Skip to main content

Partner treisgar yn ceisio lladd mam i dri drwy yrru car i mewn i wal gerrig

Dyddiad

Partner treisgar yn ceisio lladd mam i dri drwy yrru car i mewn i wal gerrig

Gall unrhyw un sydd angen cefnogaeth gysylltu â DASU trwy eu gwefan www.dasunorthwales.co.uk/contact neu trwy ffonio 01244 830436 (Sir y Fflint),01745 814494 (Dinbych), 01492 534705 (Colwyn)neu ​01978 310203 (Wrecsam).


 Mae mam i dri wedi dweud sut y ceisiodd ei phartner treisgar ei lladd drwy yrru ei gar yn fwriadol yn gyflym i mewn i wal gerrig pan oedd hi’n feichiog.

Yn wyrthiol llwyddodd Annie, 30 oed, nid ei henw go iawn, i oroesi’r digwyddiad ond dioddefodd anafiadau chwiplach, poenau stumog a chur pen difrifol tra’r oedd ei phartner yn ceisio malu'r car gyda charreg. Ar adegau eraill, fe wnaeth ei tharo yn ei stumog ar ôl darganfod ei bod yn feichiog a cheisio ei thagu.

Yn ogystal ag anafu Annie’n ddrwg ar sawl achlysur, roedd hefyd yn ymddwyn yn greulon tuag ati hi a’i theulu, gan geisio ei rheoli a bygwth taflu asid yn wyneb ei mam.

Ond yn ffodus iawn, llwyddodd i ddianc ar ôl troi am gymorth at yr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU) sy'n gweithredu ledled Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Dywed Annie fod y sefydliad wedi ei hachub hi a'i phlant, gan ddarparu hafan ddiogel iddynt mewn lloches i ddioddefwyr.

Mae DASU yn darparu gwasanaeth 24/7 i ferched, dynion a'u plant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.

Mae'r sefydliad yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sydd wedi gwneud mynd i'r afael â cham-drin domestig yn un o flaenoriaethau allweddol ei Gynllun Heddlu a Throsedd, sef y cynllun cyffredinol ar gyfer plismona Gogledd Cymru.

Yn ychwanegol at y cyllid rheolaidd y mae'n ei ddarparu iddyn nhw a sefydliadau eraill sy'n gweithio gyda dioddefwyr sydd wedi'u cam-drin yng ngogledd Cymru, mae Mr Jones wedi sicrhau £238,000 yn ychwanegol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w helpu i ymdopi â'r heriau ychwanegol a achosir gan yr argyfwng coronafeirws.

O ganlyniad, mae DASU wedi derbyn £71,400 yn ychwanegol i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a phrynu sgriniau diogelwch ac arwyddion a sicrhau offer amddiffyn personol (PPE) a deunyddiau glanhau.

Yn ôl DASU, mae stori erchyll Annie yn rhy gyffredin o lawer ac roeddent yn ddiolchgar i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am ei gefnogaeth allweddol.

Pan gyfarfu Annie â’i phartner am y tro cyntaf, nid oedd unrhyw beth i awgrymu y byddai’n troi’n fwystfil treisgar.

Meddai: “Mi wnes i ei gyfarfod trwy un o’n ffrindiau. Roedd o flwyddyn yn iau na fi ac roedd yn siaradwr llyfn iawn ar y cychwyn. Prynodd anrhegion i mi ac roedd yn wych am ddau neu dri mis ond yna fe newidiodd.

“Roedd gen i fy nhŷ fy hun a oedd yn fy enw i, ac er na symudodd i mewn yn swyddogol roedd bob amser yno. Yn gyflym iawn, byddai'n fy atal rhag mynd allan ac roedd bob amser yn mynnu gwybod efo pwy roeddwn i’n siarad neu pwy oeddwn i wedi eu gweld.

“Roedd gen i ddau o blant o berthynas flaenorol ond pan gafodd wybod fy mod i’n feichiog efo’i blentyn o, mi aeth yn wallgof a dweud nad oedd o eisiau’r babi. Mi  wnaeth fy nharo yn fy mol ac ar un achlysur ceisiodd fy nhagu.

“Yna mi wnes i ddarganfod ei fod yn cam-drin fy mab yn emosiynol, gan ddweud wrtho ei fod yn dew ac nad oedd ei dad go iawn eisiau ei weld nac eisiau unrhyw beth i'w wneud efo fo. Dim ond chwech oed oedd fy mab. Dywedodd fy mab wrth ei dad a siaradodd efo fy mam. Mi wnaeth hi ffonio’r heddlu.”

“Daeth yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol draw. Cefais ddewis mewn gwirionedd naill ai y fo neu fy mhlant. Doedd hynny ddim cystadleuaeth. Ar y dydd Mercher llwyddais i fynd allan gan ddweud bod yn rhaid i mi fynd i'r dref ar gyfer apwyntiad meddygol gyda'r plant.

“Es yn syth draw i’r lloches a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny. Doedd gen i a’r plant ddim byd efo ni, dim ond y dillad roedden ni'n eu gwisgo. Aeth fy nghyn bartner yn wirion bost a bygwth fy mam na fyddai hi byth yn gweld ei hwyrion eto ac y byddai'n taflu asid yn ei hwyneb.

