Skip to main content

Mam, yn rhannu ei phrofiadau ar ôl dau ddegawd o gamdriniaeth greulon gan ei chyn-ŵr

Dyddiad

White Ribbon PCC-cc-MT

Mae gwraig o ogledd Cymru wedi datgelu sut y torrodd ei chyn-ŵr creulon a gormesol ei breichiau, chwalu ei gên, eillio ei phen a’i gorfodi i wisgo wig, wig y byddai’n ei dynnu oddi ar ei phen os oedd yn credu bod dyn arall yn edrych arni.

Ar ôl goroesi dau ddegawd o gamdriniaeth greulon mae Fiona (nid ei henw go iawn), 40 oed, wedi penderfynu siarad am ei phrofiad i gefnogi ymgyrch yn erbyn trais yn y cartref sy’n cael ei hyrwyddo gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones, sydd wedi cyhoeddi bod y mater yn un o brif flaenoriaethau ei Gynllun Heddlu a Throsedd.

Mae Mr Jones yn gweithio’n agos gyda’r ymgyrch Rhuban Gwyn gyda’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes a Mike Taggart, swyddog strategol cam-drin yn y cartref yr heddlu, sydd â phrofiad personol o’r trawma sy’n cael ei achosi gan gam-drin domestig ar ôl i’w fam gael ei thrywanu i farwolaeth gan ei lys-dad creulon.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae Mr Jones wedi darparu cyllid ar gyfer pob un o 250 o gerbydau’r heddlu a phob un o’r 1,750 tacsi yn y rhanbarth i arddangos sticeri Rhuban Gwyn.

Erbyn hyn mae Fiona yn byw yn hapus yng ngogledd Cymru y ar ôl i’w chyn-ŵr gael ei garcharu am y gamdriniaeth a’r trais difrifol a ddioddefodd ac mae’n awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth am gam-drin yn y cartref.

Meddai: “Byddai’n wych pe gallem ddiddymu camdriniaeth a thrais yn y cartref yn llwyr ond nid yw hynny byth yn mynd i ddigwydd.  Yr hyn y gallwn ei wneud yw hysbysu’r cyhoedd bod hyn yn digwydd drwy’r amser mewn llawer o gartrefi a gwahanol deuluoedd waeth beth yw eu dosbarth a’u statws cymdeithasol.

Gall y rhai sy’n cam-drin fod yn feddygon, yn ddeintyddion, swyddogion heddlu, nid oes unrhyw stereoteipiau.  Dim ond 16 oed oeddwn i pan wnes i gyfarfod fy nghyn-ŵr.  Cefais fy swyno’n llwyr ganddo ac roedd mor ddymunol ac yn ymddangos yn gariadus.  Roedd yn hael iawn gydag anrhegion ac yn gwneud i mi deimlo’n arbennig.

Fodd bynnag, fe wnaeth fy ynysu yn gyflym oddi wrth fy ffrindiau a’m teulu.  Roeddwn yn feichiog gydag efeilliaid yn 16 oed ac fe wnaethom briodi ar y diwrnod cyntaf y gallem briodi heb gydsyniad rhieni.

Cefais fy ynysu yn gyflym iawn ac roeddem yn symud o amgylch y wlad drwy’r amser a hyd yn oed dramor.  Lle bynnag yr oeddem yn byw roedd bob amser yn dŷ ynysig ar ei ben ei hun ac i ffwrdd o eraill.  Nid oeddwn byth yn cael gwneud ffrindiau na siarad gyda fy nheulu.

Fe wnaeth hyd yn oed eillio fy mhen a gwneud i mi wisgo wigiau, a phe byddem allan a dyn arall yn edrych arnaf, byddai’n tynnu’r wig oddi ar fy mhen a dangos iddynt ba mor hyll oeddwn i.  Roedd y gamdriniaeth emosiynol a chorfforol yn ddiddiwedd, yn ogystal â’r trais.

Torrodd fy mreichiau, cafodd fy ngên ei chwalu ac mae gennyf blât titaniwm yn ei ddal gyda’i gilydd bellach ac rwyf wedi dioddef anafiadau di-ri i fy wyneb.

Roeddwn bob amser 100 y cant o dan ei reolaeth ac ni allwn wneud unrhyw beth heb ei ganiatâd.  Nid oedd gennyf byth fynediad at arian ac nid oeddwn byth yn defnyddio peiriant codi arian parod.  Ni ddysgais sut i yrru.

Roedd yn gweithio ar fusnesau ar-lein felly roedd bob amser adref.  Byddem yn aros mewn un lle am gyfnod ond pe byddwn yn dangos arwyddion fy mod yn gwneud ffrind newydd byddem yn symud ymlaen yn gyflym iawn.”

Yn y diwedd, llwyddodd Fiona i fagu’r dewrder i adael ei gŵr ymosodol ar ôl iddo fwgwth i frifo ei phlant.

Ychwanegodd: “Dydi hi ddim yn hawdd i ferched sy’n gaeth, fel roeddwn i, i ddianc.  Ac er yr holl drais a chamdriniaeth roedd o bob amser yn ymddangos yn ddyn dymunol, deallus a smart.  Doedd neb yn gallu gweld pa mor gyfrwys oedd o.

