Skip to main content

Y CHTh yn ymchwilio cyflawniad HGC mewn cyfarfod craffu diweddar

Dyddiad

PCC and Wayne Jones

Un o rolau allweddol Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh) yng Nghymru a Lloegr ydy dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol am gyflawniad yr Heddlu lleol o ran y blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y CHTh. 

Yn ein rhanbarth, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn parhau i graffu gwaith Heddlu Gogledd Cymru drwy amrywiaeth eang o ffyrdd. Yn ddiweddar, cynhaliodd adolygiad pellach yn y Bwrdd Gweithredu Strategol chwarterol. Yn y cyfarfod hwn, a fu ar 10 Mai, gwnaeth y CHTh a'i dîm gyfarfod â'r Prif Swyddogion er mwyn adolygu cyflawniad yr Heddlu ar y cyfan, gan gynnwys o ran blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu a Throsedd.  Mae'r cynllun hwn yn cael ei roi at ei gilydd mewn ymgynghoriad â thrigolion. Yng Ngogledd Cymru, blaenoriaethau Andy Dunbobbin ydy cyflawni cymdogaethau mwy diogel, system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol a chynorthwyo dioddefwyr a chymunedau. 

Yn y cyfarfod o dan sylw, edrychodd y CHTh ar gyflawniad yr Heddlu o ran Trais yn Erbyn Merched a Genethod (VAWG), Safonau Proffesiynol a diwylliant o fewn plismona.

Edrychodd y CHTh ar feysydd gan gynnwys: 

  • Sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn atal ac ymchwilio troseddau VAWG?
  • Sut mae'r Heddlu'n cyflawni o ran y cynllun gweithredu VAWG cenedlaethol?
  • Effeithiolrwydd y Cynadleddau Asesiad Risg Aml-asiantaeth (MARAC) a gweithio mewn partneriaeth er cam-drin domestig. 
  • Gwaith y tîm Amethyst sy'n ymchwilio treisio a chynorthwyo dioddefwyr.

Gwnaeth y CHTh hefyd graffu'r gwaith mae Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gogledd Cymru yn ei wneud gan lynu at y cam cyntaf mae'r Prif Gwnstabl wedi'i roi ar waith er mwyn gwella diwylliant ac ymddygiad yr heddlu. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Sut all yr Heddlu ddangos fod ganddo ddiwylliant moesegol iach mewn lle?
  • Beth mae'r heddlu yn ei wneud er mwyn annog a phlannu ymddygiad moesegol?
  • Sut ymgysylltir â chymunedau lleol o ran penderfyniadau'r heddlu, yn enwedig ar ddefnyddio grymoedd sydd yn effeithio ar rai grwpiau'n anghyfartal gyda nodweddion gwarchodedig a rennir (e.e. defnyddio TASER, a Stopio a Chwilio)?
  • Sut mae'r Prif Gwnstabl yn sicrhau fod gan newydd ddyfodiaid i'r heddlu â'r gallu ac ymddygiad emosiynol angenrheidiol er mwyn gweithio gyda phobl hynod fregus?

Dywedodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: "Mae'r Bwrdd Gweithredu Strategol yn fy ngalluogi i archwilio sut mae'r Prif Gwnstabl yn cyflawni mewn meysydd hanfodol, yn enwedig y rhai hynny yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. 

"Mae Trais yn Erbyn Merched a Genethod (VAWG) yn amlwg yn un o'r meysydd hyn. Rwyf wedi edrych ar gyflawniad yr heddlu yn y maes hwn yn barhaus. Fe wnes i hefyd glywed sut mae'r Heddlu bellach yn rhan o grŵp heddluoedd Ymgyrch Soteria sy'n edrych ar wella ymdriniaeth y system gyfan tuag at ymchwilio treisio. Cefais fy nghalonogi gyda sut mae'r heddlu'n cyflawni yn y maes hwn. Ond mae gwaith pellach a ellir ei wneud o hyd i gynorthwyo dioddefwyr, sicrhau y gweithredir y cynllun gweithredu VAWG ac y targedir troseddwyr. Mae gweithio mewn partneriaeth yn y maes hwn yn hanfodol a rhaid iddo roi cymorth priodol i ddioddefwyr nid yn unig mewn ymchwiliadau ond hefyd wrth atal troseddau pellach. 

"O ran archwilio safonau proffesiynol a diwylliant, mae hyn yn hanfodol bwysig. Yn ddiweddar, mae achosion amlwg iawn o gamymddwyn difrifol ac enghreifftiau o ymddygiad yn is na'r safon disgwyliedig. Fel CHTh, rwyf yn cydnabod yn llwyr fod digwyddiadau o'r fath a chyhoeddi adroddiad y Farwnes Casey ar yr Heddlu Metropolitan wedi arwain at wanhau ymddiriedaeth a hyder cyhoeddus yn yr heddlu.

"Rwyf yn llwyr gefnogi'r Prif Gwnstabl yn y gwaith mae'n ei wneud wrth edrych ar y problemau hyn yng nghyd-destun Heddlu Gogledd Cymru, gan gynnwys yr adroddiad diweddar  a baratôdd – ac y gwnes ei gyhoeddi – a oedd yn edrych ar oblygiadau achos David Carrick, sef y cyn swyddog o'r Heddlu Metropolitan. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth ar fynychter achosion o gasineb at ferched, y nifer o achosion o dan ymchwiliad a'r mesurau mewn lle er mwyn gwarchod y cyhoedd a sicrhau fetio swyddogion yn gywir. Yn y Bwrdd Gweithredol Strategol, cefais fy nghalonogi fod y Prif yn canolbwyntio ar yr holl feysydd allweddol hyn, a byddaf yn parhau i graffu sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn cyflawni o ran y materion hyn."

Gall trigolion ddysgu mwy am y Bwrdd Gweithredol Strategol a darllen cofnodion cyfarfodydd o'r gorffennol ar wefan SCHTh yma: Craffu Gwasanaethau Plismona | Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (northwales-pcc.gov.uk).