Skip to main content

Cymuned Fwslimaidd garedig yn cefnogi banciau bwyd

Dyddiad

240420 PCC Food -3

Mae cymuned Fwslimaidd garedig yng Nghonwy wedi ymateb i apêl gan bennaeth heddlu i gefnogi banciau bwyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

 Fe roddodd Cymdeithas Islamaidd Conwy ddau gyflenwad sylweddol o fwyd i fanciau bwyd yn Abergele, Penmaenmawr, Llanfairfechan, Conwy, Bae Colwyn a Bae Cinmel.

 Roeddent yn ymateb i apêl gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, a oedd yn bryderus bod banciau bwyd yn brin o gyflenwadau i ateb y galw cynyddol a achoswyd gan gyfyngiadau’r pandemig.

Trefnwyd y rhodd gan Ghulam Yasin, perchennog garej Texaco yn Llanrwst, gyda chymorth y Cynghorydd Abdul Khan, is-gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda chymorth ei gyd-gynghorydd Plaid Cymru, Aaron Wynne.

Cyfarfu Mr Jones â’r ddau gynghorydd yn y ganolfan ddosbarthu yn Llanrwst er mwyn diolch iddynt a helpu i lwytho’r bwydydd i’w dosbarthu.

Dywedodd y Cynghorydd Khan: “Eleni, gofynnodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Arfon Jones i bobl roi mwy o gefnogaeth i fanciau bwyd ar yr adeg anodd hon.

“Mae Cymdeithas Islamaidd Conwy yn rhoi bwyd i’r gymuned yn rheolaidd yn enwedig ar ddechrau mis sanctaidd Islamaidd Ramadan ond eleni fe wnaethon ni benderfynu rhoi rhodd llawer mwy nag arfer.

“Mae gennym ddau baled llawn o fwyd a fydd yn cael eu dosbarthu rhwng gwahanol fanciau bwyd. Ond oherwydd ymarferoldeb trefnu i ddanfon y nwyddau rydym wedi gofyn i gynrychiolwyr y banciau bwyd ddod draw i un man cyfarfod yn Llanrwst er mwyn casglu’r bwyd.

“Mae Arfon Jones a fy nghyd-gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Conwy, Aaron Wynne, wedi cytuno i gefnogi a helpu gyda’r gwaith o lwytho’r bwyd i gerbydau.”

Dywed y Cynghorydd Khan, sydd hefyd yn berchennog Bwyty Clock House Bae Colwyn, fod Ramadan yn ŵyl bwysig iawn i’r gymuned Fwslimaidd.

Ychwanegodd: “Yn ystod Ramadan mae’n rhaid i Fwslim beidio â chymryd dim drwy ei geg rhwng codiad haul a machlud haul, ac mae hynny'n golygu peidio yfed, bwyta na hyd yn oed sigarét os yw’n ‘smygu.

“Diben hynny yw gwneud i ni werthfawrogi a deall sut y mae pobl newynog sydd heb fwyd na mynediad at ddŵr yn teimlo.

“Ac mae Islam yn ein dysgu nad oes dim gwahaniaeth pa grefydd neu ffydd rydym yn eu dilyn rydym i gyd yn fodau dynol ac mae angen cefnogaeth ar bawb ohonom. Dyna pam mae Cymdeithas Islamaidd Conwy yn rhoi’r rhodd hon, mae’n rhodd ar gyfer y gymuned gyfan.

“Nwyddau sych fel pasta a nwyddau tun fel ffa pob yw’r bwydydd yn bennaf. Ar yr adeg yma o ansicrwydd gyda’r Coronafeirws yn cael effaith mor ddwys ar gymdeithas, mae’n hanfodol ein bod ni, yn y gymuned Fwslimaidd, yn gwneud yr hyn a allwn i helpu’r gymuned gyfan.”

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wrth ei fodd bod Cymdeithas Islamaidd Conwy wedi ymateb i’w apêl.

Meddai: “Fedra i ond diolch o galon i’r gymuned Fwslimaidd am weithredu mewn ffordd mor anhygoel ac am ddangos cefnogaeth mor wych i fanciau bwyd ledled Conwy.

“Mae’r gymuned Fwslimaidd yn aml yn cael ei chamddeall ond mae gweithredoedd o garedigrwydd cymunedol fel hyn yn dangos bod gennym lawer mwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein rhannu.

“Roeddwn yn falch iawn o fynd draw i’r pwynt dosbarthu yn Llanrwst a rhoi help llaw i lwytho’r bwydydd ar gyfer y banciau bwyd.

“Mae argyfwng iechyd Covid-19 yn golygu bod llawer o fanciau bwyd yn cael dipyn llai o fwyd fel rhoddion nag yr oedden nhw’n ei gael cyn i’r pandemig ledaenu.

“Ond er bod y rhoddion yn lleihau mae’r galw yn cynyddu wrth i bobl ei chael hi’n anodd i brynu bwydydd bob dydd angenrheidiol.

“Mi fyddwn i’n gofyn i bawb i roi’r hyn y maen nhw’n gallu ei roi pan maen nhw’n gallu. Bydd pob rhodd waeth pa mor fawr neu fach yn gwneud gwahaniaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, o Lanrwst: “Gofynnodd y Cynghorydd Khan ac Imam Mosg Canolfan Iman yng Nghyffordd Llandudno i mi helpu gydar gwaith o  ddosbarthu’r bwyd a roddwyd ac roeddwn wrth fy modd o allu gwneud hynny.

“Roeddem yn meddwl ei bod yn haws gofyn i’r banciau bwyd deithio i Lanrwst i gasglu’r bwyd yn hytrach na gyrru o gwmpas yn dosbarthu’r rhoddion iddyn nhw.

“Rwyf wedi bod yn brysur yn cysylltu â’r banciau bwyd priodol ac mi wnes i fynd draw i’r pwynt dosbarthu ac ymuno efo’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’r Cynghorydd Khan i lwytho’r bwydydd i’r cerbydau.

“Rydym yn darllen ac yn clywed ar y newyddion byth a hefyd am y rhaniad honedig rhwng y gymuned Fwslimaidd a gweddill cymdeithas ond mae’n hollol anghywir.

“Yng Nghonwy mae gennym lawer o feddygon, nyrsys, gweithwyr siop, staff arlwyo a llawer o broffesiynau eraill sy’n Fwslimiaid ac maen nhw i gyd yn chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau lleol.”