Skip to main content

SCHTh yn chwilio am wirfoddolwyr er mwyn sicrhau lles carcharorion

Dyddiad

OPCC Independent Custody Visitors July 2023

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) Gogledd Cymru bellach yn recriwtio unigolion ar draws y rhanbarth er mwyn ymuno fel Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol. Mae'r rhain yn aelodau o'r cyhoedd sy'n cynnal ymweliadau rheolaidd â phobl a gedwir yn nalfa'r heddlu ar draws Gogledd Cymru, gan sicrhau bod eu lles a'u hanghenion yn cael eu diwallu.

Bydd disgwyl i wirfoddolwyr gyflawni o leiaf 10 ymweliad y flwyddyn, gan sicrhau dosbarthiad cyfartal trwy gydol y cyfnod o 12 mis i fonitro cyfleusterau dalfeydd a chyflwr carcharorion yn effeithiol.  Bydd y rhai yn y rôl yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal safonau a gofalu am driniaeth carcharorion, arsylwi ac adrodd ar hawliau a lles y rhai sydd yn y ddalfa mewn swyddogaeth ddiogelu. Mae ymweliadau â dalfeydd yn ddirybudd ac nid ydynt wedi'u cynllunio ymlaen llaw, er mwyn sicrhau asesiad diduedd o'r amodau a brofir gan garcharorion.

Mae ceisiadau ar gyfer recriwtio bellach ar agor a byddant yn cau ar 11 Awst, 2023. Mae gan SCHTh ddiddordeb penodol mewn recriwtio siaradwyr Cymraeg ac aelodau o gymunedau du ac ethnig lleiafrifol fel rhan o'u hymdrechion parhaus i hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth yn y gweithle ac adlewyrchu'r boblogaeth a wasanaethir.

Dros y 12 mis diwethaf, gwnaed cyfanswm o 120 ymweliad gan Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol gwirfoddol ledled tair dalfa Heddlu Gogledd Cymru. Gwelwyd neu arsylwyd 415 o garcharorion er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin gydag urddas a pharch. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae sicrhau lles a thriniaeth deg pobl a gedwir yn y ddalfa yn bwysig i mi fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

"Drwy ymuno fel gwirfoddolwr, bydd gennych gyfle unigryw er mwyn sicrhau y clywir llais y gymuned o fewn y system cyfiawnder troseddol."

"Rwyf yn annog unigolion o gefndiroedd amrywiol i ymuno â ni yn y rôl hon. Drwy recriwtio Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol, gallwn barhau gwaith SCHTh wrth wneud effaith cadarnhaol ar fywydau'r rhai hynny yn y ddalfa."

Adlewyrchodd John Dolan,sydd ar hyn o bryd yn Ymwelydd Dalfeydd Annibynnol, ar ei brofiadau drwy ddweud: "Rwyf yn cyflawni oddeutu 2-3 awr bob yn ail wythnos yn y rôl ac rwyf wedi bod yn gwneud hyn am y ddegawd ddiwethaf. Rwyf yn cofio'r broses recriwtio, lle roeddwn wedi fy mhlesio'n fawr gyda'r manylder yn yr hyfforddiant a dderbyniais. 

"Roedd rôl y gwirfoddolwr yn gyfle perffaith i mi yn fy ymddeoliad, ond rwyf yn meddwl fod pobl o unrhyw oed neu gefndir yn gallu ymgeisio a gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas. Mae bod yn wirfoddolwr yn gyfle i mi wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at bobl eraill. Ond mae hefyd yn dod â sawl mantais i mi'n bersonol. 

"Buaswn yn hoffi gweld pobl eraill yn ymuno â'n tîm, yn enwedig y bobl hynny gyda chefndiroedd a phrofiadau amrywiol."

Gwneir gwaith Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol yn wirfoddol. Ad-delir costau teithio gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Er mwyn ymgeisio neu ddysgu mwy am ddod yn Ymwelydd Annibynnol Dalfeydd gwirfoddol, ewch ar wefan SCHTh Gogledd Cymru: Swyddi Gwag | Office of the Police and Crime Commissioner North Wales (northwales-pcc.gov.uk)