Skip to main content

Dioddefwr pedoffeil ffiaidd yn annog goroeswyr eraill i beidio dioddef yn ddistaw

Dyddiad

Dioddefwr pedoffeil ffiaidd yn annog goroeswyr eraill i beidio dioddef yn ddistaw

Dylai unrhyw un yng ngogledd Cymru sydd angen cymorth ffonio Cerrig Camu Gogledd Cymru ar 01978  352717 neu ymweld â'r wefan yn  www.steppingstonesnorthwales.co.uk


Mae dyn ifanc a gafodd ei gam-drin yn rhywiol gan bedoffeil ffiaidd wedi annog dioddefwyr eraill i geisio cymorth.

Mae Dean, 28 oed, (ond nid ei enw go iawn), o’r diwedd wedi cael ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn gyda chymorth Cerrig Camu Gogledd Cymru ar ôl blynyddoedd o feio ei hun.

Dywed ei bod yn hanfodol bwysig nad yw goroeswyr eraill yn dioddef mewn distawrwydd fel y gwnaeth yntau am lawer rhy hir.

Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan yr elusen, a sefydlwyd yn 1984, ar gael yn rhad ac am ddim i oedolion sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod.

Gyda chymorth cyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, mae gan yr elusen gwnselwyr sy'n gweithio ledled y rhanbarth.

Yn ychwanegol at y gefnogaeth ariannol reolaidd y mae'n ei darparu i sefydliadau sy'n gweithio gyda dioddefwyr sydd wedi'u cam-drin yng ngogledd Cymru, mae Mr Jones wedi llwyddo i gael £238,000 o arian ychwanegol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w helpu i ymdopi â'r heriau ychwanegol a achosir gan yr argyfwng coronafeirws.

O ganlyniad, mae Cerrig Camu Gogledd Cymru wedi derbyn £29,750 yn ychwanegol i gefnogi cleientiaid ar eu rhestr aros, sydd wedi eu galluogi i gynnig mwy o sesiynau ar gyfer cwnsela a gwneud iawn am y cyfleoedd codi arian a gollwyd.

Yn ôl Dean, mi wnaeth ddioddef llawer iawn o drawma pan oedd yn blentyn ac aeth ei fywyd allan o reolaeth yn llwyr ar ôl i’w fam farw pan oedd yntau ond yn 11 oed.

Meddai: “Dioddefodd fy mam sglerosis ymledol. Doedd fy nhad, a oedd yn alcoholig, byth o gwmpas ac roeddem wedi colli cysylltiad efo fo. Dim ond 11 oed oeddwn i a fi oedd prif ofalwr fy mam. Aeth hi fewn i'r ysbyty am yr hyn oedd i fod yn seibiant ond daliodd haint yno a bu farw.

“Torrais fy nghalon yn llwyr a symudais i a fy mrawd i fyw efo nain a taid. Roedd fy mam wedi cael ei mabwysiadu a daeth ei rhieni mabwysiadol hi yn warchodwyr cyfreithiol i mi a fy mrawd iau.

“Oherwydd yr hyn roeddwn wedi bod drwyddo efo mam, wnes i erioed feddwl amdanaf fy hun fel plentyn. Roeddwn i’n meddwl fy mod wedi tyfu i fyny, ond mewn gwirionedd doedd dim byd yn bellach o'r gwir.

“Roeddwn i wedi derbyn fy mod i’n hoyw pan oeddwn tua 12 oed ac wnes i byth ceisio cuddio hynny. Roeddwn i'n agored ac yn onest efo pawb. Arweiniodd hynny at fwlio erchyll a chollais gyfrif o'r adegau y cefais fy slapio.

“Roedd y cam-drin geiriol yn ddi-baid. Cafodd hynny fwy o effaith ar fy mrawd gan fod yn rhaid iddo fo ddod i arfer efo cael brawd hoyw a'r holl sarhau oedd yn dod efo hynny.

“Yn 13 oed, roeddwn i’n meddwl am fy hun fel oedolyn a rhywun oedd yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun. Mi wnes i gyfarfod â dyn mewn ystafell sgwrsio ar y we ond mewn gwirionedd roedd o’n meithrin perthynas rywiol amhriodol efo fi ar-lein. Rwy'n gwybod hynny rŵan ond ar y pryd roeddwn i'n meddwl mai fi oedd yn rheoli’r berthynas.

“Mi wnaethon ni drefnu cyfarfod a dechreuais gysgu efo fo. Roeddwn i'n 13 oed ac yn unig. Roeddwn i’n ceisio dod i delerau efo'r ffaith fy mod i'n hoyw, sydd ddim yn hawdd pan ‘dach chi’n 13 oed. Roedd ffrind i mi yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen ac mi ddywedodd wrth yr heddlu

“Cafodd y dyn hwn, a oedd yng nghanol ei 30au ei arestio, ei gyhuddo a’i garcharu.”

