Skip to main content

Pennaeth heddlu yn chwilio am ymwelwyr â'r ddalfa

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn chwilio am ymwelwyr â'r ddalfa

Dylai unigolion cymwys sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ddod yn Ymwelydd Dalfa yng ngogledd Cymru gysylltu â Meinir Jones yn swyddfa’r Comisiynydd, naill ai trwy ffonio 01492 805486 neu drwy anfon e-bost at: opcc@nthwales.pnn.police.uk


 Mae ymgais ar droed yng ngogledd Cymru i ddod o hyd i wirfoddolwyr i weithredu fel ymwelwyr â’r ddalfa er mwyn cadw llygad ar yr heddlu.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn chwilio am hyd at naw ymwelydd dalfa annibynnol i’w helpu.

Mae Mr Jones yn dymuno penodi gwirfoddolwyr i ymuno â’r tîm presennol sy’n gyfrifol am ymweld â chyfleusterau dalfa yn Llanelwy, Caernarfon a Llai, ger Wrecsam.

Eu gwaith fydd diogelu lles pobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu a sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal.

Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus gynnal o leiaf 10 ymweliad dirybudd y flwyddyn ynghyd â mynychu cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd a chynadleddau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, Rhagfyr 11.

Dywedodd Mr Jones: “Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod yr heddlu’n gwneud pethau’n gywir ac yn cadw at Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Mae’n hanfodol felly bod gennym ffordd o fonitro’r hyn sy’n digwydd yn ardal dalfa’r heddlu.

“Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau cyfathrebu da a all ddangos bod ganddyn nhw annibyniaeth barn a safbwynt diduedd, ac ar yr un pryd yn gallu cynnal cyfrinachedd.

“Mae hon yn rôl bwysig a diddorol iawn, a gobeithio y byddwn yn denu llawer o ddiddordeb gan ymgeiswyr addas o bob math o gefndiroedd. Rwy’n arbennig o awyddus i ddenu siaradwyr Cymraeg, pobl iau ac aelodau o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.”

Dywedodd Bethan Wrench, cydlynydd ystafell ddalfa Caernarfon sy’n gwasanaethu Gwynedd ac Ynys Môn: “Rydym yn gweithredu mewn parau, ac yn ymweld ag ardal y ddalfa yn ddirybudd ac mae’n rhaid i ni gael mynediad ar unwaith.

“Yng nghwmni rhingyll neu swyddog cadw sifil, rydyn ni’n siarad â charcharorion ac yn edrych ar gyflwr y celloedd i sicrhau eu bod nhw’n lân a bod popeth mewn trefn.

“Pan fydd pobl agored i niwed yn cael eu cadw yn y ddalfa, mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu yn ogystal ag anghenion carcharorion eraill.

“Nid ydym yn cael gwybod enwau pobl dan glo na’r rheswm eu bod nhw yno sy’n caniatáu i ni gadw ein gwrthrychedd.

“Rydym yn cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig ar ddiwedd pob ymweliad sydd wedi’i lofnodi gan ringyll y ddalfa ac mae unrhyw beth y credwn sydd angen ei gywiro yn cael ei unioni ar unwaith neu gellir ei godi yn y cyfarfodydd chwarterol a gynhelir rhwng ymwelwyr, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ac uwch swyddogion heddlu.”

Dywedodd Sharon Mazzarella, cydlynydd lleol ystafell y ddalfa yn Llay sy’n gwasanaethu Wrecsam a Sir y Fflint: “Gallwn alw heibio ar unrhyw adeg o’r dydd, ac rydym yn ceisio amrywio’r amseroedd fel nad yw’r heddlu’n ymwybodol ein bod ni’n dod.

“Mae ein gwaith mor bwysig oherwydd ei bod yn rhoi sicrwydd i’r carcharorion bod rhywun yno yn edrych allan amdanyn nhw, ac mae hynny hefyd yn rhoi sicrwydd i deuluoedd bod rhywun yn edrych amdanyn nhw tra maen nhw yn y ddalfa oherwydd eu bod nhw ar eu pennau eu hunain unwaith maen nhw yno.

“Mae’n rôl bwysig, ac yng ngolwg yr heddlu mae’n un bwysig oherwydd mae’n helpu’r heddlu i gael gwared ar unrhyw broblemau a allai fodoli, neu yn ein galluogi ni i dynnu sylw at broblem nad oedden nhw wedi ei weld.”

Meddai Marie Jones, cydlynydd ystafell y ddalfa yn Llanelwy sy’n gwasanaethu Sir Ddinbych a Chonwy:

“Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn y mae’r heddlu’n ei wneud ond rwyf hefyd yn teimlo yr hoffwn fod yno i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn gywir ar gyfer pobl sydd yn y ddalfa.

“Yn amlwg, dydyn nhw ddim wedi eu cael yn euog. Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa a’n rôl ni yw darparu cydbwysedd a sicrhau bod y system yn gweithio’n gywir.

“Mae gan bawb hawliau ac mae’n bwysig ein bod ni yno i sicrhau bod yr hawliau hynny’n cael eu gwarchod. Yn y bôn, rydym yn gorff gwarchod y ddalfa.”

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Meinir Jones, sydd â chyfrifoldeb am oruchwylio’r cynllun ymweld yn swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Dyma un o ddyletswyddau statudol y Comisiynydd ac rydym yn gobeithio recriwtio pobl dros 18 oed sydd naill ai’n byw neu’n gweithio yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.

“Dylent hefyd fod yn annibynnol o gyfiawnder troseddol yn yr ystyr nad ydyn nhw’n gweithio i’r heddlu na’r gwasanaeth prawf ac nad ydyn nhw’n gwasanaethu fel ynadon.

“Yr amcan cyffredinol yw sicrhau bod pobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn briodol a bod pobl yn rhoi sylw i’w hawliau a’u lles.

“Mae ymwelwyr yn rhydd i drefnu eu hamseroedd ymweld eu hunain a all fod ar unrhyw adeg, yn gynnar yn y bore neu yn hwyr y nos, ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.”

Ni chaniateir i ynadon, heddlu presennol neu gyn-heddweision, na heddlu arbennig ddod yn ymwelwyr â’r ddalfa. Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posibl, gellir eithrio eraill os oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r system cyfiawnder troseddol, fel cyfreithwyr neu swyddogion prawf.

Dylai unigolion cymwys sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ddod yn Ymwelydd Dalfa yng ngogledd Cymru gysylltu â Meinir Jones yn swyddfa’r Comisiynydd, naill ai trwy ffonio 01492 805486 neu drwy anfon e-bost at: opcc@nthwales.pnn.police.uk