Skip to main content

Sam yn ysbrydoliaeth wrth gael ei bywyd yn ôl ar y llwybr iawn

Dyddiad

250620 Dechrau Newdd-1

Mae gwraig ysbrydoledig a oedd yn agor potel o win yn rheolaidd i frecwast a’i golchi i lawr gyda fodca yn cael ei bywyd yn ôl ar y llwybr iawn diolch i gynllun arloesol.

Mae Samantha Taylor, 47 oed, sy’n byw yn y Rhyl, yn cael ei chefnogi gan gynllun Dechrau Newydd sy’n darparu cefnogaeth ymateb cyflym a chymorth i dorri’r cylch dieflig o fod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol a throseddu.

Mae’r fenter, a reolir gan sefydliad Kaleidoscope, wedi’i chomisiynu ar y cyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS).

Cafodd Sam ei hun mewn trafferth wedi iddi gael ei harestio a’i chyhuddo o yfed a gyrru ar ôl damwain car un bore pan oedd mwy na dwywaith dros y terfyn yfed a gyrru.

Fel rhan o’i dedfryd, dynodwyd Gweithiwr Gwydnwch Cyfiawnder Troseddol Prosiect Kaleidoscope iddi.

Bellach mae Sam yn cyfarfod ag Amanda Weaver unwaith bob pythefnos ac maent yn siarad yn rheolaidd ar y ffôn i drafod unrhyw anawsterau y mae Samantha yn eu hwynebu ac i gadw golwg ar ei chynnydd.

Dechreuodd ei phroblemau gydag alcohol pan gollodd ei mam i ganser yn 18 oed pan oedd yn byw yn Shotton yn Sir y Fflint.

Meddai: “Bu farw Mam yn 44 oed pan oeddwn yn ddim ond 18 oed. Mi wnaeth hynny fy ysgwyd yn fawr. Aeth fy nhad oddi ar y cledrau a tharo’r botel, er ei fod o’n iawn rŵan. Fy ngwaith i oedd rhedeg popeth a dim ond 14 oed oedd fy chwaer.

“Llwyddais i fynd i’r brifysgol yn Preston, a dod oddi yno efo gradd dda mewn ieithoedd, Ffrangeg ac Almaeneg, a Busnes. Gweithiais i gwmni oedd yn gwneud gwaith trwsio i graeniau ac offer trwm yn yr Almaen a Ffrainc felly roedd fy sgiliau iaith yn help mawr.

“Yna mi wnes i weithio i drefnydd teithiau am 12 mlynedd yn trefnu gwyliau dramor ac ym Mhrydain ond gan fy mod ar alwad 24 awr y dydd roedd yn ormod. Yna gweithiais i asiantaeth yn gwneud gwaith clerigol i gwmni ac yn pacio pysgod byw ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes.”

Symudodd Sam i’r Rhyl yn 2018, 12 mis ar ôl iddi gyfarfod â phartner newydd a drodd allan i fod yn ymosodol.

Meddai: “Symudodd i mewn efo mi yn Shotton. Mi ddylwn i fod wedi gwybod yn well gan ei fod yn ddyn ymosodol ac roedd ganddo dymer ofnadwy os nad oedd o’n cael ei ffordd ei hun. Ar ôl i ni symud i’r Rhyl mi ddechreuodd malu fy mhethau.

“Mi wnes i ddiweddu yn cysgu ar y soffa yn fy nghartref fy hun a gofyn y cwestiwn i mi fy hun, pam oeddwn i’n gwneud hyn i mi fy hun?

“Daeth yn fwy ymosodol a threisgar ac mi fyddai’n fy sarhau yn gyhoeddus. Byddem mewn siop neu archfarchnad ac mi fyddai’n dechrau gweiddi arnaf pe bawn i’n sbïo ar rywbeth nad oedd o eisiau. Yn y stryd, mi fyddai’n fy sarhau pe bawn i’n cerdded yn rhy araf neu’n rhy gyflym. “

Yn ôl Sam, fe aeth ei defnydd o alcohol allan o reolaeth unwaith yr oedd ar ei phen ei hun.

