Dyddiad
Mae grŵp dylanwadol o bobl ifanc yn galw am ymagwedd newydd radical o fynd i’r afael â chyffuriau.
Dywed Comisiwn Ieuenctid Gogledd Cymru a benodwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Arfon Jones, fod angen dull plismona llai “awdurdodaidd”.
Maent wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn argymell y dylid cefnogi pobl sydd â defnydd problemus o gyffuriau yn hytrach na gwneud yn droseddwyr.
Mae’r Comisiwn Ieuenctid yn cael ei oruchwylio gan ddirprwy Mr Jones, Ann Griffith, y mae ei phortffolio yn cynnwys plant a phobl ifanc.
Mae'r holl aelodau rhwng 14 - 25 oed a'r pedair blaenoriaeth allweddol a nodwyd ganddynt fel pryder mawr oedd y berthynas rhwng pobl ifanc a'r heddlu, materion cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion iechyd meddwl.
Maent yn cyfarfod unwaith y mis o dan arweiniad Leaders Unlocked, sefydliad menter gymdeithasol arbenigol sy'n gweithio gyda phobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig ac sydd wedi bod yn rhedeg wyth Comisiwn Ieuenctid tebyg ar draws Lloegr ers 2013.
Hefyd yn cymryd rhan y mae Sian Rogers o fudiad ieuenctid, Urdd Gobaith Cymru, sydd yno i sicrhau mynediad cyfartal i'r Gymraeg mewn partneriaeth â’r Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol
Rôl y Comisiwn Ieuenctid yw cynghori Mr Jones ynghylch blaenoriaethau plismona ar gyfer Gogledd Cymru, yn enwedig wrth iddynt effeithio ar bobl ifanc.
Dywed yr adroddiad: “Mae pobl ifanc yn teimlo bod ymateb yr Heddlu ac athrawon i gyffuriau yn awdurdodaidd iawn, gyda diffyg cefnogaeth neu ystyriaeth o’r amgylchiadau.
“Dywedodd pobl ifanc ei bod yn ymddangos mai cosb oedd ar flaen eu hagwedd tuag at unrhyw un sy’n cymryd cyffuriau. Fodd bynnag, byddai ymagwedd sy’n dangos mwy o ddealltwriaeth yn annog trafodaeth ynghylch pam mae pobl ifanc yn defnyddio cyffuriau.
“Mae pobl ifanc yn poeni am faint yr ecsbloetio cyffuriau sy’n digwydd ar draws y rhanbarth. Yr ardaloedd penodol a grybwyllwyd oedd trefi ac ardaloedd gwledig allweddol lle mae cyffuriau'n cael eu defnyddio a'u dosbarthu'n eang
“Mae pentrefi anghysbell a threfi bach yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu neu ‘oddi ar y radar’ o ran plismona materion yn ymwneud â chyffuriau. Soniwyd yn gyson mewn sgyrsiau â phobl ifanc am gamfanteisio ar bobl ifanc a delio mewn cyffuriau yng nghefn gwlad.
“Roedd diogelwch yn bryder, yn ogystal â theimlo’n fregus ar ôl iddi nosi, oherwydd ofn troseddau’n gysylltiedig â chyffuriau. Roedd pobl ifanc yn teimlo bod yr Heddlu wedi anwybyddu'r sefyllfa a'i bod yn cael ei normaleiddio ledled y rhanbarth.
“Soniodd pobl ifanc am gyffuriau Dosbarth C fel rhai derbyniol ac roeddent yn aneglur o’r gyfraith ynghylch y sylweddau hyn. Mae yna ddiffyg gwasanaethau cefnogi lleol ar gyfer y rhai sydd â phroblemau dibyniaeth, ac ar gyfer y rhai sy'n byw mewn tai â chymorth lle mae cyffuriau'n aml yn cael eu dosbarthu.”
Mae'r Comisiwn Ieuenctid am weld mwy yn cael ei wneud i atal troseddau, ac mae wedi galw ar ysgolion, colegau a phrifysgolion i gynnig gweithdai addysg dan arweiniad cyfoedion ar gamfanteisio a chyffuriau, gan gynnwys straeon bywyd go iawn gan y rhai sydd wedi cael eu hecsbloetio neu sydd wedi mynd yn gaeth i gyffuriau. Mae'r Comisiwn yn credu y dylai gweithdai ddefnyddio ymagwedd wedi’i harwain gan gyfoedion a chanolbwyntio ar roi cefnogaeth ac arweiniad.
Mae hefyd am ganolbwyntio ar ardaloedd gwledig, gwneud iddynt deimlo'n fwy diogel a rhoi gwybod ynghylch sut i adrodd am bryderon yn ddienw. Mae am i fwy o heddweision fod yn weithgar a gweladwy o amgylch ardaloedd lle mae llawer o ddefnydd cyffuriau, a chymryd agwedd galetach gydag unrhyw un sy'n camfanteisio ar bobl ifanc i werthu cyffuriau.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi croesawu’r adroddiad.
Meddai: “Mae agweddau tuag at y ffordd y dylem fynd i’r afael â phroblem cyffuriau yn ein cymunedau yn newid ac mae’r adroddiad hwn gan y Comisiwn Ieuenctid yn adlewyrchu hynny.
“Mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli nad yw'r dull presennol o ddelio â'r broblem yn gweithio, a bod angen i ni wneud rhywbeth gwahanol.
