Skip to main content

Pennaeth heddlu yn lansio cynllun arloesol i dywys troseddwyr i ffwrdd o fywyd troseddol

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn lansio cynllun arloesol i dywys troseddwyr i ffwrdd o fywyd troseddol

Cafodd cynllun arloesol ei lansio i dywys troseddwyr lefel isel gan gynnwys pobl sy'n cael eu dal ym meddiant cyffuriau at ddefnydd personol, i ffwrdd o fywyd troseddol.

Ar ôl derbyn hyfforddiant trwyadl, mae naw ‘llywiwr’ bellach wedi dechrau gweithio gydag ymgeiswyr addas sy’n diweddu yn un o dair ystafell y ddalfa’r heddlu yng ngogledd Cymru ar ôl cael eu harestio.

Bydd y gefnogaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer Adrannau Gorllewinol, Canolog a Dwyrain Heddlu Gogledd Cymru gan dimau sy’n gweithio yng Nghaernarfon, Llanelwy a Llai.

Mae'r fenter o'r enw Checkpoint Cymru wedi ei hyrwyddo gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Penderfynodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, roi’r cynllun a gafodd ei ddatblygu gan Brifysgol Caergrawnt ar waith ar ôl ei weld yn gweithredu’n llwyddiannus yn Durham lle mae wedi gostwng cyfraddau aildroseddu, lleihau amser yr heddlu a’r llys a rhoi cyfle i bobl osgoi’r stigma o gael record droseddol.

Mae llwyddiant y rhaglen wrth dorri'r cylch negyddol o droseddu a chosbi eisoes wedi ennill gwobr genedlaethol gan yr Howard League for Penal Reform.

Ar ôl i ringyll y ddalfa eu hadnabod fel rhai sy'n addas ar gyfer y cynllun, cynigir cyfle i droseddwyr osgoi cael eu herlyn trwy lofnodi contract pedwar mis ac ymrwymo i geisio cymorth gan wasanaethau adfer.

Maent wedyn yn cael eu goruchwylio gan “lywiwr” medrus ond os ydynt yn torri'r contract ar unrhyw adeg byddant yn wynebu cael eu herlyn eto.

Ar yr un pryd, mae Mr Jones wedi cyflwyno menter arall yn seiliedig ar brosiect peilot gwahanol, Rhaglen Cyffuriau Bryste, sydd wedi bod yr un mor llwyddiannus.

Bydd pobl sy'n cael eu dal â symiau bach o gyffuriau yn cael eu tywys tuag at raglen addysg cyffuriau pedair awr sy'n debyg mewn egwyddor i raglenni tebyg ar gyfer gyrwyr sy'n cael eu dal yn goryrru, a gall y rhai sy'n cymryd rhan osgoi euogfarn droseddol.

Pennaeth Checkpoint yw'r Rheolwr Prosiect Anna Baker sy'n goruchwylio’r cynllun o swyddfa'r Comisiynydd ac meddai: “Mi wnaethon ni gael ceisiadau gan ystod eang o bobl â gwahanol brofiadau a sgiliau i ddod yn llywiwr.

“Mae’r rhai a benodwyd yn cynnwys siaradwyr Cymraeg fel bod modd cyflwyno’r cynllun yn ddwyieithog o bob un o’r tair canolfan gan ei bod yn bwysig bod y rhai rydym yn eu helpu yn gallu cyfathrebu yn eu dewis iaith.

Ond nid yw Checkpoint yn opsiwn meddal o gwbl. Mae'n llawer anoddach i bobl ddeall eu hymddygiad eu hunain a chymryd cyfrifoldeb amdano na mynd i'r llys, derbyn dirwy a pharhau i gladdu eu pennau yn y tywod.

Mae wedi ei anelu at droseddwyr lefel isel. Ni fydd troseddau difrifol fel treisio, lladrad neu lofruddiaeth yn gymwys ar gyfer Checkpoint. Ac ni fydd troseddau gyrru, achosion o gam-drin yn y cartref difrifol neu droseddau casineb difrifol yn gymwys chwaith.

Mae Checkpoint yn cynnig contract pedwar mis o hyd i droseddwyr cymwys fel dewis amgen yn lle cael eu herlyn ac os yw'r unigolyn yn cwblhau'r contract yn llwyddiannus a ddim yn aildroseddu, ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn ei erbyn.

Ond os ydyn nhw'n aildroseddu neu'n methu â chwblhau'r contract fe fyddan nhw'n cael eu herlyn ac mi fyddwn ni’n hysbysu'r llysoedd o'r amgylchiadau am eu methiant i gyflawni'r contract.”

