Skip to main content

Rhybudd rhag twyllwyr Coronafeirws

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn galw am dro pedol gan Lywodraeth Cymru wrth i arolwg ddangos 91% o gefnogaeth i gynyddu dirwyon teithio

Mae pennaeth heddlu yn rhybuddio pobl yng ngogledd Cymru i fod yn wyliadwrus o sgamwyr creulon sy'n defnyddio'r pandemig coronafeirws i gymryd mantais ar bobl fregus.

Eisoes mae dros  £800,000 wedi cael ei ddwyn ledled y DU gan dwyllwyr yn manteisio ar yr ofn a grëwyd gan yr haint ond mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn benderfynol o fynd i'r afael â'r twyllwyr.

Meddai: “Troseddwyr creulon yw’r rhain sy’n ceisio gwneud arian allan o’r hyn sy’n argyfwng byd-eang trwy fanteisio ar ofnau a phryderon pobl.

“Rydym wedi gweld o ddigwyddiadau trefn gyhoeddus mewn archfarchnadoedd pa mor gynhyrfus y gall pobl fod ac mae'r troseddwyr yma’n ceisio manteisio ar hynny.

“Mae pobl yn mynd i banig wrth weld bargen ar y rhyngrwyd ac maen nhw'n mynd amdani heb feddwl ddwywaith.”

Mae'r Swyddfa Twyll a Chudd-wybodaeth Genedlaethol wedi canfod 21 achos o dwyll sy'n gysylltiedig â’r argyfwng coronafeirws ers mis Chwefror, deg ohonynt gan bobl a geisiodd brynu masgiau wyneb amddiffynnol gan werthwyr ffug, gan gynnwys un dioddefwr a gollodd £15,000.

Tacteg gyffredin arall a ddefnyddir gan y twyllwyr yw cysylltu gyda phobl trwy e-bost sy’n honni eu bod yn dod gan sefydliadau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r canolfannau ar gyfer rheoli ac atal clefydau (CDC) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Mae'r twyllwyr yn honni eu bod yn gallu darparu rhestr i'r derbynnydd o bobl sydd wedi’i heintio â'r afiechyd. Er mwyn cael at yr wybodaeth hon, mae angen i'r dioddefwr glicio ar ddolen sy'n arwain at wefan faleisus, neu i wneud taliad mewn Bitcoin.

Mae Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu ei hun, yn sefydlu Uned Trosedd Economaidd newydd i fynd i'r afael â thwyllwyr ac mae wedi darparu cyllid i dalu am swyddog ymroddedig i gefnogi dioddefwyr twyll.

Meddai: “Mae twyll yn drosedd arbennig o greulon ac annymunol sydd yn aml iawn yn manteisio ar y bregus a’r unig yn ein cymdeithas, ac mi all dioddef twyll gael effaith drawmatig ar y dioddefwr.

“Mae defnyddio pryderon dealladwy’r bobl hynny pan fydd y wlad yn wynebu epidemig digynsail yn arbennig o greulon ac mae’n gadael llawer o bobl yn teimlo gormod o embaras a chywilydd i gyfaddef beth sydd wedi digwydd iddyn nhw.

“Ac yn waeth na hynny, unwaith y bydd rhywun wedi cael ei dwyllo, yn enwedig os ydyn nhw’n fregus, maen nhw’n aml yn cael eu herlid dro ar ôl tro fel petaen nhw ar gronfa ddata rhai twyllwyr.”

“Rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o dwyll, nid yn unig yng ngogledd Cymru ond ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae’r dioddefwyr yn aml yn bobl oedrannus, ac fel y gwyddom mae’r feirws yn arbennig o beryglus i'r boblogaeth dros 70 oed, ac maent yn cael eu targedu’n benodol dros gyfres o alwadau ffôn, gyda'r arian yn cael ei gymryd oddi wrthynt a benthyciadau yn cael eu cymryd allan yn eu henw.

“Mae troseddau fel hyn ymysg y gwaethaf oherwydd bod dioddefwyr wedi gweithio’n galed ar hyd eu hoes ac wedi cynilo eu holl arian dim ond i’w weld yn diflannu ar ôl dau neu dri o alwadau ffôn.

“Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir yna mae’n debyg nad ydyw'n wir o gwbl, a dyna’r neges sydd angen i ni ei chael allan yna.”

Dywedodd llefarydd ar ran Action Fraud, y Swyddfa Twyll a Chudd-wybodaeth Genedlaethol: “Rydym hefyd wedi derbyn sawl adroddiad o negeseuon e-bost gwe-rwydo (‘phishing’) ar bwnc Coronafeirws sy’n ceisio twyllo pobl i agor atodiadau maleisus neu ddatgelu gwybodaeth bersonol ac ariannol sensitif.”

Mae Action Fraud wedi darparu rhestr o awgrymiadau defnyddiol i guro'r sgamwyr, gan gynnwys cadw llygad am unrhyw negeseuon sy'n debygol o fod yn ymgais i dwyllo.

Ychwanegodd y llefarydd: “Peidiwch â chlicio ar y dolenni a’r atodiadau mewn unrhyw e-byst amheus a pheidiwch byth ag ymateb i unrhyw negeseuon a galwadau digroeso sy’n gofyn am fanylion personol ac ariannol.

“Wrth siopa ar-lein gwnewch ychydig o ymchwil yn gyntaf neu gofynnwch am gyngor cyn prynu gan gwmnïau neu bobl nad ydych chi'n eu hadnabod neu'n ymddiried ynddynt. Defnyddiwch gerdyn credyd os yn bosibl, gan fod y mwyafrif o ddarparwyr cardiau credyd yn yswirio pryniannau ar-lein.”