“Rwyf wedi bod yn galw am drin camddefnyddio cyffuriau fel mater meddygol yn hytrach na mater troseddol ers blynyddoedd lawer. Mae taflu pobl sy'n ddifrifol wael mewn llawer o achosion i’r carchar yn gwneud y broblem yn waeth oherwydd nad yw'n mynd i'r afael â'r materion sylfaenol. I wneud hynny mae angen i ni roi help a chefnogaeth i bobl drawsnewid eu bywydau.
“Mae gwneud hynny nid yn unig yn well i’r unigolion dan sylw, ond mae hefyd yn well i’r gymdeithas gyfan. Mae hefyd yn arbed llawer o arian yn y tymor hir. Mae mynd ar ôl pobl am fân droseddau cyffuriau yn wastraff enfawr o amser yr heddlu. Byddai'n well o lawer treulio'r amser hynny'n mynd ar ôl troseddwyr go iawn er mwyn i ni eu dal, eu herlyn a'u carcharu.”
Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Ann Griffith: “Mae hwn yn adroddiad arloesol ac rwy’n falch iawn ein bod yn arwain y ffordd yng Nghymru wrth geisio barn pobl ifanc ynghylch sut y dylid plismona’r rhanbarth.
“Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n cynnwys pobl ifanc ac yn gwrando arnyn nhw i gael eu persbectif ar y materion troseddol a chymdeithasol sy'n eu hwynebu. Dyma un o'r ffyrdd y mae Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd yn mabwysiadu ymagwedd hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
“Mae angen i ni wrando ar bobl ifanc a chael eu safbwyntiau ar y materion y maen nhw'n eu hwynebu a rhoi ystyriaeth iddyn nhw yn hytrach na dim ond gorfodi ein barn ein hunain arnyn nhw.”
Roedd yn deimlad a gafodd gefnogaeth aelod o'r Comisiwn Ieuenctid a chyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd, Charlie Parry, 18 oed o Wrecsam.
Meddai: “Mae angen i ni wella’r berthynas rhwng pobl ifanc a’r heddlu. Rydw i wedi bod allan ar batrôl gyda chadetiaid yr heddlu ac rydych chi'n dod ar draws gelyniaeth gan bobl ifanc weithiau. Rwyf wedi clywed plant ifanc yn galw ‘moch’ arnyn nhw. Mae angen i ni wneud mwy i ddod â phobl at ei gilydd.
“Mae cyffuriau yn fater mawr lle rydw i'n byw. Rydych chi'n gweld llawer o bobl ar y stryd yn ystod y dydd sy'n uchel ar ‘spice’.
“Rwy’n cytuno efo Arfon Jones bod angen i ni wneud mwy i gefnogi pobl sy’n gaeth i gyffuriau yn lle eu gwneud yn droseddwyr. Rwyf hefyd yn credu bod angen ystafell defnyddio cyffuriau yn Wrecsam fel nad yw nodwyddau y gallai plant eu codi yn cael eu gadael allan ar y strydoedd.”
Dywedodd Sarah Goodsir, 17 oed, sy'n aelod o’r Comisiwn Ieuenctid ac yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caergybi: “Rwy’n credu bod angen mwy o agwedd ddeallus tuag at bobl ifanc oherwydd efallai fod yno resymau sylfaenol dros eu hymddygiad fel trafferthion gartref neu broblemau iechyd meddwl. Hoffwn weld yr heddlu'n estyn allan yn fwy at bobl ifanc. Mae yna lawer o bobl ifanc sydd angen help ond ddim yn gwybod ble i droi.
“Os ydych chi'n gwneud pobl sydd â phroblemau cyffuriau yn droseddwyr a ddim yn rhoi help a chefnogaeth iddyn nhw, yna rydych chi ddim yn mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol.”
Dywedodd ei chyd-aelod o'r Comisiwn a disgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, Josh Taylor, 17 oed: “Rwy’n credu bod angen mwy o ddealltwriaeth gan yr heddlu o’r hyn y mae pobl ifanc yn mynd drwyddo. Gallai hynny eu helpu i ddeall yn well pam mae rhai pobl yn ymddwyn yn y ffordd y maen nhw.
“Dylai’r ffocws fod ar fynd ar ôl gangiau troseddol, a dylai fod mwy o help a chefnogaeth ar gael i bobl sy’n gaeth i gyffuriau.”
Dywedodd Daniel Dain-Dodd, 17 oed, sydd hefyd yn aelod o’r Comisiwn Ieuenctid ac yn ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy: “Rwy’n cefnogi’r syniad o ystafelloedd defnyddio cyffuriau oherwydd mae’n golygu na fydd pobl yn defnyddio nodwyddau budr ac yn eu gadael lle gallai plant eu codi. Mae hefyd yn ffordd i bobl sy'n gaeth i gyffuriau gael gwybodaeth am yr help a'r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.
“Rwy’n credu bod gan y Comisiwn Ieuenctid botensial mawr ac mae’n ffordd i bobl ifanc godi ymwybyddiaeth o faterion efo’r heddlu. Mae'n ymddangos bod yna ddiffyg cysylltiad rhwng pobl ifanc a'r heddlu a chredaf ei bod yn ffordd dda o fynd i'r afael â hynny.
“Pan ddaeth i mewn i fy ysgol, roeddwn yn gallu arwain llawer o sesiynau, ac roeddwn i'n gweld fod pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn fwy agored gyda rhywun sy'n un o’u cyfoedion. Hoffwn i weld yr heddlu'n gwneud mwy i estyn allan at bobl ifanc.”
Am fwy o wybodaeth ewch i http://leaders-unlocked.org