Dyddiad
Mae gangiau o’r dinasoedd mawr yn cario gynnau ac yn rhedeg heroin a chrac cocên i ogledd Cymru yn cael eu targedu mewn ymgyrch arloesol dan arweiniad pennaeth plismona’r rhanbarth.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi gwneud y frwydr yn erbyn Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn un o'i flaenoriaethau plismona allweddol ac mae ei Heddlu yn arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â'r gangiau.
Heroin a chrac cocên yw prif fasnach y 27 gang sy'n weithredol yn yr ardal ac maen nhw'n barod i droi eu bygythiadau yn drais gyda gorfodwyr creulon y gangiau hyn yn gyfrifol am un o bob pum ymosodiad difrifol yng ngogledd Cymru.
Datgelwyd maint y broblem gan uned cudd-wybodaeth yr Heddlu, dan arweiniad y Ditectif Uwcharolygydd Sian Beck, sydd wedi proffilio Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol ar draws chwe sir y Gogledd.
Mae adroddiadau’r uned wedi adnabod wyth gang fel y prif dramgwyddwyr gyda bron i hanner y troseddwyr yn gangiau o ardal Glannau Merswy – gyda gangiau o Fanceinion a Gorllewin Canolbarth Lloegr hefyd yn weithredol yn y rhanbarth.
Galwyd am yr adroddiadau gan Grŵp Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru a’u cadeirydd, Aelod Arweiniol Cabinet Cyngor Sir Ddinbych ar Gymunedau Mwy Diogel, y Cynghorydd Mark Young, sydd wedi canmol y Comisiynydd am arwain yr ymgyrch.
Meddai: “Cefais sioc o ddarganfod maint gweithgareddau’r gangiau troseddol hyn ledled y Gogledd ond dyna yw'r gwir a’r unig ffordd y gallwn fynd i'r afael â'r broblem yma yw trwy wybod beth yn union sy’n mynd ymlaen.
“Mae'r ffaith bod y Comisiynydd wedi rhoi arweiniad clir ar hyn ac yn gwbl gefnogol i'r frwydr yn erbyn troseddau cyfundrefnol difrifol yn bwysig iawn i ogledd Cymru.
“Mae'n hanfodol ein bod yn dilyn hynny trwy wthio neges diogelwch cymunedol a gweithio mewn partneriaeth nes bod pawb yn ei chlywed.”
Dywedodd Arfon Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu ei hun: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn arwain y ffordd yng Nghymru wrth olrhain a mynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol ac rydym ar flaen y gad ymhlith heddluoedd o’n math ni.
“Mae barn y cyhoedd am y broblem hon yn gyfyngedig oherwydd nad yw’r mwyafrif o bobl yn ei phrofi nac yn dod i gysylltiad â’r gangiau cyffuriau ond y gwir amdani yw mai’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan gynnwys plant a phobl fregus â phroblemau iechyd meddwl, sy’n cael eu targedu ganddynt.
“Mae llawer ohono yn digwydd o olwg y cyhoedd oherwydd nad yw'r bobl yma’n debygol o adrodd eu bod wedi cael eu curo a’u bygwth ond mae’r gwaith sydd wedi’i wneud gan yr uned cudd-wybodaeth wedi amlygu presenoldeb gangiau troseddol ac mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â nhw.”
Yn ystod y 12 mis diwethaf, ni chofnodwyd unrhyw ddefnydd o ddrylliau yng ngogledd Cymru ond mae'n wybyddus bod gan y gangiau dan sylw fynediad at ddrylliau a’u bod yn barod i’w defnyddio, yn ôl yr adroddiad a luniwyd gan Adran Cudd-wybodaeth Heddlu Gogledd Cymru.
Maent yn defnyddio Llinellau Cyffuriau i ddosbarthu'r cyffuriau gydag aelodau gangiau yn teithio ar draws gogledd Cymru i recriwtio a chyflenwi pobl ifanc a phobl agored i niwed.
