Skip to main content

Chwyldro technolegol i gadw plismyn ar y strydoedd

Dyddiad

Chwyldro technolegol i gadw plismyn ar y strydoedd

Mae pennaeth heddlu wedi datgelu y bydd chwyldro uwch-dechnoleg yn helpu i gadw plismyn ar y strydoedd yng ngogledd Cymru.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi disgrifio’r prosiect i ddarparu ap cyfathrebu symudol soffistigedig i bob heddwas rheng flaen, sy’n lleihau’r gwaith llenwi ffurflenni a hyd yn oed yn gwirio olion bysedd, fel “cam chwyldroadol ymlaen”.

Bydd yr ap yn cael ei lwytho ar ffonau symudol a gliniaduron fel rhan o'r strategaeth cyfathrebu digidol pedair blynedd sydd hefyd yn anelu at gadw cymunedau ledled y rhanbarth a'u timau plismona lleol mewn cysylltiad agos.

Bydd yn golygu y gall swyddogion heddlu dreulio mwy o amser allan ar y strydoedd yn dal drwgweithredwyr ac yn helpu'r cyhoedd, ac ar yr un pryd bydd yn lleihau’r gwaith papur yn ôl yng ngorsaf yr heddlu.

Mae'r prosiect yn un o raglenni blaenllaw olaf y Comisiynydd Jones, sydd wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr yn yr etholiad nesaf sydd i’w gynnal ar Fai 6.

Mae ei gynnig olaf ar gyfer gosod praesept gyda chynnydd wythnosol o 29c, cynnydd o 5.5 y cant fydd ond yn costio £14.94 yn ychwanegol y flwyddyn i Drethdalwyr Cyngor Band D, newydd ei gymeradwyo yn unfrydol gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Dywed yr Uwch-arolygydd Paul Jones: “Bydd datblygu’r ap rheng flaen hwn ar gyfer ffonau symudol a gliniaduron yn chwyldroi ein ffordd o weithio.

“Bydd yn golygu y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn un o brif Heddluoedd y DU o ran gallu rheng flaen digidol.

“Ein nod yw cael ap hollgynhwysol sy'n ein galluogi i wneud popeth sydd angen i ni ei wneud yn ein gwaith - bydd hyd yn oed yn gwirio olion bysedd rhywun.

“Bydd yn hawdd ei ddefnyddio ac mor hwylus i’w weithio ag unrhyw ap masnachol - bydd un swyddogaeth arno’n chwilio’r holl wahanol systemau cyfrifiadurol y mae angen i ni eu cyrchu ar yr un pryd, gan gynnwys Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Bydd y cyfan yn gyflymach, yn fwy greddfol ac yn fwy cywir.

“Os gall swyddog wneud ei holl waith papur yn electronig yn y fan a’r lle, heb ddyblygu a heb orfod mynd yn ôl i’r orsaf, mae’n arbed llawer iawn o amser y gellir ei dreulio wedyn yn gwneud gwaith rheng flaen.

“Ar ben hynny, os bydd yr ystafell reoli yn cysylltu â swyddog, bydd llawer o’r wybodaeth sydd ei hangen eisoes ar y ffôn symudol neu’r gliniadur, gan gynnwys hyd yn oed cyfarwyddiadau satnav. Mae hyn yn golygu na fydd angen i'r swyddog wastraffu amser yn cymryd nodiadau, siarad â’r ganolfan reoli neu dreulio amser maith yn chwilota ar gyfrifiadur.

“Mae’n fuddsoddiad sylweddol ond mae’r amser y byddwn yn ei arbed ac yn gallu ei ail-fuddsoddi yn y gymuned yn golygu ein bod yn gwario arian yn dda.

“Rydym wedi gweithio gyda darparwyr apiau i sicrhau y bydd gennym ni’r un cysylltedd â heddluoedd eraill sydd ag apiau tebyg.

“Rydym hefyd wedi gweithio gyda'n swyddogion i flaenoriaethu eu hanghenion a’n gobaith yw cael y system wedi'i chwblhau yn barod i'w rhoi ar waith tua diwedd y flwyddyn.

“Mae angen i ni gynnal proses dendro gystadleuol, cynnal profion ymarferoldeb a gwneud asesiad terfynol, ond y bwriad yw cyflwyno'r ap cyn gynted ag y gallwn.

“Rydym am i bawb ar y rheng flaen gael hwn, er mwyn iddyn nhw allu gwneud eu gwaith yn fwy effeithlon, yn fwy cywir ac yn fwy effeithiol.

“Mae hynny'n cynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac Ymchwilwyr Safleoedd Trosedd er enghraifft, yn ogystal â swyddogion ymateb a ditectifs.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn Arolygydd Heddlu ei hun: “Fel rhywun sy’n gwybod sut beth yw bod ar reng flaen plismona, rwy’n croesawu hyn a’r rhan a chwaraewyd yn ei gyflwyno gan y Prif Gwnstabl, Carl Foulkes, sy’n Arwain yr Heddlu yn Genedlaethol ar arloesi a thechnoleg.

“Mae'n gyffrous iawn gwneud y cyhoeddiad hwn oherwydd ei fod yn rhywbeth rydyn ni'n wirioneddol falch ohono ac mae'n rhywbeth y mae ein swyddogion rheng flaen wir ei angen ac yn rhywbeth a fydd o gymorth anferth iddyn nhw. Bydd yn trawsnewid pethau.

“Mae hyn yn rhan o’r prosiect swyddog heddlu cysylltiedig sy’n ymwneud â rhoi mwy o amser allan ar y strydoedd i’n swyddogion heddlu trwy roi dyfeisiadau fel gliniaduron, a ffonau symudol iddyn nhw a all wneud popeth y bydden nhw ar un adeg wedi gorfod mynd yn ôl i’r orsaf i’w wneud.

“Yn lle hynny, maen nhw rŵan yn gallu gwneud hyn tra maen nhw allan, ar y stryd neu hyd yn oed yn y caffi lleol sy'n golygu eu bod yn gallu treulio mwy o amser gyda'r cyhoedd.

“Mae’n ddefnydd llawer mwy effeithlon o’u hamser ac yn golygu mai dim ond unwaith yn hytrach na dwy neu dair gwaith y mae’n rhaid iddyn nhw wneud pethau.”

Mae'r prosiect yn un o gyfres o fesurau a nodwyd yng nghynllun plismona'r Comisiynydd.

Mae'n cael ei lansio yn erbyn cefndir o £2.9 miliwn o arbedion a gafodd eu hadnabod gan yr Heddlu sydd wedi dod ar ben y toriadau o £33 miliwn y flwyddyn a ddioddefodd Heddlu Gogledd Cymru o ganlyniad i doriadau llymder y Ceidwadwyr ers 2010.

Nod prosiect cyfathrebu digidol yr Heddlu hefyd yw cadw cymunedau a’u timau plismona lleol mewn cysylltiad agosach a dywedodd yr Uwch-arolygydd Helen Corcoran: “Bydd yn galluogi aelodau’r gymuned leol i fynd ar-lein i gyrraedd eu timau plismona lleol gydag unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.

“Ar yr un pryd, gallwn rybuddio’r cyhoedd am fygythiadau lleol penodol a’u cadw’n gyfredol am yr hyn rydym yn ei wneud, yn ogystal â ble a phryd rydym yn ei wneud.”

Bydd Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cael ei gryfhau gyda 62 o swyddogion newydd ac 20 o’r rheiny yn ymuno â thasglu newydd i arwain ymgyrch atal troseddu a deg arall yn ategu'r frwydr yn erbyn Troseddau Difrifol a Threfnedig yn y rhanbarth.