Skip to main content

Cyn-weithiwr gofal yn siarad yn deimladwy am y modd y chwalwyd ei bywyd gan ddamwain angheuol

Dyddiad

240620 PCC Brake-3

Mae gwraig wedi siarad yn deimladwy am y modd y cafodd ei bywyd ei chwalu gan ddamwain ffordd angheuol a’i gadawodd gydag anafiadau a newidiodd ei bywyd.

Yn ôl y cyn-weithiwr gofal Caroline Franks, 60 oed, o Glyn Ceiriog, roedd hi’n cael trafferth delio â’r hyn a ddigwyddodd nes iddi dderbyn cefnogaeth gan Brake, elusen diogelwch ar y ffyrdd sy’n derbyn cyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Digwyddodd y gwrthdrawiad difrifol ym mis Medi 2018 pan oedd yn dychwelyd o fwynhau noson allan deuluol gyda’i mab, ei chyn bartner a’i fam.

Daeth fan wen rownd y gornel ar ochr anghywir y ffordd i lwybr eu car a oedd yn cael ei gyrru gan ei phartner.

Meddai Caroline, “Roeddem wedi bod allan am bryd o fwyd teuluol ac yn gyrru adref trwy’r Waun tua 8.30pm.

“Roeddwn i yn sedd y teithiwr, roedd fy mab, Ollie, a oedd yn y brifysgol ar y pryd, yn eistedd y tu ôl i sedd y gyrrwr wrth ymyl mam fy nghyn bartner a oedd yn eistedd yn syth y tu ôl i mi.

“Roeddem ger y ganolfan arddio yn y Waun pan welais fan wen. Roedd yn mynd yn rhy gyflym ac er mai dim ond eiliad gymerodd y peth i ddigwydd roedd fel petai amser yn symud yn araf iawn. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn mynd i’n taro ni, ac nid oedd gan fy mhartner ar y pryd unrhyw obaith o’i osgoi.

“Yn dilyn y gwrthdrawiad fe’m gadwyd efo anafiadau a newidiodd fy mywyd, cafodd mam fy mhartner ei hedfan i Stoke ond bu farw o’i hanafiadau difrifol bythefnos yn ddiweddarach.

“Dioddefodd fy mab gleisiau i’w abdomen ond llwyddodd i ddianc rhag anaf difrifol tra gwnaeth fy mhartner ddianc yn gymharol ddianaf.”

Ychwanegodd: “Yn dilyn y ddamwain mi wnes i ddioddef waedu mewnol yn yr abdomen a lwmp maint pêl rygbi yn fy abdomen. Cefais lawdriniaeth yn Wrecsam. Ond fel digwyddodd pethau yr anaf gwaethaf oedd yr un i’m troed chwith a gafodd ei malu’n llwyr.

“Erbyn hyn rwy’n gallu cerdded ond mae gen i gloffni parhaol ac roeddwn i fod i fynd yn ôl i Wrecsam i drafod gyda’r llawfeddyg ymgynghorol a ddylwn i gael mwy o lawdriniaeth er mwyn asio fy ffêr ond mae’r pandemig yn golygu bod hynny wedi’i ohirio.

“Mi allai hynny helpu gyda’r boen gyson a’r ffaith nad wyf yn gallu sefyll ar fy nhraed am gyfnodau hir. Mae sgriwiau a phinnau yn dal fy nhroed gyda’i gilydd eisoes a dydw i ddim siŵr a allaf wynebu llawdriniaeth arall.

“Mae Ollie wedi gwella’n gorfforol ond yn feddyliol mae’n anoddach. Mae’n dal yn nerfus iawn ynglŷn â theithio mewn car ac mae’n osgoi gwneud hynny os yw’n gallu.”

Dywed Caroline ar ôl y ddamwain iddi gael ei gadael mewn cadair olwyn ac iddi hi a’i phartner wahanu ond yna cafodd ei gadael heb wybod beth oedd yn digwydd ynghylch y ddamwain.

Meddai: “Doeddwn i ddim wedi clywed dim a chefais ddiagnosis gan fy meddyg teulu fy mod yn dioddef o iselder ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Trefnodd fy meddyg teulu i mi gael cwnsela ond dim ond ar ôl i mi gysylltu â Brake y cefais y cymorth mwyaf defnyddiol yn dilyn y ddamwain.

