Dyddiad
Ar ddydd Llun 10 Gorffennaf, rhannwyd stori Olivia Alkir, geneth ifanc o Ruthun, yn Portcullis House, Westminster. Roedd oddeutu 50 yn bresennol, gan gynnwys aelodau'r Tŷ Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, ymgyrchoedd diogelwch ffyrdd, cynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys, swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, a'r diwydiant yswiriant, gyda'r nod o wneud ffyrdd ein gwlad yn fwy diogel i bobl ifanc.
Mae Stori Olivia yn ffilm sy'n dweud am y digwyddiadau trasig ynghylch marwolaeth Olivia, 17, o Ruthun, a laddwyd ym mis Mehefin 2019 yn dilyn gwrthdrawiad a achoswyd gan ddau yrrwr ifanc yn rasio. Mae'r ffilm, sy'n cynnwys ei theulu, ffrindiau ac athrawon, wedi cael ei defnyddio mewn ysgolion er mwyn annog diogelwch ffyrdd a rhybuddio pobl ifanc am beryglon gyrru gwael.
Noddwyd y digwyddiad gan y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd. Hon ydy'r etholaeth sy'n cynnwys cartref Olivia yn Efenechtyd a lleoliad y ddamwain ar y B5105. Roedd presenoldeb cryf yn y digwyddiad gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef Andy Dunbobbin.
Roedd y dangosiad arbennig hwn yn y Senedd yn gyfle i rannu'r neges o'r ffilm yn gyfle i rannu'r neges tu ôl i'r ffilm a'i thema allweddol sef diogelwch ar y ffyrdd. Mae Jo Alkir, mam Olivia, yn ymgyrchu i flwch du gael ei osod yng ngheir pobl ifanc. Mae hyn er mwyn monitro gyrru a cheisio atal trasiedïau pellach fel un Olivia.
Gall y wybodaeth a gesglir drwy'r blwch du gael ei defnyddio gan yswiriwr er mwyn darparu polisi yswiriant telemateg. O'r wybodaeth hon, gall yr yswiriwr roi sgôr i'r gyrrwr am eu gyrru. Gall hyn wedyn effeithio faint maent yn ei dalu am eu polisi yswiriant car a'u hannog i yrru'n fwy diogel. Mae Jo Alkir hefyd yn cefnogi cynigion i atal gyrwyr amhrofiadol rhag cario teithwyr ifanc yn syth ar ôl llwyddo'n eu prawf gyrru. Byddai'r cynllun 'trwydded yrru graddedig' yn golygu na fyddai'r rhai hynny o dan 25 oed yn cael cario teithwyr o dan yr oed hwnnw am 6 i 12 mis ar ôl llwyddo'n eu prawf gyrru.
Yn dilyn cyflwyniad a chroeso gan y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, gwnaeth Jo Alkir ac Andy Dunbobbin rannu eu safbwyntiau gyda gwesteion. Dangoswyd y ffilm wedyn. Siaradodd y Rhingyll Liam Ho o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru am bwysigrwydd gosod blwch du mewn ceir a sut y gallent wneud ffyrdd yn fwy diogel i bobl ifanc. Gwnaeth Seb Simpson, ffrind ysgol Olivia, o Graigadwywynt, Rhuthun, rannu ei farn ar yr hyn mae'r ffilm yn ei olygu iddo ef ac effaith y drasiedi ar y bobl a oedd yn adnabod Olivia. Gwnaeth yr ystafell wedyn drafod sut y gall llywodraeth San Steffan, llywodraeth leol a diwydiant weithio ymhellach gyda'i gilydd er mwyn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bobl ifanc. Cafwyd cyfraniadau gan sawl AS a oedd yn bresennol yn y gynulleidfa gan gynnwys Dr James Davies AS, Dyffryn Clwyd; Robin Millar AS, Aberconwy; Mark Tami AS, Alyn a Glannau Dyfrdwy; ac Ian Levy, AS Blyth Valley yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr. Canmolodd Ian Levy Jo Alkir a siaradodd am brofiadau ei deulu ei hun o anafiadau o wrthdrawiadau cerbyd. Roedd Pat Astbury, Cadeirydd Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sy'n byw yn Rhuthun hefyd yn bresennol er mwyn cefnogi'r ymgyrch a siarad â'r rhai a oedd yn bresennol.
Hanes y ffilm a'i heffaith mewn ysgolion
Ers lansio ffilm Stori Olivia, mae gwersi hefyd yn cael eu cyflwyno ym mhob ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru. Mae'r ffilm ar gael yn genedlaethol drwy SchoolBeat. Mae Stori Olivia hefyd wedi derbyn sylw ledled y DU, gyda nifer o gyfryngau newyddion yn adrodd hanes y ffilm a'i neges bwysig. Mae hyn yn cynnwys The One Show ar y BBC.
Y gynulleidfa darged o'r dechrau ydy rhai 14-20 oed a oedd mewn ysgolion a cholegau. Y gobaith i'r dyfodol ydy y bydd yn cael ei chyflwyno mewn Clybiau Ieuenctid, Ffermwyr Ifanc, Cadetiaid Heddlu ac unrhyw amgylchfyd arall sydd â phobl ifanc o fewn y grŵp oedran targed, fel eu bod yn deall y neges o gadw'n ddiogel ar y ffordd.
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus David Jones AS: "Roeddwn yn falch o groesawu Jo Alkir i San Steffan a rhoi'r cyfle i gydweithwyr weld Stori Olivia. Mae colli plentyn yn y fath amgylchiadau yn drasiedi. Ond mae Jo yn ddewr wedi penderfynu defnyddio'r cyfle i ledaenu'r neges am beryglon goryrru ac ymgyrchu am fesurau newydd a fydd yn gwneud ffyrdd yn fwy diogel i bobl ifanc. Mae hi'n ddynes hynod, ac roedd yn faint bod gyda hi heddiw."
Dywedodd Jo Alkir: "Roedd golygu llawer iawn mynd â Stori Olivia i Lundain a rhannu stori fy merch annwyl. Rwyf yn benderfynol weld newid yn digwydd, fel y gellir osgoi'r hyn a ddigwyddodd i Olivia. Buaswn hefyd yn hoffi gweld Stori Olivia yn cael ei dangos i fyfyrwyr ledled y DU. Buaswn yn annog unrhyw un sydd eisiau gweld ein plant yn fwy diogel ar y ffyrdd i ymuno â'n hymgyrch."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn fraint cyorthwyo rhannu neges rymus Stori Olivia yn San Steffan gydag aelodau seneddol, ymgyrchwyr ac aelodau o'r gwasanaethau brys. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, mae gwella diogelwch ffyrdd i bawb, ond yn enwedig i'n pobl ifanc, yn flaenoriaeth fawr.
"Hoffwn dalu teyrnged i Jo Alkir a'i hymgyrch rwyf yn ei chefnogi'n llwyr er mwyn ceisio addysgu pobl ifanc am beryglon goryrru ac annog y Llywodraeth er mwyn newid y rheolau ynghylch moduro er mwyn atgyfnerthu'r neges hon. Rwyf yn gobeithio y gall Stori Olivia fod yn gatalydd newid mewn diogelwch a meddylfryd ynghylch gyrru, yng Ngogledd Cymru a drwy'r DU."
Ceir mwy o wybodaeth ar: Olivia Alkir – In Olivia's memory (olivia-alkir.co.uk)