Skip to main content

Pennaeth heddlu yn annog llysoedd i fod yn llym gyda throseddwyr sy'n poeri ar blismyn

Dyddiad

Arolwg Praesept 2021

Mae pennaeth heddlu yn annog y llysoedd i roi’r gosb uchaf i bobl a geir yn euog o boeri neu besychu yn wynebau plismyn gan ddweud eu bod wedi'u heintio â’r coronafirws.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi rhyfeddu ar ôl clywed bod swyddogion heddlu rheng flaen a gweithwyr gwasanaethau brys eraill wedi dioddef yr “arfer afiach” hwn.

Roedd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, yn siarad ar ôl clywed am nifer cynyddol o achosion.

Mae’r mater hefyd wedi’i godi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford sy’n “bryderus iawn” am adroddiadau bod pobl wedi ymosod ar yr heddlu, gan gynnwys pesychu a phoeri yn eu hwynebau.

Yn gynharach y mis hwn ymddangosodd gwraig gerbron ynadon Yr Wyddgrug ar ôl poeri yn wynebau dau heddwas yn Nhreffynnon.

Digwyddodd y drosedd ar ôl i'r swyddogion heddlu gael eu galw i ddelio ag aflonyddwch yn ymwneud â dyn a dynes mewn siop cibab yn y dref.

Ar ôl i'r dyn gael ei gadw yn y ddalfa trodd y ddynes yn ymosodol gyda'r ddau swyddog heddlu a phoeri yn eu hwynebau.

Cafodd ei chyhuddo o ddau gyhuddiad o ymosod ar weithiwr brys o dan Adran 5 o'r Ddeddf Trefn Gyhoeddus.

Derbyniodd y wraig ddedfryd o 26 wythnos yn y carchar wedi’i gohirio am 12 mis a gorchmynnwyd iddi dalu £150 mewn iawndal ynghyd â Gordal Dioddefwr o £128 a bod o dan gyrffyw am 26 wythnos gyda monitro electronig.

Deellir bod digwyddiadau eraill wedi digwydd yn y Fflint a Bangor tra chafodd dyn o'r Rhyl ei alw'n ôl i'r carchar ar ôl bygwth poeri ar yr heddlu gan ddweud bod ganddo COVID-19.

Dywedodd Mr Jones: “Yn anffodus, rydym wedi cael nifer o enghreifftiau o bobl yn poeri neu’n pesychu yn wynebau swyddogion heddlu yng ngogledd Cymru.

“Cafodd y ddedfryd ei beirniadu gan Ffederasiwn yr Heddlu am fod yn rhy drugarog ac mae’n anffodus na fanteisiodd yr ynadon ar y cyfle i anfon neges glir.

“Mae Cyngor Dedfrydu Cymru a Lloegr, sy’n creu canllawiau ar ddedfrydu i’r farnwriaeth a gweithwyr proffesiynol cyfiawnder troseddol, yn mynd yn ôl difrifoldeb y drosedd ac nid yn ôl y dystiolaeth ac nid oes unrhyw beth mwy difrifol na thorri’r gyfraith i ledaenu feirws marwol.

“Mae’r ymddygiad afiach hwn gan leiafrif o droseddwyr yn rhoi’r staff rheng flaen dewr hyn mewn perygl o ddal feirws ofnadwy, gyda chanlyniadau angheuol o bosibl.”

Ar ôl clywed am y gosb a roddwyd i’r wraig a gafodd ei herlyn yn dilyn y digwyddiad yn Nhreffynnon, dywedodd Mark Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: “Rwyf wedi fy arswydo wrth glywed am y ddedfryd wan hon.

“Mae’r person annymunol yma wedi poeri'n ffiaidd yn wynebau dau heddwas, oedd yn cyflawni eu dyletswydd gyhoeddus. Nid yw fy nau gydweithiwr wedi derbyn unrhyw gyfiawnder o gwbl ac mae'r farnwriaeth wedi eu gadael i lawr yn llwyr.

“O ystyried yr argyfwng cenedlaethol rydym ynddi gyda COVID-19; y  feirws peryglus sy'n gallu lladd pobl, mae'r ffaith bod y Llysoedd yn dewis rhoi cerydd ysgafn am y weithred ffiaidd hon yn gywilyddus.

“Roedd yn ymddangos ein bod ni’n gwneud rhywfaint o gynnydd yn ddiweddar gyda dedfrydau llymach yn cael eu rhoi i’r rhai sy’n defnyddio COVID-19 mewn ffordd afiach ond wrth i ni gymryd un cam ymlaen rydym bellach wedi cymryd dau gam yn ôl.”