Skip to main content

Prosiect blaengar yn helpu mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Wrecsam

Dyddiad

Ysgol Morgan Llwyd 2

Ar 12 Mehefin, aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam i weld sut mae prosiect dyfeisgar sy'n ymgysylltu ag ieuenctid yn canolbwyntio ar achosion creiddiol ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) ymysg pobl ifanc yn yr ardal. 

Mae'r prosiect yn rhan o fenter ehangach yn Wrecsam, ac yn cael ei weithredu gan Groundworks Gogledd Cymru, sy'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru i weithredu'r fenter.  Mae Cronfa Strydoedd Diogelach yn rhaglen £75 miliwn gan y Swyddfa Gartref sy'n annog Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol i gynnig am fuddsoddiad ar gyfer mentrau er mwyn atal trosedd mewn cymdogaethau ar draws Cymru a Lloegr. 

Ers y pandemig, mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn ASB ymysg pobl ifanc mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach, ynghyd â chynnydd ymysg pobl ifanc sy'n dweud eu bod yn dioddef problemau iechyd meddwl.  Mae'r prosiect dyfeisgar hwn yn Ysgol Morgan Llwyd yn ceisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol ASB ymysg ieuenctid drwy bartneriaeth sy’n gweithio gydag ysgolion a sefydliadau lleol. Ymysg yr ysgolion eraill sy'n cymryd rhan yn y rhaglen mae Ysgol Clywedog ac Ysgol Rhosesni.

Mae pob ysgol o dan sylw yn cael dau ddiwrnod yr wythnos o ymgysylltiad ble fydd y tîm ieuenctid yn Groundworks Gogledd Cymru yn cynnig cefnogaeth, cyfleoedd a thrafodaeth ddwys ar ASB o fewn yr ysgol, yn ogystal â chydnabod  problemau cyfredol yn y gymuned. Bydd gan grwpiau hefyd y cyfle i ddysgu sgiliau a chymwysterau newydd drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau.

Mae'r rhaglen hefyd yn dysgu atal troseddau a sut i gadw'n ddiogel, yn ogystal ag effaith ASB yn y gymuned. ⁠Hyd yn hyn mae'r prosiect wedi cael effaith bositif gyda'r bobl ifanc yn cymryd rhan yn frwdfrydig mewn trafodaethau grŵp ynglŷn ag ASB, gan arwain ar wella llefydd yn y gymuned a chefnogi gweithgareddau cymunedol. 

Yn ystod ei ymweliad â'r ysgol cyfarfu Andy Dunbobbin ag Aaron Jones, Prif Arweinydd Ieuenctid, Groudworks Gogledd Cymru, Jenny Pope, Gweithiwr Ieuenctid, Groundworks Gogledd Cymru, Emily Reddy, Cydlynydd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Wrecsam, a Phennaeth y Flwyddyn, Mr Sion Davies. Bu'r disgyblion yn creu cafnau blodau i'w gosod yng nghanol iard yr ysgol. Yn ogystal ag adeiladu'r cafnau planhigion eu hunain, dewisodd y plant y pridd a'r planhigion i'w dangos ynddynt er mwyn creu lle deniadol yn yr ysgol ar gyfer eu cyd-ddisgyblion.

Fel enghraifft o un o'r trafodaethau grŵp a ddigwyddodd mewn ysgol leol arall, Ysgol Clywedog, bu grŵp yn trafod beth fyddent yn hoffi gwneud yn yr ysgol a beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth yno. Cytunwyd ar gael blwch amnest yn yr ysgol i'r myfyrwyr waredu unrhyw arfau miniog neu unrhyw beth annifyr.  Dywedodd y grŵp hefyd eu bod am gael rhywbeth yn yr ysgol y maent wedi ei greu a phenderfynwyd yr hoffent gael celf graffiti yn yr ysgol. Roedd y rhain i gyd yn syniadau da a chafodd y grŵp fod yn rhan ohonynt.

Dywedodd Mr Sion Davies o Ysgol Morgan Llwyd: “Mae'r prosiect wedi bod o gymorth mawr i bobl ifanc. Maent wedi mwynhau yn arw ac wedi dysgu llawer o'r profiad. Maen nhw bob amser wrth eu bodd yn cymryd rhan a dw i'n meddwl eu bod wedi datblygu, nid yn unig fel disgyblion ond fel pobl hefyd."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd hi'n bleser gweld y gwaith arloesol hwn yn cael ei wneud gan Groundworks, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam yn Ysgol Morgan Llwyd fel rhan o gynllun ehangach yn mynd i'r afael â ASB ar draws y ddinas. Mae creu cymdogaethau mwy diogel yn flaenoriaeth allweddol i mi fel  Comisiynydd Heddlu a Throsedd a rhan bwysig o hyn yw ymgysylltu â chymunedau lleol a deall sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddeall pam mae problemau fel ASB yn digwydd, sut mae'n effeithio pobl a sut y gallwn ymladd yn ei erbyn gyda'n gilydd."