Skip to main content

Pennaeth heddlu yn lansio cynllun treialu chwistrell ar gyfer gorddos cyffuriau

Dyddiad

090720 PCC Naloxone-3

Yr heddlu yn Sir y Fflint yw'r cyntaf yng Nghymru i gario chwistrell trwynol a allai achub bywydau sy'n gweithredu fel gwrthwenwyn i orddos cyffuriau yn dilyn pryderon am fwy o farwolaethau yn sgil yr argyfwng coronafirws.

Syniad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd dros newid yng nghyfreithiau cyffuriau'r Deyrnas Unedig, yw'r prosiect peilot chwe mis sy'n defnyddio chwistrell Nalocson.

Mae'r holl swyddogion sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu wedi gwirfoddoli i gario'r chwistrell tra maent allan ar y rhawd a byddant yn defnyddio offer amddiffynnol personol a masgiau wyneb os bydd angen iddynt ei weinyddu.

Gellir defnyddio'r chwistrell i drin gorddos cyffuriau gan gynnwys heroin, ffentanil a chyffuriau a roddir ar bresgripsiwn i ladd poen.

Yn ôl Mr Jones, roedd gan y Deyrnas Unedig fwy o farwolaethau cyffuriau eisoes nag unrhyw le arall yn Ewrop ac roedd pandemig Covid-19 yn golygu y byddai pobl â defnydd problemus o gyffuriau yn mynd i fod yn cymryd dewisiadau amgen peryclach pe bai eu cyffur o ddewis yn brin.

Gwelodd Sir y Fflint 21 o farwolaethau oherwydd cyffuriau yn y cyfnod dwy flynedd ddiweddaraf, o 2016-2018, mwy nag un rhan o bump o gyfanswm gogledd Cymru.

Mae'r Comisiynydd yn anelu at gyflwyno'r fenter ledled y Gogledd ac mae'n gobeithio y bydd swyddogion mewn ardaloedd eraill yn awr yn dod ymlaen.

Ymhlith y rhai a wirfoddolodd i gario Nalocson tra ar ddyletswydd yn Sir y Fflint oedd yr Heddwas Tom Brownhill.

Meddai: “Roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r cynllun peilot oherwydd yn fy swydd rwy’n tueddu i ddelio â llawer o unigolion sy’n gaeth i Heroin a Crac. Oherwydd fy mod i’n adnabod pwy ydyn nhw, bydd yn haws gweinyddu'r Nalocson, felly roedd yn ymddangos fel penderfyniad rhesymegol i wirfoddoli ar gyfer y cynllun hwn.

“Mae Nalocson yn gallu achub bywydau. Mae'n chwistrell trwynol felly mae'n ddiogel i'r claf ac mae'n hawdd iawn i’w weinyddu - ac mae’n hynod effeithiol felly mae'n syniad da iawn i swyddogion heddlu ei gario. O dan yr amgylchiadau cywir bydd yn arbed nifer o fywydau.”

Mae Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu ei hun, wedi cael ei hyfforddi i weinyddu Nalocson ac meddai: “Profwyd ledled y byd bod Nalocson yn gallu achub bywydau ac rwyf wedi bod yn ymgyrchu iddo gael ei ddefnyddio yma ers cryn amser.

“Ar hyn o bryd mae’r wlad yn wynebu bygythiad y coronafeirws ac er y gallai hynny effeithio ar gyflenwi llawer o bethau, yr unig effaith ar gyffuriau stryd fydd eu gwneud hyd yn oed yn fwy peryglus.

“Nid yw’r gangiau cyffuriau yn mynd ar ffyrlo ac os oes prinder heroin byddant yn pedlera mathau hyd yn oed yn fwy peryglus o gyffuriau fel ffentanil sydd 50 gwaith yn fwy pwerus na heroin.

“Mae hynny'n gwneud y potensial ar gyfer gorddos hyd yn oed yn fwy gan ddigwydd hyd yn oed yn gyflymach a dyna pam ei bod yn hanfodol bod y bobl gyntaf i gyrraedd rhywun sydd wedi cymryd gorddos yn gallu gwneud rhywbeth heblaw galw am ambiwlans yn unig.

