Skip to main content

Pennaeth heddlu yn cefnogi 'cerdyn canabis' newydd

Dyddiad

Gallai madarch hudol helpu i osgoi argyfwng iechyd meddwl, yn ôl pennaeth heddlu

Mae pennaeth heddlu yng ngogledd Cymru yn cefnogi cynlluniau ar gyfer “cardiau canabis” newydd i ddefnyddwyr meddyginiaethol a fyddai i bob pwrpas yn golygu na fyddai bod ym meddiant y cyffur yn arwain at record droseddol iddynt.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Arfon Jones, yn eiriolwr tymor hir dros ddiwygio cyffuriau, ac mae’n credu y byddai’n rhyddhau miliynau o bobl sâl rhag yr ofn o gael eu herlyn.

Amcangyfrifir bod dros filiwn o bobl yn defnyddio canabis yn rheolaidd, cyffur rheoledig Dosbarth B, i'w helpu i ymdopi â'r boen a'r pryder a achosir gan afiechydon gan gynnwys canser, iselder, epilepsi a sglerosis ymledol.

Mae Mr Jones yn cefnogi galwad gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, y corff sy'n cynrychioli Prif Gwnstabliaid yn y DU, i fwrw ymlaen gyda'r system newydd.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda threfnwyr y cardiau i'w ddylunio a'i weithredu ac mae Ffederasiwn yr Heddlu sy'n cynrychioli swyddogion heddlu llawr gwlad, hefyd y tu ôl i'r cynllun.

Byddai’r cerdyn yn eu hadnabod fel ‘claf canabis meddyginiaethol cofrestredig’ ac yn eu hatal rhag cael eu dwyn gerbron llys, eu dirwyo neu hyd yn oed eu carcharu am brynu canabis at eu defnydd eu hunain gan ddeliwr cyffuriau anghyfreithlon.

Cafodd Mr Jones ei gyffwrdd yn fawr gan farwolaeth ddiweddar Phil James, tad ifanc o ogledd Cymru a gymerodd olew canabis i ymestyn ei fywyd ar ôl cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn 33 oed.

Cyrhaeddodd achos Mr James y penawdau ledled y byd ar ôl iddo ddadlau’n gryf dros ddefnyddio CBD oedd yn cynnwys Tetrahydrocannabinol (THC), sydd wedi’i wahardd.

Dywedodd y tad i un o Oakenholt, ger y Fflint, fod yr olew wedi lleihau ei diwmor ac atal trawiadau gan ganiatáu iddo dreulio mwy o amser gyda'i wraig Nicola a'u merch 15 mis oed, Phoebe.

Cafodd ddiagnosis o diwmor gradd tri ar ddiwedd 2015 ond leihaodd ei faint yn ddramatig ar ôl cymryd y cyffur.

Ond yna dioddefodd Mr James fân strôc a arweiniodd at ddatgelu tiwmor eilaidd yn dilyn sgan CAT, gan achosi iddo ddioddef cyfres o gwympiadau, ym mis Chwefror 2018.

Bu farw yn Hosbis Nightingale House yn Wrecsam ym mis Ionawr eleni.

Yn ôl Mr Jones, roedd achos Phil James yn enghraifft berffaith o’r angen i sicrhau nad yw pobl sy’n cymryd canabis meddyginiaethol yn gorfod dioddef y pryder ychwanegol o gael eu bygwth â'r posibilrwydd o gael eu herlyn.

Roedd, meddai, yn “greulon ac annynol” i bobl gael record droseddol am fod yn ddifrifol wael.

Ychwanegodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu: “Mae’r heddlu wedi ymladd ymgyrch hir ac aflwyddiannus yn erbyn defnyddio cyffuriau sydd wedi chwarae i ddwylo’r troseddwyr sy’n rheoli’r fasnach gyffuriau anghyfreithlon.

“Ar yr un pryd mae wedi cosbi pobl y gall canabis gynnig rhyddhad go iawn a pharhaol iddynt rhag y problemau meddygol a achosir gan ystod o afiechydon.

“Mae’n annheg ac yn greulon bod pobl sy’n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol sy’n defnyddio canabis yn rhoi eu hunain mewn perygl o gael eu herlyn.”

Mae canabis meddygol wedi bod yn gyfreithlon yn y DU ers bron i ddwy flynedd ond oherwydd bod yn rhaid iddo gael ei roi ar bresgripsiwn gan arbenigwr yn hytrach na meddyg teulu credir bod llai na 100 o bobl wedi cael presgripsiwn canabis meddygol.

Mae dros dair miliwn o bobl yn dioddef o'r anhwylderau y gallai canabis helpu i'w rheoli ond mae cost ymgynghoriad preifat wedi golygu bod llawer wedi cael eu prisio allan o'r opsiwn i’w gael ar bresgripsiwn felly mae amryw o bobl yn troi at y delwyr cyffuriau.

Y llynedd, canfu arolwg YouGov fod bron i dri y cant o’r boblogaeth oedolion, 1.4 miliwn o bobl, yn defnyddio canabis ar gyfer cyflwr meddygol tra gallai dwy filiwn arall nad ydynt yn defnyddio’r cyffur fod yn gymwys i gael cerdyn canabis.

Disgwylir i'r cerdyn, y cyfeirir ato hefyd fel CanCard, gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd fel cynllun preifat a bydd yn rhoi cymorth presgripsiwn i bobl sydd angen canabis meddygol ond na allant fforddio cymorth presgripsiwn er mwyn osgoi cael eu harestio.

Ni fydd yn warant yn erbyn erlyniad er bod ei gefnogwyr yn dweud y gallai berswadio'r heddlu i beidio â gweithredu yn erbyn y rhai sydd â symiau bach o'r cyffur yn eu meddiant at ddefnydd meddyginiaethol.

Ond dywedodd Jason Harwin, o Gyngor yr Heddlu: “Nid yw'r cerdyn yn rhoi rhwydd hwynt i bobl. Nid yw'n rhoi hawl i ddeiliaid gario cyffuriau anghyfreithlon. Mae'n arwydd i ni y dylai'r person fod yn cael gafael ar  feddyginiaeth."

Fel y mae pethau, nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw gynlluniau i newid y gyfraith a chyfreithloni’r cyffur Dosbarth B ond dywedodd Arfon Jones: “Rwy’n falch bod swyddogion heddlu o bob rheng yn taflu eu pwysau y tu ôl i’r ymgyrch hon.

“Mae fy safbwynt ar gyffuriau wedi’i gofnodi sawl tro ac roedd yn rhan o fy maniffesto pan oeddwn yn sefyll i gael fy ethol fel Comisiynydd, etholiad a enillais gyda mwyafrif sylweddol.

“Gall salwch fod yn brofiad ynysig, yn enwedig os yw eich meddyginiaeth yn anghyfreithlon, ac rwy’n teimlo ei bod yn anghywir bod pobl sy’n ceisio rhyddhad rhag dioddefaint yn cael eu gwneud yn droseddwyr."