Skip to main content

Swyddogion fforensig Heddlu'r Gogledd yn gosod y safon ar gyfer ymchwiliadau damweiniau ffyrdd

Dyddiad

Swyddogion fforensig Heddlu'r Gogledd yn gosod y safon ar gyfer ymchwiliadau damweiniau ffyrdd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gosod y patrwm i weddill heddluoedd y DU ei ddilyn yn y ffordd y maent yn ymchwilio i ddamweiniau ffyrdd difrifol a’u defnydd o ddulliau uwch-dechnoleg gan gynnwys dronau.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Arfon Jones, ei fod yn falch fod Heddlu’r Gogledd wedi cael eu henwi fel y prif wasanaeth heddlu ar gyfer system achredu newydd ar ôl gosod y “safon aur” ar gyfer ymchwiliadau fforensig.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi derbyn cyllid ychwanegol o £2 filiwn i arwain y Rhwydwaith Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig newydd fel y gwasanaeth heddlu fydd yn lletya’r rhwydwaith.

Y nod yw sicrhau bod pob un o'r 43 gwasanaeth heddlu wedi'u hachredu erbyn Hydref 2022 ac mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gogledd Cymru wedi'i phenodi'n brif swyddog y fenter.

Roedd, meddai Mr Jones, yn hanfodol bwysig bod yr ymchwiliadau'n cael eu cynnal yn y modd iawn i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei wneud, yn enwedig i ddioddefwyr damweiniau ffyrdd a'u teuluoedd.

Ychwanegodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu: “Rwy’n falch iawn bod Heddlu Gogledd Cymru yn arwain ar y fenter bwysig hon i sicrhau nad oes gennym loteri cod post o ran ansawdd ymchwiliadau fforensig.

“Nid yw rhagoriaeth yr ymchwiliadau yng ngogledd Cymru yn rhywbeth sydd wedi digwydd dros nos.

“Mae'n deyrnged i fedrusrwydd ac ymroddiad ein swyddogion heddlu dros nifer o flynyddoedd i wella sut rydyn ni'n gweithredu.

“Mae Sacha Hatchett yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol rhagorol a hynod alluog, felly hi yw’r dewis perffaith fel swyddog arweiniol y fenter.

“Mae teuluoedd y dioddefwyr yn haeddu cael ymchwiliadau o’r safon uchaf bosibl. Mae lladd neu anafu pobl ar ein ffyrdd yn drosedd ac mae’r drosedd honno yn haeddu cael ymchwiliad cywir, yn union fel ymchwiliadau i ymosodiadau corfforol, achosion o dreisio neu lofruddiaethau.

“Mae dioddefwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd yn haeddu’r un lefel o ymchwiliad cymwys gan yr heddlu â phawb arall.

“Yng ngogledd Cymru mae’r heddlu wedi derbyn y safon aur o ran ymchwilio fforensig a’r gobaith yw y byddwn ni'n codi pawb yng Nghymru a Lloegr i'n lefel ni.”

Ategwyd y teimlad gan y Prif Gwnstabl Carl Foulkes a ddywedodd: “Mewn gwirionedd mae hwn yn gysyniad newydd gwych ar gyfer plismona lle rydym yn ceisio dod â phob heddlu ledled y DU ynghyd i gael dull achrededig cyson wrth i ni  ymchwilio i wrthdrawiadau ar ein ffyrdd.

“Mae'r ffaith y gofynnwyd i ni arwain ar y gwaith yn dangos cryfder ein dull fforensig a hefyd ansawdd ein hymchwiliadau fforensig.

“Mae'n ddisgyblaeth gymhleth iawn i ddeall beth sydd wedi achosi i rywun golli bywyd neu ddioddef anafiadau difrifol ac rydym am sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau posib.

“Rydym yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i sganio lleoliad gwrthdrawiad ac mae dronau'n cael eu defnyddio’n gynyddol i asesu'r ffordd fawr gyfagos i ddeall beth ddigwyddodd a phwy sy'n gyfrifol.

“Mae gen i arweinydd gwych yn y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett ac mae hi'n cael ei chefnogi gan dîm anhygoel yn yr adran fforensig sy'n fy synnu dro ar ôl tro gyda’r hyn y maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n cyflawni ymhell uwchlaw’r disgwyl i wasanaeth heddlu o'n maint ni.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Hatchett: “Mae'n waith pwysig iawn oherwydd mae’n ymwneud ag ymchwilio i farwolaethau a gwrthdrawiadau difrifol ar ein ffyrdd.

“Mae’n iawn fod ein staff wedi’u hyfforddi i’r lefel briodol fel y gallan nhw gyflawni eu cyfrifoldebau, boed hynny drwy’r system cyfiawnder troseddol neu drwy lys y crwner, er wmyn rhoi hyder i’r gymuned ein bod ni’n drylwyr ac yn broffesiynol wrth ymchwilio i wrthdrawiadau o'r fath.

“Mae gennym oddeutu 350 o bobl ar draws 43 o heddluoedd sy'n swyddogion ymchwilio fforensig i wrthdrawiadau sy'n cyflawni swyddogaeth heriol ac arbenigol iawn.

“Rwy’n gobeithio, gyda’u cefnogaeth nhw, y byddwn yn gallu codi ymchwiliadau fforensig i wrthdrawiadau i’r lefel nesaf.

“Rydym yn credu bod dull rhwydwaith o ymdrin â'r math hwn o wyddoniaeth yn rhywbeth y gellid ei ailadrodd mewn meysydd plismona eraill, felly gobeithio y byddwn yn gosod y patrwm ar gyfer sut y gallwn wneud ein gwaith yn y dyfodol."