Skip to main content

Taflu goleuni ar gymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig gan y gymuned BAME

Dyddiad

DASU refuge visit

Ar ymweliad diweddar i loches yn sir Conwy, dysgodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, am y cymorth arbenigol sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig o'r gymuned Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol (BAME) yn y rhanbarth. 

Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw gymuned, ond gall aelodau o'r gymuned BAME fod angen cymorth arbenigol ychwanegol oherwydd rhwystrau iaith a gwahaniaethau diwylliannol. 

Mae'r gwasanaeth cymorth yn y lloches yn cael ei ddarparu gan DASU (Uned Diogelwch Cam-drin Domestig), sefydliad sy'n darparu ymyriadau proffesiynol wedi'u cydlynu a'u targedu ar gyfer pobl sy'n profi cam-drin domestig ledled siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam. Mae DASU yn wasanaeth wedi'i gomisiynu gan y CHTh er mwyn cynorthwyo dioddefwyr yng Ngogledd Cymru.

Mae'r DASU â sawl Siop Un Stop ar hyn o bryd ledled y gwahanol siroedd a thros 41 o lochesi. Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o gyflawni gwasanaethau arbenigol a phroffesiynol am ddim ac o ansawdd uchel i ferched, dynion a'u plant sydd neu sydd wedi profi cam-drin domestig.  Mae hyn yn eu galluogi nhw fyw heb ofn mewn cymunedau, gan wneud y gorau o'u gallu i reoli eu diogelwch a'u lles eu hunain. Mae gwasanaethau'n cynnwys Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol, ymyrryd ag argyfwng, allgymorth ac adsefydlu, llochesi diogel, eiriolaeth a gwasanaethau plant a phobl ifanc. 

Yn ystod ei ymweliad â'r lloches, gwnaeth Andy Dunbobbin gyfarfod â Rhian Lewis (Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, DASU) a chlywodd am y gwasanaeth sydd ar gael i'r bobl hynny sy'n dianc ac yn ceisio cymorth yn dilyn cam-drin domestig.

Enghraifft o sut y darperir cymorth i aelodau o'r gymuned BAME ydy atgyfeiriad a dderbyniwyd ar gyfer dynes a dau o blant. Roedd y ddynes 6 mis yn feichiog ac yn wreiddiol o Fwlgaria ac ond yn siarad ychydig iawn o Saesneg. Gwnaed yr atgyfeiriad gan wasanaethau cymdeithasol. Roedd y plant a'r plentyn a oedd heb ei eni yn rhan o gynllun gwarchod plant.

Bryd hynny, roedd gwasanaethau cymdeithasol wedi cytuno ariannu'r lleoliad gan nad oedd ganddi fynediad at gronfeydd cyhoeddus. Felly, ni fyddai ganddi hawl i'r system les. Roedd wedi cael lloches o'r blaen ond wedi gadael er mwyn ailafael yn y berthynas.

O'r dechrau, roedd y dioddefwr yn gwadu popeth, yn diystyru'r cam-drin ac yn methu derbyn unrhyw risg iddi hi neu'r plant. Fodd bynnag, dechreuodd ddadlennu cam-drin emosiynol a bod y troseddwr honedig wedi bygwth ei lladd. ⁠Dechreuodd gydnabod fod y risg yn cynyddu ac nad oedd hi'n amgylchfyd diogel iddi hi na'i theulu.

Fe ddadlennwyd fod y troseddwr honedig â phroblemau camddefnyddio sylweddol, hanes troseddol yn y DU a Bwlgaria ac wedi gwneud bygythiadau treisgar i weithwyr proffesiynol a oedd wedi dod i gyswllt â'r teulu.

Yn ystod ei harhosiad mewn gwahanol lochesi dros gyfnod proses gymorth gymhleth, cynorthwywyd y ddynes mewn ffyrdd arbenigol amrywiol. Er enghraifft, drwy gymorth gyda gwasanaethau cymdeithasol drwy fynd i gyfarfodydd rheolaidd ac eirioli ar ran y cleient; apwyntiadau iechyd ar gyfer ei beichiogrwydd a gofal iechyd cyffredinol i'r teulu; cymorth er mwyn cael mynediad at ddillad a hanfodion ar gyfer y teulu; cymorth gyda rhianta; cymorth er mwyn cyfathrebu gyda'i theulu'n ôl ym Mwlgaria; a chymorth diogelwch ynghylch diogelwch gyda chyfryngau cymdeithasol er mwyn cadw'n ddiogel rhag y troseddwr. Mae'r ddynes bellach yn ddiogel ac wedi adleoli allan o Ogledd Cymru. 

Dywedodd Gaynor Mckeown: "Mae DASU yn cynnig cymorth arbenigol wedi'i deilwra ar gyfer merched, dynion a phlant yng Ngogledd Cymru. Mae gennym ystod o wasanaethau, gan gynnwys llochesi sy'n galluogi'r bobl hynny a effeithir gan gam-drin domestig i gael cymorth a byw bywyd heb ofn. Mae hyn yn cynnwys cymorth arbenigol i unigolion o gymunedau BAME a goroeswyr gydag anghenion cymhleth. Rydym yn wasanaeth anfeirniadol, cyfrinachol ac am ddim. Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod yn dioddef unrhyw fath o gam-drin domestig, cysylltwch, cymerwch y cam cyntaf tuag at ddyfodol mwy diogel."

Dywedodd Andy Dunbobbin: "Mae DASU yn gwneud gwaith hynod werthfawr wrth gynorthwyo dioddefwyr cam-drin domestig yng Ngogledd Cymru. Mae comisiynu'r mathau hyn o wasanaethau er mwyn cynorthwyo dioddefwyr yn y rhanbarth yn rhan bwysig o'm rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae'n braf gweld y gwasanaethau hyn ar waith yn ystod fy ymweliad â'r lloches. Mae'r gwasanaethau arbenigol hyn i bobl o gymunedau lleiafrifol yn bwysig gan fod gan y dioddefwyr hyn anghenion cymhleth sydd angen mathau gwahanol o ymyriadau er mwyn rhoi'r hyder iddynt ddod ymlaen a cheisio cymorth a dianc o'u sefyllfa." Am fwy o wybodaeth am yr ymweliad â DASU: Hafan » DASU Gogledd Cymru