Dyddiad
Mae system arloesol o wrandawiadau llys dros y we yn sicrhau bod rhai sy’n cyflawni trais domestig yng ngogledd Cymru yn wynebu cyfiawnder cyflym - ac yn cadw at bellhau cymdeithasol ar yr un pryd.
Mae’r system a sefydlwyd gan Heddlu Gogledd Cymru - sydd eisoes wedi dod i sylw heddluoedd eraill yng Nghymru ac ar draws y ffin - yn sicrhau amddiffyniad i ddioddefwyr y nifer cynyddol o achosion o drais domestig yng nghyfnod cyfyngiadau’r argyfwng coronafeirws.
Mae’n golygu y gall yr heddlu barhau i wneud ceisiadau trwy wrandawiadau llys o bell ar gyfer Gorchmynion Diogelu Trais yn y Cartref sy’n rhoi lle i ddioddefwyr ystyried eu hopsiynau a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
O ganlyniad, gellir atal y troseddwr rhag dod i gysylltiad â’r dioddefwr a hefyd ei atal rhag dychwelyd i’r man preswylio am hyd at 28 diwrnod.
Mae’r system newydd wedi cael ei chanmol gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sydd wedi gwneud atal cam-drin domestig yn un o flaenoriaethau ei gynllun plismona.
Y dyn y tu ôl i’r cynllun newydd yw Gareth Preston, Cyfreithiwr Cynorthwyol Heddlu’r Gogledd sydd wedi goruchwylio cyflwyno llysoedd trwy alwadau fideo yn yr Wyddgrug i ddelio ag achosion trais domestig yng ngogledd Cymru.
Meddai: “Galwodd yr Arglwydd Brif Ustus Burnett ar i’r system gyfiawnder ddod o hyd i ffyrdd o wrando achosion o bell ar Fawrth 17 ac erbyn dydd Llun, Mawrth 23, roeddem yn barod i fynd gan symud yr holl achosion trais domestig i’r Wyddgrug i gael eu clywed gan farnwr rhanbarth .
“Yn nodweddiadol gallai fod hyd at saith o bobl mewn gwrandawiad gyda thri ynad, cynrychiolwyr yr erlyniad a’r amddiffyniad, swyddogion y llys a diffynnydd ac ynadon.
“Ond bellach dim ond y barnwr rhanbarth a’i Ymgynghorydd Cyfreithiol sy’n pellhau’n gymdeithasol wrth i bawb arall fod ar eu ffôn neu ar-lein ac wrth i ni wedyn anfon yr holl ddogfennau perthnasol atyn nhw drwy e-bost.
“Gall hyd yn oed y diffynnydd fynychu o bell a briffio’r cyfreithiwr ar ddyletswydd dros y ffôn ac rydym wedi cael un neu ddau o achosion sydd wedi cael eu hymladd yn y dull yna ac mae hynny’n bwysig oherwydd rhaid i ni beidio â rhoi’r sawl sy’n cael eu cyhuddo dan anfantais.
“Mae hyn yn caniatáu i bobl sy’n wynebu’r gorchmynion hyn gael eu clywed a chael gwrandawiad teg, heb i unrhyw un o’r cyfranogwyr gael eu rhoi mewn unrhyw berygl ychwanegol diangen.
“Rydym yno i gynnal diogelwch y cyhoedd ond hefyd i gynnal y gyfraith a phe na bai’r achosion hyn yn cael eu clywed oherwydd pellhau diogel yna byddai dioddefwyr trais domestig yn mynd yn ôl i sefyllfa o berygl.
“Roeddem yn falch ein bod wedi gallu rhoi hyn ar waith yn gyflym ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r llysoedd am eu cefnogaeth, a dweud y gwir mae nifer o ardaloedd eraill eisoes yn edrych ar sut rydym wedi gwneud hyn.”
Dywedodd Arfon Jones: “Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth i ddiogelu dioddefwyr troseddau yn wyneb yr heriau sy’n codi yn dilyn y pandemig coronafeirws.
“Mae mynd i’r afael â thrais domestig wedi bod yn un o fy mlaenoriaethau o’r cychwyn cyntaf ac mae nifer yr achosion sy'n cael eu hadrodd yn parhau i fod yn sefydlog am y tro ond mae cyfran sylweddol yn gysylltiedig â thensiynau a achosir gan y cyfyngiadau. Er ein bod yn byw mewn amseroedd digynsail nid yw’n esgus dros gamdriniaeth o’r fath mewn unrhyw ffurf.
“Mae bygythiad y pandemig yn golygu mai ein cartref ddylai fod y lle mwyaf diogel i ni gyd fod ar hyn o bryd ond yn anffodus nid yw hynny’n wir am ddioddefwyr cam-drin domestig.
“Gall olygu eu bod bellach yn gorfod treulio hyd yn oed mwy o amser gyda’u camdriniwr ac fely mewn mwy fyth o risg o ddioddef trais a rheolaeth orfodol sydd hefyd yn gallu achosi gofid a phoen.
“Nid oes dewis arall ond cyfyngu ar symudiadau yn wyneb y bygythiad yr ydym i gyd yn ei wynebu ond i’r rhai sy’n profi trais domestig, mae pellhau cymdeithasol yn golygu gorfod aros o dan yr un to a’r camdriniwr.
“Mae hyn yn parhau i fod yn drosedd ac rydw i eisiau sicrhau unrhyw un sy’n teimlo eu bod mewn perygl bod yr heddlu a’r llu o wasanaethau cymorth rhagorol sy’n bodoli yno yn barod i’w helpu ar unrhyw adeg.”
Mae’r Llys yn defnyddio system BT Meet Me i gynnal gwrandawiadau a dywedodd Gareth Preston ei fod wedi gweithio’n dda ac ychwanegodd: “Gallaf weld rhai o fanteision y system hon yn cael eu cadw ar ôl i’r cyfnod cyfyngiadau ddod i ben.
“Does dim rheswm pam na allwn ni ddelio efo mwy o achosion o bell gan y byddai hynny’n arbed amser a chost - mae gen i daith o 60 milltir yn ôl a blaen i’r Wyddgrug ond efallai y byddai’n rhaid i mi godi’n gynharach er mwyn sicrhau bod dogfennau’n barod ar gyfer y barnwr i’w darllen am 9 o’r gloch.
“Mae gen i 12 mlynedd o brofiad o fod yn erlynydd ac roedd mynd i’r afael â thrais domestig yn rhywbeth yr oeddwn i’n teimlo’n angerddol amdano ac i mi roedd erlyn mewn achosion o’r fath yn ffordd o amddiffyn pobl yn fwy na dim.
“Mae gallu cynnal y gwrandawiadau hyn yn golygu y gellir rhoi gorchmynion amddiffynnol ar waith ac os cânt eu torri yna gellir anfon y troseddwyr i’r carchar.”