Skip to main content

Pennaeth heddlu yn dweud wrth Lywodraeth Cymru i beidio defnyddio'r heddlu fel arolygwyr ffatri

Dyddiad

Arolwg Praesept 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei hannog i newid ei meddwl ynglŷn â disgwyl i heddluoedd orfodi cyfraith newydd i gadw gweithwyr ddau fetr ar wahân.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn cefnogi’r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru sy’n gwrthwynebu’r syniad yn unfrydol.

O dan y ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedir wrth gwmnïau i gymryd "mesurau rhesymol" er mwyn diogelu iechyd eu gweithwyr.

Bydd cyflogwyr yn torri'r gyfraith os na fyddant yn sicrhau bod staff yn gallu cadw at y rheol pellter corfforol o ddau fetr.

Ond ni fydd y rheolau yn gyfystyr â gwaharddiad llwyr ar weithwyr i fod yn agosach na'r canllawiau pellhau cymdeithasol.

Dywed Mr Jones, sydd yn gyn-arolygydd heddlu ei hun, ei fod yn cefnogi nod y ddeddfwriaeth yn llawn ond yn gwrthwynebu’r disgwyliad i'r heddlu ei phlismona.

Deallir bod ffigyrau uchel yn Llywodraeth y DU, gan gynnwys Kit Malthouse AS, y Gweinidog dros Blismona a’r Gwasanaeth Tân, hefyd wedi mynegi eu pryderon am y syniad.

Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi pŵer i'r heddlu a chynghorau orfodi'r rheolau a gosod dirwy rhwng £60 a £120.

Dywedodd Mr Jones: “Rwy’n cefnogi’n llwyr y pedwar prif gwnstabl yng Nghymru sydd wedi gwrthwynebu hyn.

“Rwy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth ond rwy’n hollol yn erbyn y syniad iddi gael ei gorfodi gan yr heddlu.

“Mae fel defnyddio swyddogion heddlu fel arolygwyr ffatri pan fo gan Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd eraill Cymru waith pwysig eu hunain i’w wneud yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

“Dylai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol gamu i’r adwy a gwneud eu gwaith – y nhw ddylai gymryd cyfrifoldeb am weithredu’r ddeddf yn hytrach na disgwyl i’r heddlu wneud eu gwaith drostyn nhw.

“Mae gan yr heddlu waith pwysig i’w wneud mewn amseroedd arferol ond yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen iddyn nhw allu canolbwyntio ar eu rôl eu hunain.

“Rwy’n siŵr y byddai’n well gan y cyhoedd yn y Gogledd weld ein heddlu’n gorfodi cydymffurfiad gyda deddfwriaeth deithio hanfodol yn hytrach na gorfod ymweld â ffatrïoedd i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cadw dau fetr ar wahân, rhywbeth a ddylai fod yn gyfrifoldeb i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

“Rydym wedi codi’r mater gyda’r Ysgrifennydd Gwladol mewn galwad cynhadledd.

“Rwy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth i orfodi’r rheol dau fetr yn y man gwaith ond y mater dan sylw yw pwy mewn gwirionedd sy’n gyfrifol am sicrhau gweithrediad y ddeddf.

“Mae’r prif gwnstabliaid wedi annog Llywodraeth Cymru i newid eu canllawiau fel mater o frys ac rwy’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda nhw ar hyn.”