Dyddiad
Ar ddydd Gwener, 30 Mehefin, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymweld â'r Rhyl er mwyn clywed am sut mae swyddogion lleol yn y dref yn gweithio er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a mathau eraill o drosedd yn y dref.
Diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ymddygiad lle mae gweithrediadau unigolyn neu grŵp yn achosi annifyrrwch, dioddefaint neu drafferth i unigolyn neu grŵp penodol neu'r gymuned ehangach. Gall enghreifftiau gynnwys fandaliaeth, niwsans gyda cherbydau, yfed yn y stryd ac ymddygiad amhriodol gan gymdogion.
Arweiniwyd y Comisiynydd ar daith gerdded o amgylch canol y dref gan yr Arolygydd Kevin Smith o Heddlu Gogledd Cymru. Cafodd hefyd gwmni'r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau ar Gyngor Sir Ddinbych.
Cynlluniwyd yr ymweliad fel rhan o Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a oedd yn rhedeg rhwng 3 a 9 Gorffennaf. Ei nod ydy codi ymwybyddiaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynnig cyngor ar sut i hysbysu amdano a phwy ddylai wybod, a deall hawliau'r bobl fel dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r CHTh yn cefnogi'r ymgyrch. Mae atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru yn flaenoriaeth fawr iddo.
Trafododd y tri'r darlun trosedd cyffredinol yn ardal Sir Ddinbych Arfordirol, sydd wedi gweld gostyngiad cyson a chroesawgar mewn troseddau dros y misoedd diwethaf. Hyd yma, mae gostyngiad o dros 6.4% mewn trosedd cofnodedig dioddefwyr a gostyngiad cyffredinol o 10.7%. Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm o 576 yn llai o ddioddefwyr trosedd.
Ar ôl cyfarfod yng Ngorsaf Heddlu'r Rhyl ar Ffordd Wellington, ymwelodd y grŵp â'r Stryd Fawr, ym Mhen Gorllewinol y Rhyl, a'r Promenâd, sydd wedi gweld adfywiad er mwyn gwella'r ardal. Mewn blynyddoedd diweddar, mae Pen Gorllewin y Rhyl wedi elwa hefyd o dros hanner miliwn o bunnoedd o'r Gronfa Strydoedd Diogelach. Mae hwn yn gyllid sydd ar gael i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd o'r Swyddfa Gartref er mwyn lleihau trosedd a gwneud trigolion yn fwy diogel. Aeth cyllid yn y Rhyl tuag at fwy o CCC yn yr ardal, gosod camerâu ANPR, danfon cannoedd o becynnau atal trosedd byrgleriaeth i drigolion, ac adnewyddu giatiau mewn alïau ac amnewid cloeon gyda chloeon digidol.
Penodwyd yr Arolygydd Smith yn Arolygydd lleol ym mis Chwefror 2023. Fodd bynnag, mae wedi gweithio yn Sir Ddinbych yn ystod ei gyfnod o 20 mlynedd gyda'r heddlu. Yn ystod yr ymweliad, amlinellodd rai o'r cynlluniau sydd ganddo mewn golwg ar gyfer plismona yn y dref: "Mae amlygrwydd ac ymgysylltu yn allweddol i blismona'r ardal galw uchaf o'r heddlu. Mae Plismona Cymdogaethau yn chwarae rhan allweddol yma. Dros yr haf, rwyf yn edrych ar gryfhau'r Tîm Plismona Cymdogaethau ac yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn parhau gyda'r gostyngiad mewn trosedd. Er mwyn cynorthwyo hyn, mae'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus wedi cynnig offeryn grymus i'r tîm plismona lleol drechu trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r tîm plismona'n gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych ac mae'n awyddus i weld y gorchymyn hwn yn cael ei adnewyddu'n hwyrach yn y flwyddyn."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch o ymweld â'r Rhyl a chlywed am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan yr Arolygydd Smith a swyddogion lleol er mwyn trechu trosedd yn y dref. Mae'r Rhyl yn un o'r trefi mwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae'n hwb twristiaeth ac economaidd i'r rhanbarth. Gyda throsedd i lawr 10.7%, roedd yn dda clywed am y llwyddiant a welwyd yn lleol dros y misoedd diwethaf ac wrth sicrhau fod y Rhyl yn parhau'n lle croesawus i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
"Mae cyflawni cymdogaethau diogelach a chynorthwyo dioddefwyr a chymunedau yn gonglfeini fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Buaswn yn annog unrhyw un sydd eisiau hysbysu am drosedd neu sydd ag unrhyw amheuon i hysbysu'r heddlu neu Crimestoppers. Gallwn weithio gyda'n gilydd er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol lle bynnag mae'n digwydd. Boed hynny yn y Rhyl neu mewn unrhyw gymuned arall yng Ngogledd Cymru."
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas o Gyngor Sir Ddinbych: "Rwyf yn falch iawn gyda'r ffordd mae Fforwm Diogelwch Cymunedol y Rhyl bellach ar waith. Mae cyfle i gynrychiolwyr busnesau lleol, Cynghorwyr Tref y Rhyl, Cynghorwyr Sir Ddinbych dros y Rhyl, a llawer o asiantaethau eraill gyfarfod yn rheolaidd gyda HGC. Mae cyfnewid gwybodaeth yn y cyfarfod rheolaidd hwn yn cynorthwyo'r heddlu ymateb i bryderon y gymuned.
“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi'i ymroi i ddatblygiad tymor hir y Rhyl. Ynghyd â gwaith amddiffyn yr arfordir eang, mae buddsoddiad sylweddol wedi bod i adfywio'r Rhyl ar gyfer trigolion a busnesau fel ei gilydd. ”