Skip to main content

Mae gynhadledd yn sicrhau bod pobl gydag anabledd yn cael mynegi eu barn

Dyddiad

Hear our Voice - Prestatyn Conference

Ar ddydd Gwener 21 Hydref, siaradodd Andy Dunbobbin, yn y gynhadledd 'Hear Our Voice' yng Ngwesty'r Beaches, Prestatyn. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Hunaneiriolaeth Prestatyn, grŵp hunaneiriolaeth pobl gydag anableddau dysgu sy'n gweithredu yn Sir Ddinbych. Y nod yw "siarad ar ran ein cymuned ac i ofyn am newid" gan siarad â'r llywodraeth, y cyngor lleol a phobl eraill sydd â'r pŵer i wneud gwahaniaeth yn y gymuned a gwella mynediad a hawliau i bobl gydag anghenon dysgu.

Clywodd y rhai a oedd yn bresennol yn y gynhadledd, dros 100 i gyd areithiau gan amrywiaeth o siaradwyr am y ffordd y mae'r llywodraeth a gwasanaethau eraill yn cefnogi'r pobl sydd ag anableddau dysgu. Roedd stondinau yno hefyd, gyda chynrychiolaeth oddi wrth elusennau a sefydliadau sy'n eirioli ar ran y gymuned.

Cadeirydd Hunaneiriolaeth Prestatyn, Bryn Owen agorodd y digwyddiad gyda Mark Isherwood (Aelod y Senedd ar gyfer Gogledd Cymru) a siaradodd am Hawliau Dynol i bobl gydag anableddau dysgu.

Yna, bu Andy Dunbobbin yn trafod Troseddau Casineb yn erbyn pobl gydag anableddau dysgu, gan roi safbwynt yr heddlu ar y mater hollbwysig hwn. Mae taclo Troseddau Casineb yn rhan allweddol o Gynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ystyried Troseddau Casineb yn fater difrifol ac mae ganddynt dîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n gweithio'n galed i ymgysylltu â'r trigolion. Roedd Pennaeth Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Greg George hefyd yn y gynhadledd ynghyd â'r Comisiynydd.

Yn ei araith, dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae fy nghynllun heddlu a throsedd yn cynnwys taclo ac atal Troseddau Casineb, ac mae hwn yn flaenoriaeth ym maes plismona. "Rwyf wedi gofyn i Heddlu Gogledd Cymru weithredu i geisio lleihau'r math hwn o drosedd.  Maent yn gwneud hyn drwy ddweud wrth bobl beth yw Troseddau Casineb ac yn pwysleisio na fydd yn cael ei dderbyn nac ei oddef yng Ngogledd Cymru.  Fy neges i bawb yw os ydych yn profi neu'n dioddef unrhyw beth sy'n eich gofidio, dwedwch wrthym bob tro.  Mae'r heddlu yno i ddiogelu'r cyhoedd. Mae'r heddlu yno i'ch diogelu chi. Dylech ddweud wrth rywun bob amser."

Mater arall a gafwyd sylw gan y Comisiynydd oedd 'Troseddau Cyfeillio". Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun yn esgus bod yn ffrind i'r dioddefwr gan ddwyn oddi wrthynt neu eu twyllo. Yn dilyn araith y Comisiynydd, cafwyd trafodaeth ar wasanaethau sy’n cefnogi cyfeillgarwch a pherthynas i bobl gydag anableddau dysgu gan Kathryn Whitfield, Rheolwr Rhaglen Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd. Caewyd y gynhadledd gyda neges oddi wrth Joe Powell, CEO, AWPF.

Dywedodd Helga Uckermann, Cydlynydd Hunaneiroli, Cymdeithas Cyngor ac Hunaneiriolaeth Gogledd Cymru: “Anelwyd y gynhadledd hon at bobl gydag anghenion dysgu er mwyn iddynt gael mynegi eu hunain ac i bobl glywed beth sy'n bwysig iddynt. Fy rôl yw cefnogi hunaneiriolwyr i wneud eu gwaith ac i ganfod eu lleisiau. Mae pobl sydd ag anghenion dysgu yng Ngogledd Cymru am gael eu parchu yn eu cymunedau ac am i bobl wybod bod Troseddau Casineb yn achosi poen ac yn effeithio ar eu bywydau."