Skip to main content

Pennaeth heddlu yn galw am dreblu dirwyon teithio coronafeirws i £3,000

Dyddiad

Gallai madarch hudol helpu i osgoi argyfwng iechyd meddwl, yn ôl pennaeth heddlu

Mae pennaeth heddlu wedi galw am dreblu dirwyon i bobl sy'n torri'r cyfyngiadau teithio coronafeirws – yn amrywio o £1,000 i £3,000 ar gyfer troseddwyr mynych.

Daeth y mater i sylw sydyn gan y dryswch a achoswyd gan benderfyniad unochrog y Prif Weinidog Boris Johnson i lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr, cam a ddisgrifiwyd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones fel “traed moch llwyr”.

Yn ôl Mr Jones, roedd ef a’r tri Chomisiynydd Heddlu a Throsedd arall yng Nghymru ymhlith y cyntaf i alw am roi cyfyngiadau teithio ar waith i “ddiogelu ein cymunedau”.

Yn awr mae wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd gyda Dafydd Llywelyn, ei gyd-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yn Nyfed-Powys, yn dweud y dylid cynyddu'r dirwyon 300 y cant.

Dywedodd y datganiad: “Rydym yn awr yn galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r ddirwy fel ataliad mwy i’r rhai sy’n ceisio gwneud siwrneiau diangen yng Nghymru.

“Mae’n bwysig bod yr heddlu’n parhau gyda’r ymagwedd bresennol o ymgysylltu, addysgu ac annog pobl i gydymffurfio â’r gyfraith yng Nghymru.

“Ond i’r rhai nad ydynt yn gwrando, mae angen i ni barhau i weithredu’r gyfraith felly rydym yn galw am ddirwyon i ddechrau o £1,000 gan godi i £3,000 i droseddwyr mynych.”

Roedd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, yn arbennig o bryderus ar ôl i Boris Johnson greu “dryswch llwyr” ar ôl datgelu y byddai pobl yn Lloegr yn cael teithio y tu allan i’w hardal leol i gael ymarfer corff.

Yr hyn na esboniodd Mr Johnson oedd bod hyn yn berthnasol i Loegr yn unig a bod y cyfyngiadau teithio yn parhau yng Nghymru.

Mae'r Comisiynydd yn ofni y gallai arwain at fewnlifiad o ymwelwyr yn croesi'r ffin i ogledd Cymru a heidio i’r ardaloedd arfordirol neu Eryri, yn hollol anwybodus o'r ffaith eu bod yn torri'r gyfraith.

Mae'n credu y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd dalu am ymgyrch ymwybyddiaeth am y cynnydd mewn dirwyon er mwyn tanlinellu'r neges i bobl ar ochr Lloegr o'r ffin na ddylent deithio i’r Gogledd heb reswm dilys i wneud hynny.

Dywedodd Mr Jones: “Roedd yn gwbl anghyfrifol i Boris Johnson gymryd agwedd mor ddi-hid tuag at iechyd a lles pobl.

“Cadw pobl yn ddiogel yw blaenoriaeth gyntaf yr heddlu a dyna pam ei bod yn bwysig i mi godi llais ar y mater hanfodol bwysig hwn.

“Mae’r neges yma yng ngogledd Cymru ac yn wir ledled gweddill Cymru yn union yr un fath ers i’r cyfyngiadau gael eu hymestyn am dair wythnos arall. Dim ond teithio hanfodol sy’n cael ei ganiatáu.

“Bydd ein swyddogion heddlu yng ngogledd Cymru yn dal i atal ceir a dirwyo pobl nad oes ganddyn nhw reswm da i fod allan ar y ffyrdd.

“Un o’r prif broblemau a grëwyd gan ddull di-hid y Prif Weinidog yw ei bod yn mynd i fod yn anodd gwahaniaethu rhwng pobl sy’n byw yng ngogledd Cymru a’r rhai sy’n teithio dros y ffin.

“Mae teithio i Gymru ar gyfer hamdden ac ymarfer corff yn dal i gael ei ddynodi fel teithio nad yw’n hanfodol a byddai cynyddu’r dirwyon, yn unol â’r cynnydd yn Lloegr, yn ffordd dda o danlinellu’r neges.

“Mi wnaethon ni wneud ein teimladau’n glir iawn yn ystod galwad cynhadledd gyda’r Dirprwy Weinidog Jane Hutt, sydd hefyd yn Brif Chwip, ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r mesur hwn.”