Dywed Dean fod ei broblemau wedi cynyddu wrth iddo dreulio mwy a mwy o amser mewn ystafelloedd sgwrsio ar y we.

Ychwanegodd: “O 14 oed ymlaen mi wnaeth hyn ddigwydd dro ar ôl tro. Roeddwn i eisiau rhywun i fy ngharu.

“Mi wnes i gyfarfod efo mwy a mwy o ddynion yn y gobaith o gael fy ngharu am bwy oeddwn i ond unwaith yr oedden nhw'n cael beth oedden nhw ei eisiau, doeddwn i ddim yn eu gweld byth eto.

“Cyrhaeddais 17 oed a chefais ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol. Roeddwn i’n dioddef newid hwyliau erchyll ac roeddwn i’n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

“Y broblem oedd nad oeddwn i’n adnabod neb ac yn fuan iawn mi wnes gymysgu efo criw drwg a diweddu i fyny yn gwneud mwy a mwy o gyffuriau. Roeddwn i'n defnyddio canabis, cocên, cyffuriau cyfreithlon (‘legal highs’), speed (amffetamin) - a dweud y gwir unrhyw beth heblaw heroin a chrac, roeddwn i bob amser yn cadw draw oddi wrth y rheini.

“Mi wnes i ddiweddu i fyny efo partner ac mi gawson ni fflat ond wnaeth pethau ddim gweithio allan. Mi wnes i orffen efo fo a chael partner arall ond roedd o’n ymddwyn yn ymosodol tuag ata i. Mi wnes i ddioddef am tua 18 mis cyn i mi ei gael o allan o fy mywyd. Symudais i mewn efo partner newydd arall ond unwaith eto ni wnaeth hynny weithio allan.

“Yna rhyw bedair blynedd yn ôl, mi wnes i gyfarfod fy mhartner newydd, ac erbyn hyn rwyf wedi ei briodi. Mi wnaeth o fy nghael oddi ar y cyffuriau ond roedd rhai problemau iechyd meddwl yn parhau.

“Dyna pryd y clywais am Cerrig Camu Gogledd Cymru. O'r cychwyn cyntaf roedd pethau'n wahanol.

“Roeddwn i’n teimlo bod rhywun yn gwrando arnaf. Doedd neb yn fy marnu nac yn fy rhuthro, roeddwn i’n cael mynd ar fy nghyflymder fy hun. Mi wnes i ddysgu deall nad fy mai i oedd y cyfan y bûm drwyddo pan oeddwn yn fy arddegau ifanc, roeddwn i’n blentyn pryd hynny ac ni ddylai fod wedi digwydd.

“Mi wnaethon ni drafod y problemau ac  mi wnaeth y therapi weithio. Dechreuais ddysgu pam fod pethau wedi digwydd a lle roeddwn i wedi mynd o le. Mi wnes i stopio teimlo'n euog. Mi wnaeth Cerrig Camu Gogledd Cymru fy helpu i fyw heb boen.

“Dydw i ddim angen cwnsela rŵan. Mae gen i fy ngŵr a'i deulu a rhai ffrindiau a chydweithwyr anhygoel. Rwy'n gweithio i elusen ac rydw i mor hapus.”

Dywed Shirley McCann, Rheolwr Gwirfoddolwyr a Digwyddiadau Cerrig Camu Gogledd Cymru, fod Dean wedi goroesi trwy ei gryfder a'i ddewrder ei hun.

Meddai: “Mae Dean wedi gwneud yn rhyfeddol o dda. Mae bellach mewn perthynas gariadus ac yn gweithio. Mae'n uchel ei barch ac wedi adennill ei hunan-barch. Nid yw wedi bod yn daith hawdd i Dean, nid yw hi byth yn hawdd i unrhyw oroeswr, ond mae'n daith y mae wedi mynd arni trwy ei ddewrder ei hun. Rwy'n hynod falch ohono a'r cyfan y mae wedi'i gyflawni.

“Heb gefnogaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ni fyddem yn gallu cyrraedd y nifer o bobl sydd angen ein cefnogaeth yn fawr.”

Dywedodd Mr Jones: “Mae stori Dean yn dorcalonnus. Mae cam-drin rhywiol yn drosedd ddifrifol sydd â chanlyniadau hirhoedlog i ddioddefwyr.

“Fodd bynnag, diolch i waith cwnselwyr Cerrig Camu Gogledd Cymru a’r Grŵp Camau Nesaf mae wedi dod allan yr ochr arall ac wedi gwneud bywyd newydd iddo’i hun. Mae wedi canfod yr hapusrwydd y mae'n ei haeddu.

“Mae cam-drin rhywiol yn drosedd gudd ac yn rhywbeth y mae angen i ni, fel cymdeithas, fynd i’r afael ag ef.”

Dylai unrhyw un yng ngogledd Cymru sydd angen cymorth ffonio Cerrig Camu Gogledd Cymru ar 01978  352717 neu ymweld â'r wefan yn  www.steppingstonesnorthwales.co.uk