Mae o leiaf 11 o Linellau Cyffuriau penodol yn weithredol yn siroedd Conwy a Dinbych, pump yn Sir y Fflint, un yn Wrecsam, a phump yng Ngwynedd ac Ynys Môn, lle mae Bangor yn ganolbwynt sy’n ail yn unig i'r Rhyl yng ngogledd Cymru o ran maint gweithgaredd troseddol.
Mae hanner y gangiau'n dod o Lannau Merswy ac mae eu recriwtiaid a'u cwsmeriaid bregus yn wynebu cael eu curo a hyd yn oed ymosodiadau cyllyll os ydyn nhw ar ei hôl hi gyda’u taliadau i'w meistri cyffuriau
Gweithiodd Emma Thomas, Pennaeth Dadansoddi Troseddol a Chudd-wybodaeth yr Heddlu, ar y proffiliau gyda’r Uwch Ddadansoddwr Owen Preece.
Meddai: “Roedd angen i ni ddeall beth oeddem yn ei wynebu yng ngogledd Cymru ac edrych ar drais difrifol, y farchnad gyffuriau a phobl agored i niwed.
“Mae’r ffaith ei fod yn flaenoriaeth i’r Comisiynydd yn golygu y gallwn roi adnoddau i’r gwaith er mwyn helpu i adeiladu cymunedau cydnerth a cheisio newid y diwylliant fel ein bod yn gallu adnabod y gangiau sy'n manteisio ar y bobl agored i niwed hyn.
“Lle mae gogledd Cymru yn arwain yw trwy weithio mewn partneriaeth a chydnabod nad mater plismona yn unig mohono ond mae hefyd yn cynnwys cymaint o sefydliadau sy'n delio â gwasanaethau iechyd a chymdeithasol fel ein bod yng Nghymru yn cael ein gweld fel pobl sy’n flaengar yn y frwydr yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol.
“Mae'n farchnad broffidiol iawn i'r gangiau ac maen nhw'n hyblyg iawn ac yn gallu newid eu methodoleg yn gyflym iawn er mwyn addasu i'r ffordd rydyn ni'n gweithredu yn eu herbyn ac mae'n rhaid i ni wedyn gadw i fyny er mwyn delio gyda nhw.”
Ychwanegodd y Ditectif Uwcharolygydd Beck: “Mae gangiau sy’n gweithredu model cyflenwi cyffuriau Llinellau Cyffuriau yn debygol o gam-fanteisio ar blant ac oedolion bregus a’u defnyddio i symud a storio’r cyffuriau, yn aml byddant yn defnyddio gorfodaeth, bygythiadau, trais ac arfau.
“Y gangiau sy’n peri’r risg uchaf dro ar ôl tro yw’r rhai sy’n targedu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gall y bobl yna fod yn blant sy’n cael eu gorfodi i fywyd o gam-fanteisio troseddol neu rywiol neu ddefnyddwyr cyffuriau a phobl â phroblemau iechyd meddwl y mae eu cartrefi’n cael eu defnyddio fel canolfan ar gyfer cyflenwi cyffuriau.
“Yn nodweddiadol mae gan ddioddefwyr wendidau presennol sy'n eu gwneud yn arbennig o agored i gael eu targedu. Maen nhw’n debygol o ddod o amgylchedd cartref anhrefnus, yn agored i gam-drin sylweddau a thrais domestig o oed ifanc, byddan nhw’n mynd ar goll yn rheolaidd neu'n absennol heb ganiatâd o'r ysgol ac yn byw mewn cymdogaethau sydd â chyfraddau troseddu uchel.
“Yn aml mae gan ardaloedd lle mae troseddau cyfundrefnol yn gyffredin nodweddion tebyg, er enghraifft lefelau uchel o amddifadedd, tlodi plant, cyfraddau troseddu, diweithdra, dibyniaeth ar fudd-daliadau a lefelau isel o incwm cartref.
“Mae'r ffaith bod y gangiau hyn yn cam-fanteisio ar blant a phobl fregus yn gwbl warthus.”