Skip to main content

Y CHTh yn gweld sut mae clwb beicio yn y Rhyl yn llwyddo gyda chymorth arian a atafaelwyd oddi ar droseddwyr

Dyddiad

Rhyl Cycling Club

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i weld Clwb Beicio'r Rhyl ar 11 Mai er mwyn gweld y gwaith hanfodol mae'r clwb yn ei wneud yn y gymuned a gweld faint o arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr sy'n cael ei ddefnyddio er budd pobl yr ardal. 

Roedd Clwb Beicio'r Rhyl yn un o enillwyr diweddar gwobrau ariannu Eich Cymuned, Eich Dewis ac mae'n un o glybiau beicio ieuenctid mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r clwb yn y cyfleuster beicio Marsh Tracks yn y Rhyl sy'n lleoliad lle nad oes traffig. Mae'r aelodau'n cynnal gweithgareddau ieuenctid ddwywaith yr wythnos drwy gydol y flwyddyn i feicwyr ifanc. Mae hyn er mwyn gwella eu sgiliau trin beiciau a'u ffitrwydd ar gyfer mentrau teithio heini heddiw.  

Mae'r arian o Eich Cymuned, Eich Dewis yn gymorth at gostau llogi helmedau newydd er mwyn i bobl ifanc eu defnyddio a'u galluogi i gadw'n heini a beicio. Tra ym Marsh Tracks, gwnaeth Andy Dunbobbin gyfarfod â Damian Pope, Cadeirydd y clwb; Jon Harland, Ysgrifennydd ac Aelod Gwreiddiol; a David Henley, Hyfforddwr. Clywodd am gynlluniau’r clwb a’r hyn maent yn ei wneud er mwyn ymgysylltu gydag ieuenctid lleol mewn meysydd teithio a chwaraeon heini.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf  mae dros £500,000 wedi cael ei ddyfarnu i dros fwy na 150 o brosiectau yn gweithio i leihau troseddau yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Dywedodd Jon Harland, Ysgrifennydd ac un o'r Sylfaenwyr: "Rydym mor falch o fod wedi llwyddo a derbyn cymorth gan PACT. Rydym mewn ardal sy'n un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Ynghyd a'n hymdrechion i annog ein cenhedlaeth iau i deithio'n ddiogel ar feic sef un o'r ffyrdd gorau o arbed ynni, mae hon yn wobr y gwnawn ei thrysori a'i defnyddio'n fawr.

"Bydd y beiciau a'r helmedau a ddarparwyd drwy'r grant llwyddiannus hwn yn cael eu cynnwys yn y sesiynau 'Quid a Kid' yn y Marsh Tracks yn y Rhyl bob dydd Sul am ddim cost ychwanegol. Bydd yn gwella ac yn annog sgiliau plant a phlant yn eu harddegau ar feic i'r dyfodol. Gellir archebu'r sesiynau sgiliau cyflwyniadol am £1 yn unig ar ein grŵp Facebook."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch iawn o ymuno â Chlwb Beicio'r Rhyl a gweld y gwaith gwych maent yn ei wneud er mwyn darparu gweithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc yn y Rhyl a gogledd Sir Ddinbych.

"Mae rhoi rhywbeth heini a chreadigol i bobl ifanc ei wneud yn hynod bwysig. Mae'r Clwb yn gwneud gwaith gwych wrth roi gollyngfa gadarnhaol i egni pobl ifanc leol. Mae hefyd yn addas iawn bod yr arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu oddi ar droseddwyr. Mae'n dangos fod y cronfeydd hyn yn gallu cael eu defnyddio er budd y gymuned ehangach."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Prosiectau llawr gwlad ydy'r enaid ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd mwy diogel a chadarn i fyw.  Mae Clwb Beicio'r Rhyl yn enghraifft wych o hyn ar waith. Mae'n bleser gallu eu cynorthwyo nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hwn yn grŵp beicio gwych sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a phobl ifanc yn sir Ddinbych. Mae mawr angen y gweithgareddau maent yn ei ddarparu o ran cynnig difyrrwch, gweithgareddau a chymorth i bobl ifanc. Rwyf yn bendant y bydd arian Eich Cymuned, Eich Dewis yn eu cynorthwyo nhw yn eu gwaith."

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk
Am fwy o wybodaeth ar Glwb Beicio'r Rhyl, ewch ar: www.rhylcyclingclub.com