Skip to main content

Y CHTh yn cefnogi lansio strategaeth lansio troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad

Dyddiad

Wildlife and Rural Crime Strategy Conference

Ar 27 Ebrill, gwnaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Andy Dunbobbin gynorthwyo lansiad Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 2023-2025. Mae hon yn strategaeth sydd wedi'i chreu ar y cyd gan bedwar heddlu Cymru a Llywodraeth Cymru, yng Nghynhadledd Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar drosedd sy'n effeithio'r gymuned amaethyddol fel lladradau, ymosodiadau ar dda byw gan gŵn, llosgi bwriadol a byrgleriaethau. Mae'n amlinellu meysydd blaenoriaeth ar gyfer swyddogion plismona cefn gwlad am y 24 mis nesaf. Mae'r strategaeth yn rhoi pwyslais sylweddol ar gryfhau'r gwaith partneriaeth rhwng heddluoedd a sefydliadau eraill yn y frwydr yn erbyn troseddau cefn gwlad.

Rhoddodd y gynhadledd gyd-destun i'r strategaeth, trosglwyddwyd negeseuon allweddol ac edrychwyd ar yr amcanion cydweithredol a dargedir i heddluoedd, y llywodraeth ac undebau amaeth er mwyn cyflawni'r strategaeth.

Mae'r strategaeth wedi nodi i feysydd trosedd allweddol ganolbwyntio ar droseddau adar; troseddau ffermydd; cynefinoedd, mamaliaid a rhywogaethau gwarchodedig Ewropeaidd; goruchwylwyr cefn gwlad heddluoedd Cymru; ac iechyd meddwl a cham-drin domestig.

Clywodd y rhai a oedd yn bresennol yn y gynhadledd gan heddluoedd yng Nghymru yn siarad am eu hymdrechion ar hyn o bryd i atal troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt. Mae Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn cynnwys ymdrin ac atal troseddau cefn gwlad fel maes blaenoriaeth. Yn ddiweddar, mae Andy Dunbobbin wedi ymweld â llawer o gymunedau cefn gwlad er mwyn gwrando ar safbwyntiau trigolion. Mae hefyd wedi dechrau cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda chynrychiolwyr o'r NFU ac UAC fel y gallent rannu eu pryderon.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o weld lansio Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru – rhywbeth rwyf yn ei gefnogi â fy holl galon. Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn arloesol yn y maes hwn ac yr Heddlu cyntaf i greu Uned Troseddau Cefn Gwlad rhyw ddeg mlynedd yn ôl. 

Heddiw, fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, mae'r broblem hanfodol o droseddau mewn cymunedau cefn gwlad yn parhau i ffurfio rhan greiddiol o'm cynllun er mwyn lleihau trosedd yn y rhanbarth. Mae'r strategaeth a lansiwyd heddiw yn cydnabod nid yn unig bod troseddau cefn gwlad yn cwmpasu lladradau peiriannau o ffermydd, dwyn da byw a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt. Ond mae hefyd yn cynnwys achosion o gam-drin domestig a thwyll, a all effeithio ardaloedd cefn gwlad cymaint â chymunedau eraill. 

⁠Mae'r holl broblemau hyn yn droseddau sy'n bwysig i'w hwynebu. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithredu gyda chydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru, heddluoedd eraill Cymru, Llywodraeth Cymru, undebau amaeth a chymunedau cefn gwlad er mwyn rhoi'r strategaeth newydd hon ar waith." Dysgwch fwy am y strategaeth yma:

⁠Mae'r holl broblemau hyn yn droseddau sy'n bwysig i'w hwynebu. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithredu gyda chydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru, heddluoedd eraill Cymru, Llywodraeth Cymru, undebau amaeth a chymunedau cefn gwlad er mwyn rhoi'r strategaeth newydd hon ar waith." Dysgwch fwy am y strategaeth yma.