Bydd y llywiwr Sioned McQuilling, 48 oed, o Flaenau Ffestiniog, wedi ei lleoli yng Nghaernarfon ac yn gyfrifol am Dde Gwynedd, ac meddai: Mi wnes i weithio mewn lloches i ferched am 20 mlynedd ac roeddwn i'n teimlo fod hon yn her newydd ac yn gyfle i fod yn rhan o brosiect newydd cyffrous.

Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn golygu ceisoi arwain pobl i ffwrdd o fywyd o droseddu, eu cefnogi a rhoi cyfleoedd newydd iddyn nhw oherwydd mae'n well bod yn rhan o'r prosiect na chael dedfryd euog a allai effeithio ar eich dewisiadau bywyd a'ch cyfleoedd am flynyddoedd.”

Mae Rob Williams, 29 oed, o Langefni, hefyd yn rhan o dîm Caernarfon ac mae ganddo gefndir yn y Gwasanaeth Prawf ac mewn rhaglenni oedd â'r nod o helpu pobl i ddod o hyd i waith.

Meddai: “Mae'n fater o ymyrryd yn gynnar i gael pobl yn ôl yn syth ar y llwybr cul oherwydd gall hyd yn oed pobl ddeallus a galluog weld eu cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu cyfyngu gan record droseddol.

Os ydych chi'n gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau ac os oes gennych chi fwy o bres yn eich poced yna rydych chi'n llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol.”

Bydd Ffion Goddard, 24 oed, o Gerrigydrudion, sydd wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Meistr mewn Troseddeg, wedi ei lleoli yn Llai ac meddai: “Rwyf wedi gweithio yn y sector iechyd meddwl ac rwyf wedi gweld pa mor hawdd yw hi i bobl ddiweddu mewn sefyllfaoedd anodd a ble gall hynny arwain.

Nid yw’r math yma o brosiect wedi ei wneud yng Nghymru o’r blaen ac mae’n gyffrous cymryd rhan mewn rhywbeth a all helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau heb gael record droseddol.”

Dywedodd Elin Morris, 25 oed o Gaernarfon, sy’n gyn-seicolegydd cynorthwyol yn y GIG ac wedi ei lleoli yn Llanelwy: “Mae gen i ddiddordeb mewn gweithio gydag oedolion ac yn y system cyfiawnder troseddol.

Y prif beth fydd lles pobl a rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw mewn bywyd yn y dyfodol trwy gyflogaeth a llesiant.”

Ymunodd Gwen Bradshaw, 35 oed, o Groesoswallt, fel llywiwr o'r Gwasanaeth Carchardai lle bu’n gweithio ym maes rheoli troseddwyr ac meddai: “Roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Rwyf wedi gweithio gyda throseddwyr ac roeddwn i eisiau defnyddio fy sgiliau mewn amgylchedd gwahanol er mwyn helpu pobl i aros allan o drafferth ac osgoi cael baich record droseddol.”

Bydd Sharon Roberts, o ardal Wrecsam, wedi ei lleoli yn Llai ar ôl gweithio yn y Gwasanaeth Prawf ac yng Ngharchar Berwyn ac meddai: “Rwyf wedi cael profiad o weithio gyda phobl ag anghenion cymhleth.

Mae'n dda ymwneud â phobl cyn iddyn nhw fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ac mewn mesurau ataliol sy’n ceisio eu hatal rhag cael eu dal yn y system honno.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones: “Mae gan y prosiect hwn y potensial i wella cyfleoedd bywyd oherwydd bod pobl yn osgoi cael record droseddol, a all effeithio ar eu cyfleoedd cyflogaeth ac addysg.

Efallai y bydd hyd yn oed yn achub bywydau oherwydd bod troseddoli yn atal pobl rhag ceisio cymorth ac yn annog ymddygiad risg uchel a chan fod yr amcangyfrif o gost carcharu rhywun bellach yn £65,000 am y flwyddyn gyntaf a £40,000 am bob blwyddyn ar ôl hynny gallai'r arbedion cyhoeddus hefyd fod yn sylweddol.

Mae Checkpoint wedi ei anelu at bobl sydd wedi cyflawni lefel is o droseddau ac yn hytrach na mynd â nhw i’r llys gallwn ymyrryd a gall llywiwr medrus eu cyfeirio at y gwasanaethau priodol.

Mae pobl yn aml yn cael eu cymell i gyflawni trosedd oherwydd materion gwaelodol yn eu bywydau fel camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, materion iechyd meddwl a chorfforol, tai neu ddigartrefedd, neu broblemau sy'n ymwneud ag arian neu drafferth mewn perthynas.

Bydd hyn yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol eu troseddu a’r nod yw lleihau’r risg y byddan nhw’n aildroseddu.”