiwlans.”

Dywedodd y Cwnstabl Tapley, a ymunodd â’r Heddlu ddeng mlynedd yn ôl: “Chwistrell trwyn syml yw’r Naloxone ac fe weithiodd yn union fel y dywedwyd wrthym y byddai’n gweithio pan oeddem yn hyfforddi.

“Mi wnaethon ni ddarganfod wedyn mai achos o orddos heroin oedd hyn a bod y claf wedi gwella ond hebddo byddem wedi bod yn aros am yr ambiwlans ac mae’n debyg bod y criwiau ambiwlans hyd yn oed yn fwy prysur na ni yn y pandemig presennol.”

Digwyddodd yr achos cyntaf o achub bywyd yn ystod cyfnod treialu’r chwistrell fis ynghynt pan alwyd aelod arall o’r tîm gwirfoddolwyr, y Rhingyll Gill Roberts, sydd wedi’i lleoli yn yr Wyddgrug, i faes parcio gwesty gan swyddogion heddlu a oedd wedi dod o hyd i ddyn yn anymwybodol.

Dywedodd y Rhingyll Roberts, sydd wedi bod yn heddwas am 23 mlynedd: “Roedd uned arfau wedi dod o hyd i ddyn yn gorwedd ym maes parcio’r Holiday Inn yn Llaneurgain ar ôl i’w deulu adrodd ei fod ar goll a mynegi pryder am ei iechyd meddwl.

“Mi wnaethon nhw ddod o hyd i becyn o dabledi cysgu arno ac felly galwyd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a roddodd gyngor iddyn nhw y dylai rhywun â hyfforddiant Naloxone fod yn bresennol.

“Dydy swyddogion yr uned ddim wedi cael eu hyfforddi i ddefnyddio Naloxone ond mi rydw i felly mi wnes i deithio yno o’r Wyddgrug a chanfod y dyn wedi syrthio’n anymwybodol yn erbyn car.

“Mi wnes i wisgo fy PPE - Offer Amddiffynnol Personol - a rhoi dos o’r Naloxone iddo.

“Mae’n union fel unrhyw chwistrell trwyn arall ac rydych chi’n ei defnyddio yn yr un ffordd ac o fewn 30 eiliad roedd yn ymwybodol ac yn ymateb ac o’r pwynt hwnnw yn raddol fe ddaeth at ei hun nes i’r ambiwlans gyrraedd a mynd ag ef i’r ysbyty.”

Mae’r Comisiynydd yn ymgyrchydd ers amser hir yn erbyn deddfau cyffuriau y DU, y wlad sydd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn Ewrop.

Meddai: “Rwy’n falch iawn bod bywydau eisoes wedi’u hachub o ganlyniad i hyfforddi swyddogion heddlu i ddefnyddio chwistrell Naloxone.

“Hon yw egwyddor gyntaf plismona, sef ein bod ni yno i arbed bywydau ac amddiffyn pobl ac mae hyn yn rhan o’n gwaith craidd.

“Mae’n bwysig iawn i swyddogion heddlu allu achub bywyd a dyna pam mae’r hyfforddiant hwn mor bwysig oherwydd does dim byd gwaeth na chyrraedd digwyddiad a methu â helpu.

“Mae Naloxone yn gweithio fel diffibriliwr ac yn fy marn i does dim gwahaniaeth rhwng hyn a defnyddio diffibriliwr ar rywun sydd wedi cael trawiad ar y galon.”

Mae’r holl swyddogion heddlu sy’n cymryd rhan yn y cynllun treialu wedi gwirfoddoli i gario’r chwistrell, y gellir ei defnyddio i drin gorddos cyffuriau gan gynnwys cyffuriau heroin, fentanyl a chyffuriau lladd poen sydd ar gael ar bresgripsiwn, tra eu bod allan ar y rhawd ac mae ganddyn nhw offer amddiffyn personol gan gynnwys masgiau wyneb os oes angen iddyn nhw ddefnyddio’r chwistrell.

Dywedodd y Rhingyll Roberts, a hyfforddodd i ddefnyddio Naloxone ochr yn ochr ag Arfon Jones fis Mehefin diwethaf: “Mae’r gwasanaeth ambiwlans dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd ac yn aml mewn sefyllfaoedd gorddos yr heddlu sydd yn y fan a’r lle gyntaf ond heb Naloxone does fawr ddim y gallwn ei wneud.

“Mae’n llythrennol fel unrhyw chwistrell trwyn y byddech yn ei defnyddio ar gyfer rhywbeth fel clefyd y gwair ac mi wnaeth fy nharo y gallai cymryd rhywbeth syml fel hyn achub bywyd rhywun.

“Siaradodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Richard Debicki, â ni yn yr hyfforddiant ac mae’r Heddlu wedi bod yn gefnogol iawn ac mi wnaeth Arfon Jones hyd yn oed hyfforddi ochr yn ochr â mi ac felly hefyd yr Arolygydd Iwan Jones sy’n arolygydd tiriogaethol ar gyfer De Sir y Fflint.”

Ychwanegodd y Comisiynydd, sydd wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol cyn yr etholiad nesaf, y bwriedir ei chynnal ym mis Mai: “Mae gan bob bywyd werth cyfartal a’r peth pwysicaf yma yw bod y person yn fyw ond mae ystyriaethau eraill hefyd oherwydd pe na byddem wedi gallu adfer yr unigolyn yma, byddai wedi bod yn ofynnol cynnal ymchwiliad i farwolaeth yn dilyn cyswllt â’r heddlu.

“Mae budd i’r heddlu oherwydd gallai marwolaeth effeithio ar eu morâl a’u hiechyd meddwl, felly wrth i ni dreialu Naloxone rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei gyflwyno ledled y Gogledd cyn bo hir ac y byddwn yn hyfforddi mwy o wirfoddolwyr heddlu yn fuan.”

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki: “Mae’n galonogol dros ben gweld y defnydd o Naloxone yn gwneud gwahaniaeth wrth achub bywydau pobl.

“Rwy’n hynod falch o’r swyddogion hynny sydd wedi rhoi eu hunain gerbron i gael eu hyfforddi i ddefnyddio a chario Naloxone, ac sydd wedi gorfod ei ddefnyddio mewn dau achos yn ddiweddar.

“Rwy’n credu bod Heddlu Gogledd Cymru ar y blaen yma, ac rwy’n teimlo’n gryf mai dyma’r peth iawn i’w wneud wrth amddiffyn pobl sy’n agored i niwed.”