Dyddiad
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i weld â Woody's Lodge ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn ar 10 Mai er mwyn dysgu mwy am waith gwerthfawr y sefydliad gyda chyn filwyr y Lluoedd Arfog yn y gymuned leol. Gwelodd sut mae'r arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er budd pobl Gogledd Cymru.
Mae Woody's Lodge yn hyb cyfathrebu a chymdeithasol i gyn filwyr, personél y gwasanaethau brys, milwyr wrth gefn a'u teuluoedd. Mae ganddo leoliad yng ngogledd a de Cymru. Roedd Woody's Lodge yn un o enillwyr diweddar gwobrau ariannu Eich Cymuned Eich Dewis. Mae'r grant yn cynorthwyo i gyfrannu'n rhannol at gyflogi Swyddog Cymorth ar gyfer cyn filwyr y Lluoedd Arfog sy'n ddigartref ac sydd wedi'u rhyddhau o'r carchar neu sydd wedi bod drwy'r system farnwrol. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r Swyddog Cymorth yn cynorthwyo ymgeisio a chael budd-daliadau a phensiynau y mae'r cyn filwyr â hawl eu cael wrth edrych ar wella ansawdd bywyd iddyn nhw a'u teuluoedd. Bydd y grant hefyd yn ariannu costau offer a chludiant i safleoedd gwledig y sefydliad ledled Gogledd Cymru er mwyn i gyn filwyr ymgysylltu gyda chymunedau lleol. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle iddynt ddefnyddio eu sgiliau er budd y cymunedau hynny drwy gymryd rhan mewn prosiectau fel garddio.
Tra yn y sesiwn galw heibio yn Woody's Lodge, gwnaeth Andy Dunbobbin gyfarfod â chyn filwyr sy'n cael eu cynorthwyo gan y sefydliad, ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol Woody's Lodge sef Graham Jones; Alexandra Woodward, y Swyddog Cymorth a ariannwyd gan wobr Eich Cymuned, Eich Dewis; a staff eraill. Y CHTh ydy cyn bencampwr Lluoedd Arfog Sir y Fflint, gan fod cymorth i gyn filwyr yn un sy'n bwysig iddo.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn fraint ymweld â Woody's Lodge a gweld eu gwaith hanfodol o lygad y ffynnon. Mae eu prosiect yn anelu atal aildroseddu drwy gynorthwyo cyn filwyr integreiddio eto i'r gymuned. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau ynysu cymdeithasol, gwella hunanhyder a rhoi ymdeimlad o bwrpas. Mae'n addas iawn bod yr arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu oddi ar droseddwyr. Mae'n dangos fod y cronfeydd hyn yn gallu cael eu defnyddio er budd y gymuned ehangach."
Dywedodd Graham Jones, Prif Swyddog Gweithredol Woody's Lodge: "Roedd yn bleser croesawu'r Comisiynydd i Woody's Lodge a dangos y gwaith rydym yn ei wneud yn y gymuned iddo. Roeddem yn falch iawn o gael ein dewis yn y bleidlais gyhoeddus ar gyfer grant Eich Cymuned, Eich Dewis. Nid yn unig bydd y gymuned cyn filwyr yng Ngogledd Cymru yn elwa o'r wobr ond mae'n dangos fod cefnogaeth yn y gymuned gyffredin ar gyfer ein cyn filwyr.
"Mae cyn filwyr yn aml yn teimlo nad ydynt yn ffitio mewn yn eu cymunedau lleol. Mae llwyddiant Woody's Lodge yn y bleidlais gyhoeddus hon yn mynd yn bell er mwyn profi cymorth cyhoeddus am eu gwasanaeth yn Lluoedd Arfog EF."
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae prosiectau fel Woody's Lodge yr enaid ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd mwy diogel a chadarn i fyw. Mae Woody's Lodge yn enghraifft wych o hyn ar waith. Mae'n bleser gallu eu cynorthwyo nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hwn yn brosiect pwysig sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau cyn filwyr ledled Gogledd Cymru. Mae'r gwasanaethau gan Woody's Lodge o ran cynnig cymorth i gyn filwyr mewn angen yn werthfawr iawn. Rwyf yn siŵr y bydd eu prosiect hefyd yn cynnig sawl mantais i gymuned ehangach Gogledd Cymru."
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei ddyfarnu i dros fwy na 150 o brosiectau yn gweithio i leihau troseddau yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Am fwy o wybodaeth am Woody's Lodge, ewch ar: www.woodyslodge.org