Skip to main content

Pennaeth heddlu wrth ei fodd i gipio pedair gwobr am weithredu'n agored

Dyddiad

Gallai madarch hudol helpu i osgoi argyfwng iechyd meddwl, yn ôl pennaeth heddlu

Mae pennaeth heddlu wedi mynegi ei falchder mawr ar ôl derbyn gwobr am y bedwaredd flwyddyn yn olynol am y ffordd agored a thryloyw y mae ef a'i staff yn gweithio.

Unwaith eto, cyflwynwyd Marc Ansawdd Tryloywder i swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, gan CoPaCC y sefydliad sy'n monitro llywodraethiant yr heddlu.

Rhoddwyd y wobr am sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch ar ei wefan fel y gall aelodau'r cyhoedd ddarganfod yn hawdd beth mae'n ei wneud

Galwodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, am fwy o weithredu agored a thryloywder mewn bywyd cyhoeddus yn ystod yr ymgyrch a welodd ef yn cael ei ethol ym mis Mai 2016.

Meddai: "Rwy'n arbennig o falch o'r wobr benodol hon oherwydd rwy'n credu'n angerddol ym mhwysigrwydd bod yn hollol agored yn yr hyn rwy'n ei wneud.

“Dylai pobl mewn swyddi cyhoeddus gyhoeddi mwy na’r wybodaeth y mae’n gyfreithiol ofynnol iddyn nhw ei datgelu.

“Dylai gweithredu agored fod yn norm ac nid yn eithriad a gobeithio y bydd sefydliadau eraill yn ein dilyn.

“Rydyn ni'n cael ein hariannu gan drethdalwyr ac mae ganddyn nhw hawl diamod i wybod beth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gwario eu harian.

“Rydyn ni’n atebol iddyn nhw felly mae gweithredu mewn ffordd dryloyw yn rhan o’r broses honno, yn hytrach na chuddio y tu ôl i ddeddfwriaeth ac eithriadau i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

“Rhaid i mi dalu teyrnged i'r staff yn fy swyddfa oherwydd maen nhw wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod wedi derbyn y marc ansawdd hwn. Rwy'n hynod ddiolchgar iddyn nhw.”

Roedd y Swyddog Gweithredol Meinir Mai Jones yr un mor falch.

Meddai: “Y Marc Ansawdd Tryloywder yw’r safon aur o ran gweithredu’n agored a thryloyw, felly rydym i gyd wrth ein boddau ac yn falch o’i dderbyn.

“Yn ôl y beirniaid roeddem yn cydymffurfio’n llwyr ac mae derbyn y wobr am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn golygu ein bod yn gyson ragorol yn hyn o beth, ac ni nodwyd unrhyw fannau yr oedd angen eu gwella.

“Mae’r Comisiynydd yn berson etholedig ac mae’n gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y cyhoedd yng ngogledd Cymru yn ymwybodol o’r gwaith y mae’n ei wneud.”

Noddir y gwobrau gan brif ddarparwr sicrwydd yr heddlu, Grant Thornton.

Dywedodd Paul Grady, Pennaeth Heddlu ar gyfer Grant Thornton: “Mae tryloywder yn rhan hanfodol o’r broses ddemocrataidd.

“Er mwyn i’r cyhoedd allu mesur pa mor llwyddiannus yw eu Comisiynydd Heddlu a Throsedd wrth gyflawni eu mandad etholiadol, mae angen iddyn nhw allu cael mynediad rhwydd at wybodaeth, ac i’r wybodaeth yna fod yn hawdd ei deall ac yn addas at y diben.

“Mae Grant Thornton yn falch o gefnogi’r Gwobrau Tryloywder hyn unwaith eto ac rydym yn llongyfarch pawb sydd wedi llwyddo i gyrraedd y safonau gofynnol.”

Dywedodd prif weithredwr CoPaCC, Bernard Rix: “Mae’n glir i mi bod y Swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yma i gyd wedi dangos eu bod yn dryloyw yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud, gan fodloni gofynion cyfreithiol perthnasol.

“Maen nhw'n cyflwyno gwybodaeth allweddol mewn fformat hygyrch ar eu gwefannau ac rwy'n eu llongyfarch i gyd ar eu gwaith da. Edrychaf ymlaen at yr hyn yr wyf yn ffyddiog fydd yn waith rhagorol parhaus gan bob un ohonyn nhw yn y maes hwn."