Dyddiad
Mewn digwyddiad ar Gae Ras CCPD Wrecsam, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gyflwyno Gwobr Cymuned Ddiogelach yn ddiweddar i John Widdowson ac Ymddiriedolaeth Gymunedol y clwb am y gwaith maent wedi bod yn ei wneud er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ddinas. Mae 3-9 Gorffennaf hefyd yn Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Ei nod ydy codi ymwybyddiaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynnig cyngor ar sut i hysbysu amdano a phwy ddylai wybod, a deall hawliau'r bobl fel dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cyflwynwyd y tlws fel rhan o gynllun Gwobrau Cymunedol ehangach y CHTh. Mae'r gwobrau yn cydnabod yr arwyr lleol sy'n aml yn ddisylw sy'n gweithio yn y cefndir er mwyn cynorthwyo dioddefwyr, adsefydlu a lleihau tebygolrwydd ac effaith trosedd ledled y rhanbarth. Gwelodd y broses enwebu swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr o Heddlu Gogledd Cymru yn cyflwyno awgrymiadau o bobl maent wedi gweithio gyda nhw yn y gymuned fel enillwyr.
Cydnabuwyd John Widdowson ac Ymddiriedolaeth Gymunedol CCPD Wrecsam am y gwaith maent wedi bod yn ei wneud fel rhan o'r fenter Strydoedd Diogelach ar gyfer Wrecsam. Maent wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn cyflawni cyfres o fentrau sy'n ceisio ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc ar ddyddiau gemau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas. Mae'r Gronfa Strydoedd Diogelach yn rhaglen £75 miliwn gan y Swyddfa Gartref sy'n annog Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol i gynnig am fuddsoddiad am fentrau er mwyn atal trosedd mewn cymdogaethau ar draws Cymru a Lloegr.
Mae John wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc mewn sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau sydd yn eu herio i feddwl am eu gweithrediadau pan yn y gymuned. Gwnaeth y Clwb hefyd gynnal diwrnod ymyrraeth unigryw. Gan fod gan y clwb le arbennig yn y gymuned, gwnaeth rôl John gynorthwyo sicrhau chwalu unrhyw rwystrau i'r rhai hynny'n gysylltiedig. Gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r timau Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ddarparu sesiynau ysgogi gyda'r bobl ifanc, yn dilyn sawl thema gan gynnwys gweithrediadau, canlyniadau a chyfrifoldeb. Roedd hwn yn gyfle ymgysylltu go iawn mewn man lle daeth y bobl ifanc i ddysgu a chael eu clywed.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae'r bobl a'r sefydliadau sy'n cael eu cydnabod yn fy Ngwobrau Cymunedol wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl, gan fynd yr ail filltir, er mwyn cynorthwyo pobl, hyrwyddo cyfiawnder, dod â heddwch i deuluoedd a lleihau trosedd. Mae ein cymunedau yn gyfoethocach ac yn gryfach oherwydd eu gwaith..
"Tra mae sawl partner yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn cynorthwyo'r gostyngiad ehangach mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Wrecsam, mae ymdrechion John Widdowson yn amlwg iawn dros gyfnod hir. Mae wedi bod yn allweddol i ymgysylltu cymunedol a chreu cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc ymgysylltu gyda CCPD Wrecsam.
"Mae sicrhau canlyniad cadarnhaol gan fentrau cymunedol fel hyn yn golygu ymroddiad, gofal a diddordeb gwirioneddol yn y gymuned. Fel Comisiynydd, rwyf yn ddiolchgar am gymorth cymunedol gan bobl fel John, sy'n mynd ati i gynorthwyo datrys problemau o fewn y gymuned ac sy'n gweithio'n agos gyda'r heddlu er mwyn lleihau ac atal trosedd.”
Nodwyd y wobr Cymuned Diogelach gan Spillane & Co. Wealth Management, a roddodd £250 er mwyn datblygu gwaith John Widdowson a'r Ymddiriedolaeth Gymunedol ymysg pobl ifanc yn Wrecsam.
Dywedodd John Widdowson, Pennaeth y Gymuned, Ymddiriedolaeth Gymunedol CCPD Wrecsam: "Rydym yn hynod falch o dderbyn y wobr hon. Hoffem ddiolch i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Spillane & Co. Wealth Management am y wobr."
"Mae Ymddiriedolaeth CCPD Wrecsam yn ymfalchïo yn y gwaith mae'n ei wneud yn y gymuned. Nid ydy'r gwaith hwnnw'n digwydd heb gydweithrediad partneriaid fel Heddlu Gogledd Cymru a CCPD Wrecsam. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu holl gymorth."
Rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda'n cydweithrediad yn y dyfodol. Rydym yn gwybod fod llawer o waith i'w wneud er mwyn sicrhau fod cyfleoedd a gweithgarwch cadarnhaol yn digwydd er mwyn ymgysylltu ac ysbrydoli ein cymunedau er mwyn cyflawni eu potensial."
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro Claire McGrady o Heddlu Dinas Wrecsam: "Mae heddlu dinas Wrecsam yn falch o'n perthynas gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol y Clwb wrth wneud yr ardal yn fwy diogel a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc. Mae'r gwaith allgymorth rydym wedi'i wneud yn rhan o'r fenter Strydoedd Diogelach ehangach. Mae hyn er mwyn gwneud Wrecsam yn lle y gall pawb fwynhau'n ddiogel, boed ar ddyddiau gemau neu ar unrhyw ddiwrnod arall. Mae ymgysylltu cymunedol hefyd yn ffordd hyfryd o annog aelodau iau ein cymuned i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon a gweithgareddau tynnu sylw eraill. Mae pêl droed yn rhan mor fawr o'n hunaniaeth yn Wrecsam, fel dinas ac fel cymuned. Mae'n wych fod y llwyddiant hwnnw ar y cae yn cael ei weld drwy lwyddiant ar y strydoedd wrth leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol."
Dywedodd Nicola Harrison, Rheolwr Gweithrediadau o Spillane & Co: "Mae'n fraint gennym gefnogi gwobrau cymunedol y Comisiynydd Heddlu a Throsedd unwaith eto. Mae ymgysylltu cymunedol mor bwysig ac yn enwedig gwaith y pobl a gydnabyddir yma.
"Rydym yn falch o gymryd rhan mewn ffordd fechan wrth gydnabod gwaith John Widdowson a CCPD Wrecsam. Mae'r cymorth a'r ymgysylltu sydd wedi'i roi i'r bobl ifanc fel rhan o'r fenter hon mor werthfawr."