“Rydym yn gwybod bod gan Sir y Fflint broblem fawr o ran cyffuriau ac mae llawer ohoni wedi’i chanoli ar ardal Glannau Dyfrdwy a dyna pam rydym wedi dewis yr ardal honno ar gyfer y cynllun peilot.

“Mae'r chwistrell yn hawdd i’w defnyddio ac mae'r cyffur yn gweithredu ar dderbynyddion nerfau yn yr ymennydd ac mae'n effeithiol am o leiaf hanner awr a bydd hynny'n caniatáu amser i'r ambiwlans gyrraedd.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Gill Lehrle o’r Wyddgrug sydd wedi bod ar flaen y gad o ran canfod masgiau FFP3 ar gyfer swyddogion sydd wedi’u hyfforddi i weinyddu Nalocson tra bod yr Arolygydd Iwan Jones wedi bod yn allweddol wrth gael y fenter bwysig hon ar ei thraed.

“Hoffwn ei gweld yn cael ei chyflwyno mewn rhannau eraill o ogledd Cymru a byddai’n wych pe bai swyddogion eraill o’r ardaloedd hynny hefyd yn gwirfoddoli.”

Roedd yr Arolygydd Iwan Jones, o Heddlu Gogledd Cymru, yn un o'r swyddogion a hyfforddwyd i ddefnyddio’r chwistrell gan Kirsty Brooke, uwch nyrs Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Meddai: “Mae Sir y Fflint yn ardal o alw mawr o ran defnydd cyffuriau ac fel rheol swyddogion heddlu yw’r rhai cyntaf i gyrraedd achosion o orddos cyffuriau.

“Yn anffodus hyd yn hyn nid ydym wedi gallu gwneud llawer ar wahân i aros i ambiwlans gyrraedd ac erbyn hynny mi allai fod yn rhy hwyr.

“Mae cael y chwistrell Nalocson yn golygu bod gennym rywbeth y gallwn ei ddefnyddio i geisio atal marwolaeth.

“Mae'n chwistrell trwynol syml, does dim angen rhoi pigiad na dim felly, ac mae'r heddweision i gyd wedi cael hyfforddiant ar ei ddefnyddio. Mae'n rhywbeth rydym i gyd wedi gwirfoddoli i'w wneud.

“Mae'n debyg na fydd y dioddefwr yn anadlu ac rydych chi'n ei roi yn y trwyn a chwistrelli ac mae'n gweithio bron yn syth, mewn dau neu dri munud."

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki: “Does dim dwywaith, mae’r fenter hon yn cefnogi blaenoriaeth graidd swyddogion heddlu o ran amddiffyn a chadw bywyd.

“Ni fydd yn disodli nac yn ymyrryd â gwaith y gwasanaeth ambiwlans a fydd yn dal i orfod trin y claf, ond bydd heddweision sy’n cario chwistrell Nalocson yn gallu rhoi rhywbeth ar unwaith fel rhan o'r ymateb cymorth cyntaf cychwynnol ac o bosibl arbed bywyd y claf.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Mae traean o’r holl farwolaethau yn Ewrop sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn digwydd yn y Deyrnas Unedig ac mae llawer o’r rhain yn digwydd o ganlyniad i orddos heroin ac opiadau eraill a chan mai swyddogion heddlu yn aml yw’r cyntaf i gyrraedd achosion o’r fath mae’n gwneud synnwyr iddyn nhw allu rhoi'r driniaeth syml yma a all wneud gwahaniaeth mawr ac achub bywydau.

“Mae amser yn hanfodol mewn digwyddiadau fel hyn ac felly mae angen rhoi’r offer i swyddogion heddlu allu amddiffyn y cyhoedd.

“Hyd at dair blynedd yn ôl dim ond trwy bigiad y gellid rhoi Nalocson ond bellach mae chwistrellau trwynol ar gael a hyd yn oed os nad yw’r person dan sylw wedi cymryd cyffur ni fydd Nalocson yn cael effaith nac yn achosi unrhyw niwed.”