Skip to main content

Dioddefwr cam-drin plant yn siarad yn deimladwy am sut arbedodd elusen ei bywyd

Dyddiad

Dioddefwr cam-drin plant yn siarad yn deimladwy am sut arbedodd elusen ei bywyd

Mae dynes ysbrydoledig o ogledd Cymru wedi siarad yn deimladwy am y modd y mae hi wedi rhoi ei bywyd yn ôl at ei gilydd ar ôl iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan ei brawd hŷn pan oedd yn wyth oed.

Daeth Megan, nid ei henw iawn, yn ôl o ddibyn hunanladdiad diolch i gymorth elusen Stepping Stones Gogledd Cymru, sy’n cefnogi pobl sydd wedi goroesi cael eu cam-drin yn rhywiol yn eu plentyndod, ac mae hi bellach wedi mynd i’r brifysgol i astudio hanes.

Mae’r ddynes 58 oed yn argyhoeddedig na fyddai’n fyw heddiw heb gymorth yr elusen sy’n cael ei hariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.

Ei nod yn awr yw cymhwyso fel athrawes a gweithio gyda phlant problemus.

Mae’r elusen, a sefydlwyd yn 1984, ar gael i oedolion, yn rhad ac am ddim gyda chwnselwyr yn gweithio ledled y Gogledd.

Yn ychwanegol at y cyllid rheolaidd y mae’n ei ddarparu i sefydliadau sy’n gweithio gyda dioddefwyr sydd wedi’u cam-drin yng Ngogledd Cymru, mae Mr Jones wedi sicrhau £238,000 ychwanegol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i’w helpu i ymdopi â’r heriau ychwanegol a achoswyd gan yr argyfwng coronafeirws.

O ganlyniad, mae Stepping Stones Gogledd Cymru wedi derbyn £29,750 yn ychwanegol i gefnogi cleientiaid ar eu rhestr aros, sydd wedi eu galluogi i gynnig mwy o slotiau ar gyfer cwnsela a gwneud iawn am y cyfleoedd codi arian a gollwyd.

Ymhlith y rhai sydd wedi elwa o’r gwasanaeth y mae Megan, a dywed bod ei chreithiau emosiynol yn dal i redeg yn ddwfn.

Wrth gofio yn ôl dywedodd: “Pan oeddwn i’n wyth oed mi wnaeth fy mrawd, a oedd yn 15 oed ar y pryd, ymyrryd â mi. Rhoddodd arian i mi i gadw’n dawel, ac aeth y peth ymlaen am flynyddoedd. Rwy’n cofio bod yn wyth ac rwy’n cofio bod yn 10 ond ychydig iawn rwy’n ei gofio am y ddwy flynedd yn y canol. Rydw i wedi ei gau allan o fy meddwl.

“Rwy’n cofio bod yn 10 oed pan ddywedodd fy chwaer wrth fy mam a fy mrawd, a chawsom sgwrs yn yr ystafell ffrynt. Dydw i ddim yn cofio beth a ddywedwyd yn union ond roeddwn i’n teimlo mai fi oedd y bai. Roedd fel pe bai o’n ymarfer nes iddo gael cariad. Mi wnes i hyd yn oed gael fy ngalw’n butain am gymryd arian ganddo.

“Wnes i erioed wario’r pres, ac mi wnes i ei o'r golwg, doeddwn i ddim eisiau’r arian o gwbl, roeddwn i ond eisiau i’r cam-drin ddod i ben. Ond ar ôl y sgwrs gyda mam, ni adawyd fy mrawd ar ei ben ei hun efo mi eto.

Yn ôl Megan, parhaodd ei bywyd i fynd ar i waered wrth iddi wneud rhai dewisiadau gwael iawn.

Meddai: “Roeddwn yn briod yn 20 oed ac wedi ysgaru yn 22. Mae’n hawdd bod yn ddoeth wrth edrych yn ôl, roeddwn i’n rhedeg i ffwrdd heb neb i siarad efo nhw ac ni wnaeth fy ngŵr erioed ddeall beth ddigwyddodd.

“Roedd bod yn briod yn 20 oed yn gamgymeriad, roeddwn i’n feichiog yn gyflym ond roedd fy ngŵr yn eithaf ofnadwy ac yn fy nghuro’n ddu las. Cawsom ddau o blant, mab a merch. Ar ôl i ni wahanu fe ddaethon ni yn ôl at ein gilydd eto ond doedd pethau byth yn mynd i weithio.

“Rwy’n dod ymlaen yn dda iawn efo fy merch, ac mae hi bellach yn 30 oed ac mi fyddai fy mab wedi bod yn 37 oed eleni, ond bedair blynedd yn ôl mi wnaeth o gymryd ei fywyd. Roedd o’n dioddef iselder. Roedd y profiad yn waeth gan fod fy mab a minnau wedi ymddieithrio a doeddwn i ddim wedi ei weld o ers peth amser.”