Ar ôl i mi ddianc mi wnes i fynd at yr heddlu ac fe wnaethon nhw ymchwilio i’r mater ac yn y pen draw cafodd ddedfryd o 12 mlynedd o garchar.  Cafodd ei ryddhau ar ôl 6 blynedd ond cafodd ei alw nôl i’r carchar ar ôl pythefnos ar ôl iddo dagio un o fy mhlant ar Facebook. Roedd amodau llym ei ryddhau yn golygu nad oedd o’n cael cysylltu o gwbl efo mi na’r plant.

Ond mae’n dangos y math o ddyn oedd o, oherwydd roedd y gorchymyn hwnnw’n cynnwys dynes arall yr oedd o wedi cael perthynas efo hi cyn i mi ei gyfarfod yn 16 oed.  Ac ar ôl i fi ddianc dechreuodd berthynas efo gweithwraig gymdeithasol.

Rwy’n hapus fy myd yn awr ac yn gweithio tyuag at radd mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac rwy’n trafod cam-drin yn y cartref efo cymaint o asiantaethau â phosibl.

Yr hyn sy’n fy mhoeni i yw sut mae asiantaethau a rhai gweithwyr proffesiynol yn anwybyddu’r arwyddion neu’n dewis peidio gwneud unrhyw beth.  Dywedodd bydwraig wrthyf unwaith ei bod wedi cadw fy nodiadau yn ei swyddfa oherwydd roedd yn disgwyl agor papur newydd rhyw ddiwrnod a darllen fy mod wedi cael fy llofruddio.

Fy nghwestiwn i oedd oes oeddech yn credu hynny beth wnaethoch chi am y peth?  Beth oedd y pwynt cadw fy nodiadau a pheidio cymryd camau cadarnhaol?

Felly rwy’n cefnogi’r Ymgyrch Rhuban Gwyn 100 y cant a phopeth y mae’r comisiynydd heddlu a throsedd a’r heddlu yn ei wneud i’w gefnogi.  Os yw’n llwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd a bod un ddynes yn cael ei hachub rhag y gamdriniaeth a’r trais a ddioddefais am bron i 20 mlynedd, byddai’n werth yr ymdrech.”

Yn ôl Mike Taggart, diben yr Ymgyrch Rhuban Gwyn oedd sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o drais dynion yn erbyn merched.

Dywedodd: “Lladdwyd fy mam gan fy llys-dad ym 1997 pan oeddwn ond yn 15 oed.  Cafodd ei garcharu ond mae wedi’i ryddhau erbyn hyn.

Derbyniais fy rôl bresennol gyda Heddlu Gogledd Cymru oherwydd roeddwn yn credu bod gennyf brofiad o gam-drin a thrais yn y cartref ac y gallwn wneud gwahaniaeth.  Mae angen i ni ddechrau trafod yr ymgyrch a sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.

Mae’n golygu grymuso dynion yn ogystal â merched er mwyn sicrhau nad yw pobl yn anwybyddu’r mater.  Mae’n golygu bod yn llysgennad ac nid dim ond yn wyliwr.  Mae’n golygu bod cymdeithas yn dweud na fydd unrhyw un ohonom yn derbyn trais dynion yn erbyn merched na rheolaeth a gorfodaeth.  Ac mae hynny’n cynnwys trais rhywiol.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones: “Mae trais a cham-drin yn y cartref yn flaenoriaeth bwysig yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.  Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth a sicrhau ein bod yn gweithredu yn y ffordd gywir ac nid yn unig atal y gamdriniaeth ond dod â throseddwyr gerbron y llysoedd.

Mae Fiona yn gywir yn dweud bod angen i ni weithredu mewn ffordd gadarnhaol.  Os bydd pobl yn amau bod merch yn ddioddefwr cam-drin domestig yna mae’n rhaid rhoi gwybod am hyn ac ymchwilio i’r mater.  Gallai anwybyddu’r mater arwain at ganlyniadau trychinebus a dinistriol.

Byddwn yn annog unrhyw ferch sy’n ddioddefwr cam-drin domestig i ofyn am help; ni ddylai unrhyw un orfod dioddef unrhyw fath o gam-drin domestig neu ymddygiad o reoli, gorfodaeth ac ymosodiadau rhywiol hefyd.  Mae mor syml â hynny.”

Ategwyd y farn hon hefyd gan y Prif Gwnstabl Carl Foulkes a ddywedodd: “Mae cam-drin a thrais yn y cartref yn flaenoriaeth gan yr heddlu.  Mae angen i ni gynnig cymaint o gefnogaeth ag y gallwn i ddioddefwyr ac i ddelio’n gadarn gyda’r troseddwyr.

Fel heddlu rydym yn cefnogi’r Ymgyrch Rhuban Gwyn ac fe wnawn bopeth y gallwn i godi ymwybyddiaeth am drosedd sy’n un ffiaidd.  Ni ddylai unrhyw ferch orfod dioddef cam-drin yn y cartref o unrhyw fath.

Nid dim ond trais corfforol yw hyn ond camdriniaeth seicolegol ac emosiynol, gorfodaeth ac ymosodiadau rhywiol hefyd.  Rydym eisiau diddymu cam-drin yn y cartref yn llwyr yng ngogledd Cymru ac yn wir ar draws y DU gyfan.”


Mae’r gwasanaeth yng Nghanolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru ar gael o 8am-8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am-5pm ar ddydd Sadwrn. Gellir cysylltu â’r ganolfan drwy Radffôn ar 0300 30 30 159, drwy e-bost yn:
northwales.helpcentre@victimsupport.org.uk, neu drwy’r gwefannau  www.canolfangymorthiddioddefwyrgogleddcymru.org.uk neuwww.victimhelpcentrenorthwales.org.uk