“Gyda’r holl straen mi wnes i fynd i’r ysbyty yn gynnar i gael y babi. Mi wnaeth o ddarganfod fy mod i yn yr ysbyty a cheisiodd fynd i mewn i'm gweld ond roedd gen i orchymyn atal yn ei le ac ni chafodd ddod i mewn.

Dywed Annie iddi ddioddef nifer o anafiadau corfforol o ganlyniad i ymosodiadau gan ei chynbartner ond fe ddioddefodd artaith a gorfodaeth feddyliol hefyd.

Meddai: “Y gwaethaf oedd pan oeddwn i’n feichiog. Roedden ni yn y car efo’n gilydd a dywedodd os na allai fo fy nghael i yna fyddai neb arall yn fy nghael i chwaith. Gyrrodd fel dyn gwirion a gyrru ar gyflymder i mewn i wal gerrig.

“Llwyddais i fynd allan o’r car, sef ei gar o, tra roedd o’n ei falu efo carreg. Roedd yn sgrechian. Yn ffodus, pasiodd rhywun roeddwn i'n ei adnabod a neidiais yn eu car nhw a dianc. Roedd wedi ei cholli hi'n llwyr.

“Rwy’n siŵr pe na bawn i wedi dianc o’r diwedd, byddai wedi fy lladd. Rwy'n dal i fyw mewn ofn mawr ohono ond rydw i wedi dod i delerau efo'i ymddygiad. Roedd yn rhaid iddo fy rheoli a'm cam-drin yn gorfforol ac yn rhywiol. Iddo ef roedd y cyfan yn ymwneud â rheolaeth.

“Fe wnaeth yr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig fy achub, does dim amheuaeth am hynny. Maen nhw wedi bod yn anhygoel. Mi ddaethon nhw â fi i loches hyfryd ac roedden ni'n teimlo'n ddiogel o'r cychwyn cyntaf.”

Roedd y Comisiynydd Jones yn falch bod DASU wedi darparu ffordd i Annie a'i phlant ddianc o’u sefyllfa.

Meddai: “Mae cam-drin domestig yn ei holl ffurfiau yn drosedd ffiaidd ac yn rhywbeth yr wyf wedi mynd i’r afael ag ef trwy fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

“Mae'n bwysig sylweddoli nad ymosodiad corfforol yn unig yw cam-drin domestig. Mae cam-drin domestig yn dod ar sawl ffurf gan gynnwys rheolaeth, gorfodaeth a cham-drin rhywiol.”

Ychwanegodd: “Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio’n fawr ar y gwasanaeth hefyd ac mae’n bwysig bod ganddyn nhw’r cyllid ar waith i reoli’r cynnydd disgwyliedig mewn galwadau am help dros yr ychydig fisoedd nesaf.

“Rwy’n gobeithio bod yr arian rydw i wedi gallu dod o hyd iddo ar gyfer DASU yn golygu y gallan nhw barhau i helpu llawer o ferched eraill, fel Annie, i gyrraedd lle diogel ac i ddechrau adeiladu bywyd newydd i ffwrdd o’r un sy’n eu cam-drin.”

Dywedodd prif weithredwr DASU, Gaynor Mckeown, fod ganddyn nhw hyd at 41 o leoedd lloches ledled y rhanbarth.

Meddai: “Pan fydd defnyddiwr gwasanaeth newydd yn cyrraedd byddwn yn llunio cynllun gofal, cynllun diogelwch ac yn helpu'r defnyddiwr gwasanaeth i gael gafael ar gymorth a chyngor. Rydym yn cynnig cefnogaeth ac eiriolaeth ymarferol ac emosiynol arbenigol i gael mynediad at lety, cymorth ariannol, cyfleoedd meddygol ac addysgol a chymorth i adrodd i'r heddlu a mynychu'r llys os yw hynny'n briodol.

“Rydym yn dibynnu ar gymorth ein comisiynwyr a'n partneriaid. Mae'r gefnogaeth a gawn gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn amhrisiadwy, ni allem helpu yn agos at gymaint o ddioddefwyr heb y gefnogaeth ariannol rydym yn ei gael."

“Bydd yr arian ychwanegol gan y Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn hanfodol wrth symud ymlaen os ydym am helpu mwy o ferched fel Annie.

“Mae hi’n gwneud yn rhyfeddol o dda. Pan gyrhaeddodd y lloches, fel sy'n digwydd mor aml, roedd ei hunan-barch wedi cyrraedd y gwaelod ac yn y bôn y cyfan oedd ganddi oedd y dillad yr oedd hi a'i phlant yn eu gwisgo.

“Mae hi bellach wedi symud ymlaen ac yn cael ei hannibyniaeth yn ôl ond mae hi hefyd yn gwybod ein bod ni yno os a phryd y bydd angen cefnogaeth arni yn y dyfodol.”

Gall unrhyw un sydd angen cefnogaeth gysylltu â DASU trwy eu gwefan www.dasunorthwales.co.uk/contact neu trwy ffonio 01244 830436(Sir y Fflint),01745 814494(Dinbych), 01492 534705(Colwyn)neu ​01978 310203(Wrecsam).