Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn galw am ohirio dathliadau i nodi 75 mlynedd ers Diwrnod VE ac i ymestyn cyfyngiadau newydd yr argyfwng coronafeirws o dair wythnos i bedair wythnos o leiaf.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a’r tri chomisiynydd arall o Gymru eisoes wedi codi’r mater gyda Llywodraeth Cymru a byddant yn ceisio cefnogaeth y gweinidog plismona, Kit Malthouse AS, yn ystod eu galwad cynhadledd gydag ef ddydd Iau.
Dywed Mr Jones bod anfon neges glir am bwysigrwydd aros adref er mwyn osgoi achosi ail don o’r coronafirws yn hanfodol.
Meddai: “Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y cyfyngiadau am o leiaf wythnos y tu hwnt i ŵyl banc Mai yr 8fed.
“Os ydym yn llacio’r cyfyngiadau cyn penwythnos gŵyl y banc, bydd pawb eisiau mynd allan.
“Mae’n hanfodol bwysig anfon neges glir ei bod yn allweddol i bobl aros adref am y tro.
“Rhaid i ni anfon yr un neges â’r un a anfonwyd gennym cyn penwythnos y Pasg a rhaid i ni fod yr un mor gadarn wrth weithredu’r cyfyngiadau.
“Mae yna risgiau a chanlyniadau angheuol posib os nad yw pobl yn parchu’r cyfyngiadau ac yn peidio aros yn eu cartrefi.
“Ni allwn lacio’r cyfyngiadau mewn rhai ardaloedd ond nid mewn ardaloedd eraill. Dylai’r cyfyngiadau aros fel polisi ledled y DU neu fel arall bydd pobl yn teithio i ardaloedd lle mae pethau wedi cael eu llacio, gan achosi anhrefn ac arwain at ail don o heintiau Covid-19.
“Dylai’r estyniad tair wythnos i’r cyfyngiadau barhau am o leiaf wythnos arall ar ôl gŵyl y banc ar Fai yr 8fed.
“Mae’n naturiol y byddai pobl eisiau mynd allan a dathlu 75 mlynedd ers Diwrnod VE ond mae aros adref ac achub bywydau yn bwysicach o lawer.
“Dylai’r Llywodraeth ei gwneud yn glir bod y dathliadau a gynlluniwyd ar gyfer Mai yr 8fed yn cael eu gohirio hyd nes ei bod yn ddiogel iddynt gael eu cynnal ar ddyddiad diweddarach.
“Roedd yn hollol iawn a phriodol gohirio neu ganslo digwyddiadau eraill eleni fel sioeau amaethyddol, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd a gemau chwaraeon ac felly ni ddylem fod yn anfon negeseuon cymysg.
“Fel comisiynwyr heddlu a throsedd, byddwn yn codi hyn gyda’r gweinidog plismona, Kit Malthouse, ddydd Iau nesaf yn ein galwad cynhadledd wythnosol.”
Ategwyd y teimlad gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, a bwysleisiodd bwysigrwydd ymestyn cyfnod y cyfyngiadau ymhellach i ddiogelu rhag ymlediad Covid-19.
Meddai: “Mae’r estyniad i’w groesawu a dylai pellhau cymdeithasol barhau dros Ŵyl Banc Diwrnod VE ym mis Mai er mwyn diogelu rhag lledaeniad pellach COVID-19.”
Croesawodd y ddau gomisiynydd benderfyniad Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a’r corff safonau proffesiynol, y Coleg Plismona, i dynnu eu canllaw dadleuol yn ôl a oedd yn disgrifio gyrru i gefn gwlad i fynd am dro fel rhywbeth rhesymol pe bai mwy o amser yn cael ei dreulio yn cerdded na gyrru.
Ychwanegodd Mr Llywelyn: “Mae’r canllaw ar gyfer Lloegr yn unig a gyhoeddwyd gan y Coleg Plismona wedi drysu pethau a dylai’r cyhoedd ddeall nad oes unrhyw newidiadau i’r rheolau teithio yng Nghymru ac nid yw teithio ar gyfer ymarfer corff dyddiol yn hanfodol.
“Bydd Heddluoedd Cymru yn parhau i orfodi’r cyfyngiadau mewn modd rhagweithiol a dylid gwneud unrhyw ymarfer corff yn agos at eich cyfeiriad cartref.”