Dyddiad
Ar ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, â Sgowtiaid Ardal Conwy yn eu gwersyll yn Rowen. Dysgodd fwy am y grŵp a'u gweithgareddau a sut mae cyllid o gronfa'r Comisiynydd sef Eich Cymuned, Eich Dewis yn mynd tuag at eu prosiect cynnal a chadw'r gwersyll ac er budd ehangach pobl ifanc y sir.
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Trosedd Comisiynydd yr Heddlu. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae cyllid o Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei ddewis ar gyfer cynnal a chadw gwersyll Sgowtiaid Rowen, sef y gwersyll sgowtiaid cyntaf yng Nghymru yn 1931. Symudwyd yr adeilad sy'n sefyll ar y safle i'r lleoliad yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn un o adeiladau parod gwreiddiol o Gonwy a ddefnyddiwyd wrth adeiladu Harbwr Mulberry ym Morfa Conwy a ddefnyddiwyd yn y glaniadau D-Day. Mae'r gwersyll yn ganolog i ddarparu gweithgareddau sgowtio, nid yn unig o fewn Conwy, ond o grwpiau ledled Gogledd Cymru, gyda'r safle'n cael ei logi drwy gydol y flwyddyn.
Tra yn y gwersyll, mae'r cybiaid yn coginio ar danau coed ac yn cysgu mewn pebyll. Mae'r arian o Eich Cymuned, Eich Dewis wedi'i ddefnyddio'n rhannol er mwyn ariannu stof llosgi coed ar gyfer adeilad pencadlys y gwersyll. Yn ystod ei ymweliad, gwnaeth y Comisiynydd gyfarfod â Jim Pitts, y Comisiynydd Ardal a Ray Castle, Arweinydd Cybiaid Cnud Cybiaid 1af Conwy a Warden Gwersyll Sgowtiaid Rowen. Gwelodd hefyd Gnud Cybiaid 1af Conwy yn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi saethyddiaeth. Ffurfiwyd Grŵp Sgowtiaid 1af Conwy yn 1910 ac mae'n un o'r grwpiau sgowtiaid hynaf yn y byd.
Dywedodd Jim Pitts, Comisiynydd Ardal Sgowtiaid Conwy: "Roedd yn bleser croesawu'r CHTh i Rowen. Mae ein prosiect o gynnal a chadw a gwella'r gwersyll yn cynorthwyo ein hamcanion i roi sgiliau bywyd i bobl ifanc.
"Rydym yn cynnig heriau newydd ac yn annog y Sgowtiaid i fynd allan i'r awyr agored a chymryd rhan. Mae profiad gwersylla yn datblygu rhinweddau unigol, fel hunan-wytnwch, gwerthfawrogiad o natur, gwaith tîm, cyfeillgarwch a pharch tuag at yr amgylchfyd.
"Mae sgowtio yn mynd ati i ymgysylltu a'n holl bobl ifanc yn eu datblygiad personol, gan eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas. Mae sgowtiaid yn gweithredu'n falch gyda gofal, parch, uniondeb, cydweithrediad ac edrych ar ein credoau ni a chredoau pobl eraill."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser ymweld â Rowen a gweld y gwersyll hanesyddol, sydd wedi chwarae rôl hanfodol yn hanes sgowtio yn y DU. Fel cyn Gwb a Sgowt fy hun, rwyf yn falch o allu cynorthwyo gwelliant parhaus y gwersyll, fel bod hyd yn oed fwy o Gybiaid a Sgowtiaid yn gallu mwynhau'r cyfleusterau. Mae hefyd yn iawn y dylai'r cyllid hwn hefyd ddod yn rhannol gan arian a atafaelwyd oddi ar droseddwyr, gan roi arian angenrheidiol yn ôl i'r gymuned er budd pawb."
Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Yn PACT, rydym yn cydnabod gwerth mawr sefydliadau cymunedol i bobl Gogledd Cymru. Mae hyn yn hynod wir o ran y bobl hynny sy'n ceisio cynnig difyrrwch gwerth chweil a defnyddiol i aelodau iau cymdeithas, gan roi sgiliau a gwybodaeth y gallent eu haddasu drwy gydol eu bywyd fel oedolyn. Rydym yn falch iawn o gynorthwyo datblygiad gwersyll Rowen fel ei fod yn parhau i fod wrth galon sgowtio ar gyfer y rhanbarth cyfan. Mae'n aruthrol meddwl fod y gwersyll sgowtiaid hwn wedi bod ar waith am dros 90 mlynedd."
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o gynorthwyo Sgowtiaid Ardal Conwy yn eu gwaith ar wella cyfleusterau yn eu gwersyll yn Rowen. Mae plismona a sgowtio'n rhannu llawer o'r un gwerthoedd – a'r hyn sydd bwysicaf oll ydy gwasanaeth i'r gymuned. Rwyf yn siŵr y gwnaiff cyllid gan Eich Cymuned, Eich Dewis gynorthwyo'r gwersyll ffynnu i'r dyfodol."