Skip to main content

Pennaeth heddlu yn galw am dro pedol gan Lywodraeth Cymru wrth i arolwg ddangos 91% o gefnogaeth i gynyddu dirwyon teithio

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn galw am dro pedol gan Lywodraeth Cymru wrth i arolwg ddangos 91% o gefnogaeth i gynyddu dirwyon teithio

Mae pennaeth heddlu yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud tro pedol a chynyddu dirwyon am dorri’r cyfyngiadau teithio coronafeirws ar ôl i arolwg barn ganfod mwyafrif llethol o blaid y syniad.

Cefnogodd dros 90 y cant o’r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ei alwad am gynnydd sylweddol yn y gosb am dorri'r rheolau.

Yr wythnos diwethaf gwrthododd Llywodraeth Cymru alwadau gan Mr Jones a Dafydd Llywelyn, ei gyd-Gomisiynydd Heddlu yn Dyfed Powys i gyflwyno dirwyon llymach

Daeth y ffrae i benllanw ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson achosi dicter a dryswch wrth leddfu’r cyfyngiadau teithio yn Lloegr lle mae pobl bellach yn cael teithio i wneud ymarfer corff.

Arweiniodd at ofnau y byddai llu o bobl yn heidio i Gymru lle mae'r cyfyngiadau yn dal mewn grym a lle gall pobl wneud ymarfer corff yng nghyffiniau eu cartrefi eu hunain yn unig.

Lansiodd Mr Jones yr arolwg “allan o rwystredigaeth” ar ôl gweld trydariad gan heddwas yng ngogledd Cymru a ddywedodd: “Cefais un boi o Lerpwl yn chwerthin am fy mhen a dweud wrtha i fod dirwy o £30 ond fel tocyn parcio… Beth arall fedra i ddweud.”

Fe wnaeth y Comisiynydd ail-drydar neges yr heddwas a thagio’r Prif Weinidog yn yr aildrydariad, gan ddweud: “Hei @MarkDrakeford @fmwales os ydych chi eisiau tystiolaeth i gynyddu dirwyon, beth am hyn gan heddwas yn Heddlu'r Gogledd?”

Dangoswyd cryfder y teimlad am y mater gan y ffaith bod ei ail-drydariad wedi cael 50,000 o argraffiadau.

Mae dirwyon i bobl sy'n torri'r cyfyngiadau teithio yn dechrau ar £60 ac yn mynd i fyny hyd at £120 ar gyfer troseddwyr mynych, er y gellir gostwng y swm i £30 os telir y gosb o fewn 14 diwrnod.

Cymerodd tua 2,000 o bobl ran yn yr arolwg barn ac roedd 91 y cant ohonynt o blaid cynyddu'r gosb, gyda 65 y cant ohonynt yn dewis dirwy o £500.

Roedd 15 y cant arall eisiau i'r ddirwy gynyddu i £250 tra bod 11 y cant o'r ymatebwyr yn argymell dirwy o £100.

Dim ond naw y cant o'r bobl a gymerodd ran oedd ddim am weld unrhyw gynnydd.

Yn ôl Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, roedd yr arolwg barn wedi dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru “wedi methu gwrando ar farn pobl Cymru”.

Meddai: “Fe darodd y trydariad gan yr heddwas rhwystredig yr hoelen ar ei phen oherwydd nad oedd heddluoedd Cymru yn cael yr offer sydd eu hangen arnyn nhw i wneud y gwaith.

“Yr hyn y mae’r arolwg hwn yn ei ddangos yw nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pobl eu hunain ac yn anwybyddu anghenion swyddogion heddlu ar lawr gwlad.

“Byddaf yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at ganfyddiadau’r arolwg a byddaf hefyd yn codi’r mater hwn mewn cyfarfod o’r pedwar comisiynydd heddlu a throsedd a’r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru.

“Os yw pobl yn gwybod eu bod yn mynd i gael dirwy o hyd at £500 am deithio i Gymru, ni fyddan nhw'n dod.

“Mae angen cosbau realistig arnom i leihau nifer y bobl sy’n dod i Gymru at ddibenion hamdden ac ymarfer corff nad ydynt yn cael eu caniatáu o dan gyfraith Cymru.

“Bydd cosbau uwch yn sicrhau bod gennym y gallu i ddelio ag unrhyw un sy'n parhau i fynd yn groes i'r cyfyngiadau

“Ein blaenoriaeth fel heddluoedd yw amddiffyn bywyd a dyna’r peth cwbl sylfaenol i mi.

“Yr hyn sy’n wallgof yw bod y cyfyngiadau yng Nghymru yn dynnach na Lloegr ond bod y cosbau yn Lloegr yn fwy. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. ”