Skip to main content

Pennaeth heddlu yn galw am ymchwiliad i honiadau yn erbyn carcharorion Cymraeg

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn galw am ymchwiliad i honiadau yn erbyn carcharorion Cymraeg

Mae pennaeth heddlu yn galw am ymchwiliad i “adroddiadau pryderus” o wahaniaethu yn erbyn carcharorion sy’n siarad Cymraeg.

Bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn ysgrifennu llythyr at Nick Leader, Llywodraethwr CEM Berwyn yn Wrecsam yn dilyn honiadau bod carcharorion wedi’u bygwth â cholli eu breintiau oherwydd eu bod wedi siarad Cymraeg

Maent yn dweud eu bod yn cael eu herlid oherwydd nad yw'r swyddogion carchar yn gallu eu deall.

Mae carcharorion hefyd wedi honni nad ydynt yn cael defnyddio cyfieithwyr mewn paneli disgyblu.

Roedd yr honiadau’n rhan o adroddiad blynyddol beirniadol y Bwrdd Monitro Annibynnol i’r carchar mawr yn Wrecsam, sydd â lle i 2,100 o garcharorion, a agorodd yn 2017.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu: “Mae gen i bryderon dybryd am yr honiadau pryderus o wahaniaethu yn erbyn carcharorion sy’n siarad Cymraeg yn CEM Berwyn.

“Byddai’n gwbl annerbyniol i siaradwyr Cymraeg gael eu labelu fel rhai sy’n achosi trafferth am siarad yr iaith a wynebu bygythiad o golli eu breintiau.

“Byddaf yn ysgrifennu llythyr at Lywodraethwr y carchar, Nick Leader, yn Gymraeg, gan ofyn am ymchwilio i’r honiadau difrifol yn yr adroddiad hwn, a beth yw ei gynllun i wella’r sefyllfa.

“Os yw’r adroddiadau’n gywir, yna mae pethau wedi cymryd sawl cam yn ôl yn y carchar.

“Pan agorwyd y carchar gyntaf mi wnaethon ni wneud yn siŵr bod adnoddau ar gael i helpu carcharorion a oedd eisiau siarad Cymraeg.

“Roedd yna uwch swyddogion a oedd yn medru’r Gymraeg yno bryd hynny. Mae’n bosib bod y sefyllfa wedi dirywio oherwydd trosiant staff a wardeiniaid newydd yn mynd i weithio yno.

“Os yw’r honiadau’n wir, yna i fod yn hollol onest, nid yw’n ddigon da. Byddai'n mynd yn groes yn llwyr i ganllawiau'r Gymraeg a'r safonau sydd wedi’u pennu.

“Rwy’n siŵr y byddai gan Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, ddigon i’w ddweud am y mater.

“Mae yna bolisi y dylai nifer benodol o aelodau staff y carchar allu siarad Cymraeg, ac y dylai fod adnoddau fel llyfrgell ac ati, ar gael i’r rhai sydd eisiau siarad Cymraeg.

“Dywedwyd wrthym ar y dechrau y byddai anghenion carcharorion sy’n siarad Cymraeg yn cael eu diwallu, ond mae’n edrych yn bosibl nad yw hyn yn digwydd.

“Ni ddylai carcharorion sy’n siarad Cymraeg gael eu hawl i siarad yr iaith ei danseilio.

“Wrth gwrs, mae carcharorion yno i gael eu hadsefydlu ac ni ddylid eu cosbi am siarad Cymraeg, oherwydd nid yw siarad Cymraeg yn drosedd.

“Mae yna Fwrdd Monitro Annibynnol ar gyfer pob carchar sy’n mynd i mewn i siarad gyda’r carcharorion, felly does dim rheswm i gredu nad yw’r honiadau hyn yn wir.

“Rydym wedi gweld problemau tebyg yn CEM Altcourse yn Lerpwl, lle mae yna nifer o garcharorion sy’n siarad Cymraeg.

Dywed yr adroddiad gan y Bwrdd Monitro Annibynnol: “Roedd rhai cwynion yn ymwneud â charcharorion yn siarad Cymraeg na allai swyddogion eu deall.

“Honnwyd bod y carcharorion hyn wedi cael eu herio gydag adolygiad o’u cymhellion a’r breintiau roeddent wedi’u hennill.”

“Tynnodd carcharorion Cymraeg eu hiaith sylw hefyd at bryderon nad oeddent yn cael caniatâd i gael cyfieithydd Cymraeg eu hiaith yn eu dyfarniadau.

“Mae’r gymuned sefydlu wedi cydnabod y byddai’n elwa o gael siaradwr Cymraeg yn byw yn y carchar.

Mi wnaeth y Gwasanaeth Carchardai wrthod yn llwyr honiadau’r adroddiad nad oedd carcharorion Berwyn yn cael eu cosbi am siarad Cymraeg.

Meddai: “Rydym yn darparu hyfforddiant staff a mentoriaid ychwanegol i annog siarad Cymraeg.”