Skip to main content

Dathlu diwylliant ac amrywiaeth yn Ysgol Uwchradd Prestatyn

Dyddiad

Prestatyn High School 2

Ar fore dydd Llun, 27 Mawrth, aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd i Ysgol Uwchradd Prestatyn er mwyn cymryd rhan yng Ngŵyl Diwylliant ac Amrywiaeth blynyddol yr ysgol.  Tra yn yr ysgol, gwnaeth y Comisiynydd hefyd brofi'r amrywiaeth eang o ddiwylliannau a chefndiroedd sy'n gwneud cymuned ehangach Prestatyn.  Mae digwyddiadau i nodi'r wyl yn digwydd yn yr ysgol drwy gydol yr wythnos o ddydd Llun 27 Mawrth i ddydd Gwener 31 Mawrth ac mae disgyblion ysgol gynradd lleol hefyd yn ymweld er mwyn ymuno yn yr hwyl a'r gweithgareddau.

Ymysg y gweithgareddau a welodd y CHTh oedd yr iaith Arabaidd, dawnsio Samba gyda'r cyn ddisgybl Chloé Waggett o'r Co.Creative Performance Company, a choginio Jamaicanaidd gyda'r cogydd a'r entrepreneur lleol (a'r cyn fyfyriwr) Charlotte Stanley) o Westy Caribïaidd Up a Yard yn Nhreffynnon Gwnaeth Andy Dunbobbin hefyd gyfarfod dysgwyr o'r grwp myfyrwyr atal gwahaniaethu o flaen murlun amrywiaeth yr ysgol sydd newydd gael ei beintio. Mae'r ysgol yn gobeithio y bydd yn dod yn ganolbwynt i fywyd myfyrwyr. Treuliodd y CHTh amser gyda'r dysgwyr, yn siarad gyda nhw am gynnydd yr ymgyrch atal gwahaniaethu ers yr haf diwethaf. Gwnaeth hefyd gyfarfod â myfyrwyr iau sydd wedi ymuno â'r grŵp yn fwy diweddar. 

Cafodd gwaith myfyrwyr Ysgol Uwchradd Prestatyn er mwyn hyrwyddo a chroesawu amrywiaeth ei gydnabod gan y CHTh llynedd yn ei Wobrau Cymunedol. Enillodd pedwar o fyfyrwyr yr ysgol – Ameera Ahmad, Karly Larkin, Beth Rhodes, Morgan Wall – y Wobr Pobl Ifanc am greu'r ymgyrch 'Gwahaniaethu. Mae'n gyfrioldeb i mi.' Datblygwyd yr ymgyrch hon yn 2020 yn dilyn sgwrs rhwng Ameera a'r Dirprwy Bennaeth. Mynegodd Ameera, a oedd ym mlwyddyn 10 ar y pryd, ei phryderon ynghylch gwahaniaethu ac ansensitifrwydd diwylliannol. Sbardunodd hyn ar greu'r grŵp a gweithredu pellach gan yr ysgol ynghylch hyrwyddo amrywiaeth. 

Mae'r ymgyrch wedi creu newid ac wedi bod yn ffordd o ddangos ymroddiad yr ysgol i gael gwared ar wahaniaethu a chreu newid cadarnhaol. Mae hefyd wedi cynorthwyo ymgorffori gwers newydd o fewn cwricwlwm yr ysgol wedi ei anelu at fynd i'r afael â gwahaniaethu, rhagfarn a bwlio. Mae'r gwaith bellach wedi arwain at greu'r ŵyl newydd hon a dathlu enaid yr ysgol – diwylliant ac amrywiaeth ei myfyrwyr a'i rhieni. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn wych cael ymweld ag Ysgol Uwchradd Prestatyn er mwyn gweld yr holl waith ysbrydoledig maent yn ei wneud er mwyn sicrhau bod cymuned yr ysgol mor gynhwysol, croesawgar ac amrywiol â phosibl. Roedd hefyd yn bleser profi cyfoeth diwylliannau cymuned ehangach Prestatyn. 

"Rydym i gyd eisiau Gogledd Cymru fod yn lle goddefgar a chroesawu i bawb, beth bynnag fo'u hil, crefydd, rhywioldeb, hunaniaeth o ran rhywedd neu anabledd. Mae atal unrhyw fath o drosedd casineb yn rhan allweddol o'm Cynllun Heddlu a Throsedd. Mae cymdeithas oddefgar wedi'i hadeiladu ar sail gadarn addysg. Mae'r hyn rydym yn ei ddysgu pan ydym yn ifanc yn cynorthwyo ein dylanwadu a'n cyfoethogi ni am oes. Rwyf yn cymeradwyo Ysgol Uwchradd Prestatyn am gynnal yr Ŵyl Diwylliant ac Amrywiaeth ac am ddangos fod croeso i bawb, bod pawb yn cael eu gwerthfawrogi a bod pawb yn gyfartal."

Dywedodd Neil Foley, pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn: ⁠"Fel ysgol, rydym mor falch o'n pobl ifanc sy'n gwrthsefyll pob math o wahaniaethu. Nid yn unig mae'r grŵp atal gwahaniaethu wedi datblygu strategaeth arloesol er mwyn ymdrin â gwahaniaethu, maent hefyd wedi arwain y ffordd wrth ddangos i ddisgyblion eraill y gall pobl ifanc fod yn effeithiol yn y ffordd fwyaf anhygoel. Mae'n fraint gen i fod yn bennaeth ar ddisgyblion mor ddewr. Rwyf yn falch fod y gwaith hwn yn cael ei gydnabod gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a phobl eraill yn ein cymuned. Rwyf yn gwybod mai ond dechrau'r daith ydy hyn i'n disgyblion ddileu gwahaniaethu."

Dywedodd Grace Mullan, myfyriwr 15 oed o Brestatyn: "Amrywiaeth ydy'r hyn sy'n ei gwneud ni, felly gadewch i ni ddathlu gyda'n gilydd. Mae ein tîm arweinyddiaeth yn Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi cynorthwyo agor ein llygaid i'r amrywiaeth o'n hamgylch. Felly, fel myfyrwyr, mae'n bwysig ein bod yn cynorthwyo agor llygaid pawb arall i'n cymuned, a dyma'r hyn mae'r ŵyl yn ei wneud."