Dyddiad
Ar ddydd Sul 9 Gorffennaf, aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin i Ynys Môn er mwyn cyfarfod ag Amlwch Showstoppers sef grŵp drama amatur sy'n gweithio er mwyn dod â doniau ifanc i'r dref at ei gilydd mewn amgylchfyd hwyliog a chyfeillgar. Roedd Amlwch Showstoppers yn un o enillwyr diweddar arian o fenter cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis y Comisiynydd.
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Trosedd Comisiynydd yr Heddlu. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae Amlwch Showstoppers yn grwp gwirfoddol gyda gwerthoedd cryf o ran parch ac urddas i bob aelod. Maent yn dysgu aelodau ifanc y grŵp i rannu'r delfrydau hyn yn y gymuned ehangach. Mae'r grŵp hefyd yn hyrwyddo cadernid a chryfhau cyfranogiad cymunedol. Mae'n annog trigolion yn y dref i ddod draw a chynorthwyo'r perfformwyr ifanc a'u cynyrchiadau. Mae'r grŵp yn cynnal dwy sioe gyhoeddus bob blwyddyn. Gwelodd y Comisiynydd eu cynhyrchiad diweddar yn Neuadd Goffa Amlwch yn ystod ei ymweliad i'r dref.
Yn ystod ei ymweliad, clywodd y CHTh hefyd sut mae cyllid a roddir i'r grŵp yn cael ei ddefnyddio er mwyn prynu eu hoffer sain a microffonau eu hunain, cynorthwyo i foderneiddio eu hoffer a rhoi gwell cyfleusterau i ymarfer i aelodau'r grŵp. Clywodd y Comisiynydd sut y gwnaiff prynu'r offer newydd gynorthwyo aelodau iau'r grŵp gyda'u hyder wrth berfformio.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, rwyf yn falch iawn o roi cyllid i Amlwch Showstoppers.
"Fe wnes i wylio eu perfformiad atyniadol. Gallwn weld o lygad y ffynnon ymroddiad a dawn y bobl ifanc yn y grŵp. Rwyf yn falch o wybod y defnyddir y cyllid er mwyn gwella eu hoffer sain, a gaiff ei ddefnyddio er mwyn datblygu nodau ac amcanion y grŵp ymhellach.
Mae perwyl "Amlwch Showstoppers" yn glynu at y blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd wrth gynorthwyo cymunedau, gan roi llwyfan cadarnhaol i bobl ifanc fynegi eu hunain. Gwnaeth y grŵp hefyd ddweud wrthyf eu bod yn ymfalchïo darparu pobl fregus gyda chyfle i brofi'r celfyddydau a pherfformio. Dyma'r math o ysbryd cymunedol a chynhwysiant sy'n gwneud i Ogledd Cymru ffynnu. Rwyf yn falch ein bod wedi gallu ariannu ymdrechion y grŵp at y dyfodol."
Dywedodd Eirlys Walker, Swyddog Diogelu Oedolion a Chodwr Arian Amlwch Showstoppers: "Does dim digon o eiriau er mwyn mynegi diolch Amlwch Showstoppers am gael derbyn un o wobrau Eich Cymuned, Eich Dewis eleni.
"Rydym yn grŵp drama cymunedol bach a gwirfoddol, felly bydd yr arian hwn yn cael argraff anferth ar ein grwp. Defnyddir y gronfa er mwyn uwchraddio ein system sain, gan sicrhau fod lleisiau bob aelod o'n cast yn cael ei glywed gan y gynulleidfa ac ein bod yn gallu parhau difyrru aelodau ein cymuned leol gyda'n sioeau gwych. Diolch yn ddiffuant."
Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd PACT: "Mae cynorthwyo grwpiau fel Amlwch Showstoppers drwy gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo gwneud newid go iawn a sylweddol yn ein cymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae'r ysbryd adeiladol a grëir drwy waith grwpiau gwirfoddol yn cael ei deimlo gan y bobl sy'n cymryd rhan ac yn rhoi o'u hamser, ond hefyd yn y cymunedau ehangach maent ar waith ynddynt."
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae buddsoddi yn ein cymunedau'n rhan allweddol o blismona effeithiol. Drwy roi cymorth i Amlwch Showstoppers drwy fenter Eich Cymuned, Eich Dewis, rydym wedi chwarae rhan mewn hyrwyddo ysbryd cymunedol a gwaith hanfodol y grŵp i bobl ifanc Ynys Môn."