Ar ôl gwrthod cymryd meddyginiaeth, cafodd Megan ei chyfeirio gan ei meddyg teulu at Stepping Stones Gogledd Cymru, sydd â swyddfa yn Wrecsam.

Meddai: “Roeddwn ar chwâl yn feddyliol ar y pryd a doedd gen i ddim ots beth fyddai’n digwydd i mi. Byddwn yn gyrru’r car ar gyflymder hurt ac yn cymryd risgiau gwirion. Roeddwn i jesd ddim yn poeni. Roeddwn bob amser yn orbryderus ac roeddwn wedi gadael i bethau gronni. Roeddwn fel potel o bop a oedd wedi cael ei hysgwyd ac yn barod i ffrwydro.

“Mi wnes i weithio efo therapydd Stepping Stones Gogledd Cymru am ddwy flynedd. Wna i ddim smalio dweud ei fod o’n hawdd, ac roedd yn anoddach fyth ar ôl i fy mab farw.

“Dydi therapi ddim yn hawdd. Mae fel tynnu crachen oddi ar eich bywyd a gadael i’r holl ddrwg lifo.

“Mi wnaeth Stepping Stones Gogledd Cymru nid yn unig arbed fy mywyd, ond rhoddodd fy mywyd i mi. Ymunais â’u grŵp ‘goroeswyr’ a dechrau mynd i’w dosbarthiadau addysg mathemateg a Saesneg ac mi wnaeth hynny fy ngalluogi i gael fy nghymwysterau TGAU.

“Yna cofrestrais yn y coleg a gwneud cwrs mynediad dwy flynedd a gwneud cais i’r brifysgol. Rwyf bellach wedi cwblhau blwyddyn gyntaf gradd mewn hanes a fedra i ddim aros i’r ail flwyddyn gychwyn unwaith y bydd y pandemig wedi lleihau.

“Fy mreuddwyd rŵan ydi gorffen fy ngradd ac yna dysgu. Hoffwn weithio efo plant anodd, a’r rhai sydd wedi cael profiadau gwael hefyd. Rydw i’n gallu eu deall nhw ac mi wna i wrando ar eu stori bob amser.”

Mae Rheolwr Digwyddiadau a Gwirfoddolwyr Stepping Stones North Wales, Shirley McCann, yn disgrifio Megan fel ysbrydoliaeth.

Meddai: “Mi wnes i gyfarfod â Megan rai blynyddoedd yn ôl ar ôl iddi fod trwy therapi gyda chynghorydd Stepping Stones Gogledd Cymru. Unwaith roedd hi’n teimlo’n barod, mi wnaeth hi ymuno â’n Grŵp Camau Nesaf. Mi wnaeth hi wir fwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau ac aeth ymlaen i ymuno â’n dosbarthiadau addysg. Llwyddodd yn rhagorol, daeth yn fyw a blodeuo.

“Ar y dechrau, doedd ganddi ddim llawer o hyder a dim hunanwerth, ond mae hi wedi blodeuo a hyd yn oed wedi ennill gwobr myfyriwr y flwyddyn, rydw i’n teimlo mor falch ohoni.

“Heb gefnogaeth ariannol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ni fyddem yn gallu cynnig ein gwasanaeth.

“Mae’r ffôn yn canu bob dydd gyda dioddefwyr yn ceisio cymorth a chefnogaeth. Rydym yn elusen fechan, dim ond un gweithiwr amser llawn a thri gweithiwr rhan amser sydd gennym gyda chwnselwyr hyfforddedig yn barod i helpu hefyd.

Mae’r Comisiynydd Arfon Jones wrth ei fodd gyda llwyddiant Stepping Stones Gogledd Cymru ac mae wedi addo parhau i gefnogi’r elusen.

Meddai: “Mae stori Megan yn dorcalonnus ac yn ysbrydoledig. Mae cam-drin rhywiol yn drosedd ddifrifol sydd â chanlyniadau hirhoedlog i ddioddefwyr.

“Fodd bynnag, diolch i waith cwnselwyr Stepping Stones Gogledd Cymru a’r Grŵp Camu Nesaf mae hi’n ffynnu ac yn gwneud bywyd newydd iddi hi ei hun, un y mae hi’n ei haeddu’n fawr.

“Rwy’n gweld Stepping Stones Gogledd Cymru fel gwasanaeth hanfodol. Mae cam-drin rhywiol yn drosedd gudd ac yn rhywbeth y mae angen i ni, fel cymdeithas, fynd i’r afael ag ef. Mae’n rhaid i’r dioddefwyr ddod gyntaf, ac rydw i wrth fy modd fy mod i’n gallu cefnogi’r elusen anhygoel hon i gyflawni’r gwaith hanfodol y mae’n ei wneud.”