“Mi wnes i eu ffonio ac fe gawson nhw’r heddlu i siarad efo mi. Roedd yr heddlu’n siarad efo fy nghyn bartner am y ddamwain gan mai fo oedd y gyrrwr ond doedd o ddim yn dweud wrtha i  beth oedd yn digwydd.

“Roedd angen i mi wybod beth oedd yn digwydd i yrrwr y fan, gan fy mod i’n gwybod ei fod wedi cael ei gyhuddo o yfed a gyrru, achosi marwolaeth mam fy nghynbartner ac achosi anaf difrifol i mi. Cadwodd Brake mewn cysylltiad a rhoi llawer o help i mi.

“Yn y pen draw, dedfrydwyd y gyrrwr i chwe blynedd o garchar a oedd yn deg yn fy marn i. Ond mae’n ymddangos iddo gael pedair blynedd o ddedfryd am achosi marwolaeth a dwy flynedd am achosi fy anaf difrifol a bod y dedfrydau hynny i gydredeg. Felly mewn gwirionedd, bydd allan o’r carchar ar ôl treulio tua hanner y pedair blynedd dan glo.

“Does dim pwynt bod yn ddig serch hynny, mae’n rhaid i chi adael iddo fynd. Erbyn hyn, ni allaf wneud y gwaith gofalu roeddwn i’n arfer ei wneud gan na allaf sefyll ar fy nhraed am gyfnodau hir ac yn gweithio i ffrind gan wneud gwaith clerigol 10 awr yr wythnos i’w busnes.

“Rwyf bob amser wedi bod yn yrrwr pwyllog ond rwyf hyd yn oed yn fwy felly rŵan. Mae’n gas gen i yrru a bod mewn car ond gan fy mod i’n byw mewn ardal wledig does gen i fawr o ddewis. Roedd yn brofiad ofnadwy ac rwy’n dal i ddioddef yn gorfforol ond mae pethau’n haws erbyn hyn.

“Ac mae llawer o hynny yn ganlyniad i’r help a’r gefnogaeth a gefais gan Brake. Ni allaf eu canmol ddigon.”

Dywedodd Arfon Jones, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, sy’n gyn-arolygydd heddlu ei hun: “Rwy’n falch o allu cefnogi Brake yn eu gwaith gyda dioddefwyr damweiniau angheuol ac anafiadau difrifol yma yng ngogledd Cymru.

“Gall yr elusen gamu i mewn a chefnogi pobl ar adeg pan mae angen help a chyngor arnyn nhw. Rwy’n gwybod o fy nghyfnod yn gwasanaethu yn yr heddlu yr effaith niweidiol y gall gwrthdrawiad mewn damwain ar y ffordd fawr ei chael ar deuluoedd ac unigolion.

“Dylid gwneud unrhyw beth posib i helpu’r dioddefwyr hyn i gael y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

“Rwy’n gwybod bod yr elusen yn gwneud defnydd da o’r cyllid y mae fy swyddfa yn ei ddarparu er mwyn helpu pawb sydd wedi’u heffeithio gan anafiadau difrifol a damweiniau ffyrdd angheuol ar draws y Gogledd.”

Ychwanegodd: “Wrth gwrs rwy’n siŵr o ddweud y gallem i gyd helpu i leihau’r galw  am wasanaethau Brake trwy feddwl am ein defnydd o’r ffordd fawr a gyrru cerbydau modur mewn ffordd gyfrifol a gofalus.

“Os gallwn leihau goryrru, yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau yna gall pawb ohonom chwarae rhan mewn achub bywydau.”

Ategwyd y neges gan Reolwr Datblygu Partneriaeth Brake, Jennifer MacDuff, a ddiolchodd i Mr Jones am yr arian a ddarparwyd ganddo.

Meddai: “Yn ystod y 12 mis diwethaf mi wnaeth llinell gymorth Brake yma yng ngogledd Cymru sicrhau bod tri theulu a oedd mewn galar dwys ar ôl colli anwyliaid mewn damweiniau angheuol yn cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt.

“Mi wnaethon ni hefyd gefnogi saith o bobl eraill a ddioddefodd anafiadau difrifol ar ôl bod mewn damweiniau, a dosbarthu 50 o’n pecynnau profedigaeth a 10 llyfr gwybodaeth i blant.

“Yn dilyn pob damwain angheuol neu anaf difrifol mae heddwas yn gadael copi o becyn profedigaeth Brake gyda’r teulu.