Meddai: “Mi fyddwn i’n codi yn y bore ac yn dechrau yfed. Ar fy ngwaethaf, mi fyddwn yn llowcio potel o win yn gyflym iawn ac yna’n mynd ar y fodca. Mi fyddwn yn aml yn gorffen bocs o win, chwe photel, a photel fawr o fodca dros ddau ddiwrnod. Mi fyddwn i’n yfed er mwyn mynd i gysgu a fy helpu i anghofio pethau.

“Yna mi wnes i fynd yn sâl a diweddu yn yr ysbyty gyda churiad calon afreolaidd.

Pan gafodd brawf anadl ar ôl damwain roedd Sam ddwywaith dros y terfyn yfed a gyrru.

Yn Llys Ynadon Llandudno, cafodd ei gwahardd rhag gyrru am dair blynedd, ei dirwyo a’i dedfrydu i 250 awr o wasanaeth cymunedol.

Fel rhan o’r ddedfryd, bu’n rhaid iddi gytuno i weithio gyda Phrosiect Kaleidoscope am chwe mis.

Meddai: “Mae fy nghyfarfodydd bob pythefnos efo Amanda wedi bod yn help enfawr i mi.

“Rydyn ni’n siarad ar y ffôn ac yn cyfarfod ein gilydd bob pythefnos, gan wneud yn siwr ein bod yn pellhau’n gymdeithasol. Mae hi’n fy helpu cymaint i symud ymlaen.”

Ychwanegodd: “Roedd fy yfed allan o reolaeth a chyrhaeddais y pwynt, fwy nag unwaith, pan feddyliais am hunanladdiad. Roeddwn wedi colli pob synnwyr cyfeiriad yn fy mywyd.

“Ond mae Amanda wedi gwneud i mi sylweddoli bod mwy i fywyd nag edrych trwy waelod potel neu wydr gwin.

“Rydw i bellach wedi lleihau'r alcohol rwy’n ei yfed i lasiad o gwrw efo pryd gyda’r nos ond nid bob dydd.”

Dywedodd Amanda Weaver: “Mae Sam yn gwneud yn rhyfeddol o dda ac mae hi’n ysbrydoliaeth go iawn.

Bu llawer mwy o ymgysylltu ac awyrgylch mwy hamddenol. Mae hynny’n ddefnyddiol iawn gyda fy ngwaith efo Sam.

“Rydyn ni angen iddi wynebu ei chyfrifoldebau a rhoi dulliau ymdopi ar waith sy’n adeiladu gwytnwch er mwyn iddi allu ymdopi’n well efo dramâu ac argyfyngau bywyd.

“Mi wnaeth Sam yfed ei hun i ebargofiant oherwydd na allai wynebu argyfyngau bywyd ond trwy adeiladu ei gwytnwch a’i hunan-barch gall edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair.”

Dywedodd y Comisiynydd Arfon Jones: “Mae alcohol yn gyffur ac fel pob cyffur arall weithiau mae pobl yn cael eu hunain i gylch dieflig sy’n eu harwain yn anorfod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol.

“Mae’n hawdd rhoi troseddwyr gerbron y llysoedd a’i gadael hi ar hynny. Ond dim ond help llaw sydd ei angen ar lawer o droseddwyr a chyfle i fynd yn ôl ar y llwybr cul.

“Mae Dechrau Newydd yno i geisio torri’r cylch a gobeithio rhoi’r ail gyfle pwysig hwnnw mewn bywyd i bobl.

“Mae’n ymwneud â chynnig cefnogaeth gyfannol effeithiol wedi’i theilwra sy’n lleihau ymddygiad troseddol a defnyddio sylweddau, ac yn torri’r cylch dinistriol o ddefnyddio sylweddau, troseddu a charchar.”

Ychwanegodd prif weithredwr Kaleidoscope, Martin Blakebrough: “Rydym yn gweithio gydag asiantaethau partner ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae. Rydym wedi symud i un cyfeiriad a does dim troi  yn ôl i’r hen system a fethodd yn rhy aml â mynd i’r afael â materion camddefnyddio sylweddau gan bobl fyddai’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol neu’n cael eu rhyddhau o’r carchar.”