Skip to main content

Datganiad CHTh ar Ddiwrnod Stephen Lawrence 2023

Dyddiad

AD at desk

"Mae'n bwysig heddiw ein bod yn cofio am fywyd a gwaddol Stephen Lawrence, ddeg mlynedd ar hugain ers ei lofruddiaeth. Hoffwn dalu teyrnged arbennig i'w deulu a'i ffrindiau, sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y tair degawd diwethaf yn eu brwydr am gyfiawnder, cydnabyddiaeth a newid.  Mae eu dewrder a'u penderfyniad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

⁠"Roedd marwolaeth Stephen yn 1993, a'r digwyddiadau ddilynodd, yn drobwynt wrth amlygu hiliaeth sefydliadol o fewn y gwasanaeth heddlu. Ers hynny, mae llawer wedi newid ac mae gwell dealltwriaeth, cydnabyddiaeth a gweithredu ynghylch ymdrin â hiliaeth a rhagfarn. Fodd bynnag, mae achosion diweddar yn Heddlu'r Met a mannau eraill yn dangos fod y gwaith hwn eto i'w gwblhau. Mae gennym lawer mwy i'w wneud er mwyn sicrhau fod pawb yn cael eu trin yn gyfartal mewn plismona ac yn ein cymdeithas.

Mae Sefydliad Diwrnod Stephen Lawrence, a'i goffâd blynyddol o fywyd Stephen, yn anelu hyrwyddo cymdeithas deg lle gall pobl fyw eu bywydau heb ragfarn a gwahaniaethu, waeth beth fo'u hil neu gefndir. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio'n benodol ar yr hyn ellir ei gyflawni drwy waith adeiladol yn ein cymunedau. Mae'r neges gymunedol bwysig hon yn un rwyf yn angerddol amdani yn fy rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Rwyf yn credu fod ein holl gymunedau ledled y rhanbarth yn gallu cynorthwyo a dysgu o'n gilydd wrth greu cymdeithas fwy cyfiawn. 

"Ddeg mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, rydym yn cofio Stephen fel symbol o effaith dinistriol troseddau casineb, ond rydym hefyd yn ei gofio fel symbol o'r newid rydym i gyd eisiau ei weld yn digwydd. Fel CHTh, gwnaf barhau i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn plismona ac o fewn ein cymunedau. Rwyf yn eich annog i gyd i wneud eich rhan – heddiw a phob diwrnod wrth symud ymlaen."

Andy Dunbobbin

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru