Skip to main content

Pennaeth heddlu yn gofyn am atal erlid pobl sâl am ddefnyddio canabis meddyginiaethol

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn galw am ymchwiliad i honiadau yn erbyn carcharorion Cymraeg

Mae pennaeth heddlu yn galw am sicrwydd na fydd pobl sy'n defnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol yn cael eu herlyn.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi ysgrifennu at bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru yn gofyn am addewid na fydd pobl sâl yn cael eu dwyn gerbron y llysoedd am geisio lliniaru eu cyflwr.

Mae Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, wedi dadlau ers amser hir dros ddiwygio’r defnydd o gyffuriau.

Cafodd ei gyffwrdd yn fawr gan farwolaeth ddiweddar Phil James, tad ifanc o ogledd Cymru a gymerodd olew canabis i geisio ymestyn ei fywyd ar ôl cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn 33 oed.

Cyrhaeddodd achos Mr James y penawdau ledled y byd ar ôl iddo ddadlau'n gryf dros ddefnyddio CBD sy'n cynnwys Tetrahydrocannabinol (THC), sylwedd sydd wedi ei wahardd.

Dywedodd y tad i un o Oakenholt, ger y Fflint, fod yr olew wedi lleihau ei diwmor ac atal trawiadau gan ganiatáu iddo dreulio mwy o amser gyda'i wraig Nicola a'u merch 15 mis oed, Phoebe.

Cafodd ddiagnosis o diwmor gradd tri ar ddiwedd 2015 a lleihaodd maint y tiwmor yn ddramatig ar ôl iddo gymryd y cyffur.

Ond yna cafodd Mr James fân strôc gan achosi iddo ddioddef cyfres o gwympiadau a datgelodd sgan CAT diwmor eilaidd ym mis Chwefror 2018.

Bu farw yn Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam ar Ionawr 5.

Yn ôl Mr Jones, roedd achos Phil James yn enghraifft berffaith o’r angen dybryd i sicrhau na ddylai pobl sy’n cymryd canabis meddyginiaethol orfod dioddef y pryder ychwanegol o gael eu bygwth â'r posibilrwydd o gael eu herlyn.

Roedd, meddai, yn “greulon ac annynol” i bobl wynebu cael record droseddol am fod yn ddifrifol wael.

Yn ei lythyr at Brif Erlynydd y Goron Barry Hughes, dywed y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Rwy’n ysgrifennu atoch i ofyn am eich cefnogaeth i atal erlyn y rhai sy’n defnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol.

Ar y 1af Tachwedd 2018 cyhoeddodd Llywodraeth y Deynras Unedig y gellir rhoi cynnyrch canabis ar bresgripsiwn yn gyfreithlon i unigolion a allai elwa o’r feddyginiaeth.

Profwyd bod cynnyrch sy’n seiliedig ar ganabis yn gallu helpu pobl sy’n dioddef amryw o gyflyrau gan gynnwys MS, clefyd Parkinson ac epilepsi.

Ers cyfreithloni canabis meddyginiaethol dim ond dau unigolyn sydd wedi derbyn presgripsiwn y GIG ar gyfer y cyffur.

Yn anffodus mae cannoedd o unigolion yn y DU sydd angen canabis meddyginiaethol er mwyn gallu parhau i fyw heb boen a’u galluogi i fyw bywyd normal.

Dim ond dau opsiwn posib sydd ar ôl gan bobl nad oes ganddyn nhw bresgripsiwn GIG, y cyntaf yw talu am bresgripsiwn preifat a'r ail yw tyfu canabis eu hunain a wynebu'r risg o dderbyn record droseddol. Gall cost presgripsiwn preifat ar gyfer canabis meddyginiaethol fod gymaint â £3,000 y mis. Mae hyn yn gost sy'n amhosibl ei chynnal ond mae'r unigolion yma’n cael eu gorfodi i gynyddu eu dyledion a defnyddio eu cynilion er mwyn gallu byw bywyd di-boen ac osgoi cael eu herlyn.

Ym mis Hydref 2019 cynhaliodd ASau gyfarfod Traws Seneddol ar Ddiwygio Cyffuriau o’r enw ‘Cael eu gorfodi i dorri’r gyfraith: sut ddylai’r heddlu ymateb i ddefnyddwyr canabis meddyginiaethol’.

Yn ystod y cyfarfod hwn clywyd gan unigolion sy’n defnyddio canabis i leddfu eu symptomau ond oherwydd hynny sy’n treulio eu dyddiau yn poeni y byddan nhw’n cael eu herlyn am eu defnydd o ganabis.

Yn ystod y cyfarfod adrpddwyd am achos Lesley Gibson, claf MS sydd wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn aros i gael ei herlyn am dyfu canabis.

Ym mis Ionawr 2019 cafwyd cyrch gan Heddlu Cumbria ar gartref Lesley yng Nghaerliwelydd ac atafaelwyd ei phlanhigion canabis. Ni allai Lesley fforddio presgripsiwn preifat ac felly nid oedd ganddi unrhyw ddewis ond trin ei MS ei hun a thyfu ei phlanhigion canabis ei hun. Yn y pen draw penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio mynd ymlaen â'r achos a chafodd ei dyfarnu'n ddieuog. Penderfynodd y Goron nad oedd er budd y cyhoedd i erlyn unigolyn a oedd yn tyfu canabis at ddibenion meddyginiaethol yn unig.

Ai dyma yw Polisi Cenedlaethol Gwasanaeth Erlyn y Goron bellach? Sef nad yw er budd y cyhoedd i erlyn defnyddwyr canabis meddyginiaethol? Os felly, rwy'n croesawu'r newid polisi blaengar hwn ac yn cytuno nad yw er budd y cyhoedd i erlyn defnyddwyr canabis meddyginiaethol.

Mae unigolion yn cael eu gorfodi i dyfu canabis meddyginiaethol eu hunain oherwydd na fydd Llywodraeth y DU yn cefnogi rhoi canabis fferyllol ar bresgripsiwn y GIG yn eang.

Edrychaf ymlaen at gael eglurhad gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus. ”