Skip to main content

Clwb bocsio yn taro nôl diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr

Dyddiad

120919 PCC BOX-1

Mae clwb bocsio wedi prynu offer newydd ac wedi carpedu'r gampfa gydag arian parod sydd wedi cael ei atafaelu gan droseddwyr.

Daeth y grant o £2,500 ar gyfer Clwb Bocsio’r Rhyl o gronfa arbennig a sefydlwyd gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Dyfarnwyd y grant fel rhan o fenter Eich Cymuned Eich Dewis sydd wedi'i anelu at sefydliadau sy'n addo rhedeg prosiectau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a brwydro yn erbyn trosedd ac anhrefn yn unol â'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu.

Mae'r cynllun, gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), yn defnyddio enillion gwael troseddwyr i ariannu grwpiau cymunedol.

Yn ôl y clwb, bydd y cyfleusterau wedi’u huwchraddio yn rhoi cyfle iddyn nhw gael hyd yn oed mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y gamp.

Galwodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol Gogledd Cymru, Sacha Hatchett, heibio i sesiwn hyfforddi i weld sut cafodd yr arian ei wario.

Dywed y prif hyfforddwr Dan Andrews, 34 oed, sy'n gweithio fel syrfëwr meintiau, mai ethos y clwb yw meithrin disgyblaeth ac mae'n dysgu pobl ifanc i barchu eu hunain fel unigolion yn ogystal â phobl eraill.

Meddai: “Fel clwb rydym ar agor bedair noson a dwy sesiwn bore bob wythnos. Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi a sbario i aelodau sy'n ferched a bechgyn o wyth oed i fyny yn ogystal â dynion a merched sy'n oedolion.

Mae ganddon ni focswyr sy’n cystadlu ar bob lefel yn ogystal ag aelodau sydd ddim eisiau cystadlu ond sy’n mwynhau hyfforddi a sbarian.

Mae’r grant o £2,500 gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi bod yn wych. Roedd ein hen garped wedi breuo’n ofnadwy a dim ond tâp oedd yn ei ddal efo’i gilydd. Ond rŵan mae ganddon ni deils carped newydd, wedi eu gosod ganddon ni ein hunain, sydd wedi golygu bod gennym ardal hyfforddi wych.

Roedd gennym hefyd ddigon o arian ar ôl i brynu rhaffau sgipio o bob maint, bag dyrnu newydd a gwarchodwyr pen. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i ni a fedrwn ni ddim diolch digon i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru.”

Dywedodd Dan fod Clwb Bocsio’r Rhyl wedi cael ei sefydlu dros 60 mlynedd yn ôl, yn 1958, gan yr hyfforddwr bocsio lleol, Paddy Kenny.

Meddai: “Yn anffodus, bu farw Paddy Kenny rai blynyddoedd yn ôl ond mae ei or-ŵyr, Owen Butters, yn aelod o’r clwb sy’n ymladd yn gystadleuol ac mae un o ddisgyblion bocsio Paddy, Mike Eccleston, yn hyfforddwr yma ac mae ganddo aelodau o’i deulu sydd hefyd yn aelodau.

Fel clwb rydan ni'n bocsio ledled Prydain pan rydan ni'n gallu. Ac er nad oes gennym bencampwyr bocsio ar hyn o bryd mae un o’n cyn-aelodau, Jack Bodway, a adawodd i ddilyn gyrfa filwrol, newydd ennill pencampwriaeth pwysau welter y Fyddin.”

Dywedodd Owen Butters, 17 oed: “Fy nod yw ymladd ar lefel Pencampwriaeth Cymru ac ar lefel amatur mor uchel ag y gallaf cyn troi’n focsiwr proffesiynol yn y pen draw.”

Dywed Luke Prescott, 17 oed, o’r Rhyl, sy’n gwybod, oherwydd ei gyflwr meddygol, na fydd yn gallu ymladd yn gystadleuol bod hyfforddi yn ei helpu i reoli ei iechyd.

Meddai: “Rwy’n dioddef o ffibrosis systig ac yn gorfod cymryd meddyginiaeth bob dydd. Mae'n golygu, oherwydd bod fy ysgyfaint yn llenwi efo mwcws, nad ydw i'n gallu ymladd yn gystadleuol. Ond er hynny, rwyf yn gallu hyfforddi'n galed ac mae hynny wedi fy helpu i reoli fy nghyflwr.

Rwy’n llawer gwell ers i mi ddechrau bocsio ac mae’r hyfforddiant, er ei fod yn galed, yn fy nghadw’n llawer mwy egnïol. Mae wedi bod yn help enfawr. ”

Dywedodd Mr Jones: “Mae hwn yn glwb cymunedol gwych ac mae gweld cymaint o bobl ifanc, bechgyn a merched, yn gweithio ac yn hyfforddi mor galed yn gampus.

Mae'r modd y mae'r clwb wedi'i drefnu yn wych ac mae'r cyfleusterau'n anhygoel. Dyma glwb sy'n gweithio i gadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd ac yn lle hynny rhoi ffocws a nod iddyn nhw weithio tuag ato. Hunanddisgyblaeth a pharch yw popeth.

Ac nid oes ots a yw aelodau’r clwb eisiau cystadlu neu dim ond mwynhau cadw’n heini a gweithio allan mae rhywbeth yma i bawb. Ni allaf feddwl am ddim ffordd well o ddefnyddio arian gwael sydd wedi’i atafaelu gan droseddwyr na’i roi yn ôl i gymuned fel Y Rhyl ac i gefnogi clwb fel hwn.”

Ategwyd y teimlad hynny gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett a ychwanegodd: “Mae aelodau’r clwb yn sianelu eu hegni i gamp sy’n dysgu disgyblaeth a sgiliau bywyd. Mae'n gamp fforddiadwy ac mae'r clwb hwn yn rhoi diddordeb a ffocws i bobl ifanc.

Pan mae aelodau’r clwb yn dod yma mae eu rhieni’n gwybod ble mae eu plant a’u bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil. Rydym bob amser yn clywed am ddiffyg darpariaeth ieuenctid ond mae clybiau fel Clwb Bocsio'r Rhyl yn profi nad yw hyn yn wir bob amser. Dyma glwb sy'n gwneud gwahaniaeth.”