Dyddiad
Ymunodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ag ymarfer gwisgoedd terfynol cynhyrchiad newydd grŵp gweithgarwch lleol Kaleidoscope o Beauty and the Beast ym Mae Colwyn ar 13 Mai. Gwnaeth y Comisiynydd brofi sioe wych a sgiliau actio'r grŵp. Dysgodd am waith pwysig y grŵp yn y gymuned leol a gwelodd sut mae arian troseddwyr yn cael ei ddefnyddio er budd pobl Gogledd Cymru.
Roedd y cynhyrchiad dwy noson o sioe glasurol Disney yn Theatr Colwyn am 7pm ar nos Sadwrn 13 Mai. Dilynwyd gan berfformiad prynhawn am 1pm ar ddydd Sul 14 Mai. Roedd bron i 60 o blant ledled ardal sir Conwy yn cymryd rhan. Perfformiwyd yr ymarfer olaf o flaen y CHT, a ffrindiau a theuluoedd yr actorion cyn y noson fawr.
Roedd Kaleidoscope yn un o enillwyr diweddar gwobrau ariannu Eich Cymuned Eich Dewis. Mae'n weithgarwch a chwmni theatr wythnosol, a sefydlwyd yn 2003, sy'n fan cyfarfod rheolaidd i blant rhwng 5 a 18 oed. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar eu hannog i barhau eu gwaith gan eu bod yn mentora'r plant iau ac yn dangos cyfrifoldeb, cwrteisi ac adwy i greadigrwydd iddynt. Mae'r arian o Eich Cymuned, Eich Dewis yn gymorth at gostau llogi ystafell a phersonél er mwyn sicrhau bod y teulu Kaleidoscope yn parhau i ffynnu.
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae cyfanswm o dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Dywedodd y Pwyllgor Kaleidoscope: "Ni ydy Kaleodoscope Conwy. Rydym yn grwp theatr ieuenctid cymunedol cynhwysol i blant 5-18 oed, yn cynorthwyo plant anabl ynghyd â theuluoedd o incwm isel. Rydym yn cynnig amgylchfyd diogel a chynnes. Rydym yn darparu lle i berfformwyr ifanc gyfeirio eu hegni ac adeiladu eu hyder. I rai plant bregus, dyma'r unig weithgarwch grŵp maent yn cymryd rhan ynddo tu allan i'r ysgol; Mae Kaleidoscope yn achubiaeth i blant a rhieni."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch o ymuno â Kaleidoscope ar gyfer yr ymarfer cyn eu cynhyrchiad o Beauty and the Beast. Gwnaeth y bobl ifanc a'r cyw actorion waith gwych. Rwyf yn siŵr fod y gymuned leol yn eu cefnogi nhw yn eu hymdrechion.
"Mae rhoi rhywbeth bywiog a chreadigol i bobl ifanc ei wneud yn hynod bwysig. Mae Kaleidoscope yn gwneud gwaith gwych wrth roi gollyngfa gadarnhaol i egni pobl ifanc leol. Mae hefyd yn addas iawn bod yr arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu oddi ar droseddwyr. Mae'n dangos fod y cronfeydd hyn yn gallu cael eu defnyddio er budd y gymuned gyfan."
Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Prosiectau llawr gwlad ydy'r enaid ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd mwy diogel a chadarn i fyw. Mae Kaleidoscope yn enghraifft wych o hyn ar waith. Mae'n bleser gallu eu cynorthwyo nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hwn yn grŵp gweithgarwch gwych sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a phobl ifanc yn sir Conwy. Mae angen y gweithgareddau maent yn ei ddarparu o ran cynnig difyrrwch, gweithgareddau a chymorth i bobl ifanc yn fawr iawn. Rwyf yn bendant y bydd eu cynyrchiadau yn y dyfodol yr un mor llwyddiannus."
Am fwy o wybodaeth am Kaleidoscope, ewch ar: CONWY AND DISTRICT KALEIDOSCOPE THEATRE COMPANY - Home (weebly.com)