Dyddiad
Mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers ethol y Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf yng Ngogledd Cymru.
Mae heddiw (15 Tachwedd) yn nodi deng mlynedd ers ethol Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) cyntaf Gogledd Cymru, a dechrau llais poblogaidd mwy uniongyrchol mewn plismona. Ers hynny, mae'r rhanbarth wedi gweld tri gwahanol Gomisiynydd. Mae dathlu'r deg yn ein galluogi ni edrych yn ôl ar greu'r rôl, yr hyn mae wedi'i ddod i blismona yng Ngogledd Cymru, a pha newidiadau a all pobl eu gweld yn y blynyddoedd i ddod.
Daeth rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn sgil papur gan yr Ysgrifennydd Cartref o'r enw "Ailgysylltu'r heddlu a'r bobl", a gyhoeddwyd ym mis Medi 2010. Roedd Theresa May, yr Ysgrifennydd Cartref, eisiau rhywun lleol fod yn gyfrifol am blismona ym mhob ardal heddlu, yn hytrach na chyn Awdurdodau Heddlu, a oedd wedi bod yn llywodraethu plismona hyd hynny. Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 oedd y ddeddfwriaeth a greodd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac fe gawsom ein hetholiad cyntaf yng Ngogledd Cymru ym mis Tachwedd 2012.
Ers hynny, mae Gogledd Cymru wedi cael tri CHTh sef Winston Roddick CB KC, Arfon Jones ac Andy Dunbobbin a etholwyd i gyd yn uniongyrchol gan y pleidleiswyr.
Mae gan y Comisiynydd bedair prif ddyletswydd. Maent yn gosod blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru drwy'r Cynllun Heddlu a Throsedd. Maent i benderfynu'r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, sy'n cynnwys gosod lefel argymelledig y braesept i'r Panel Heddlu a Throsedd ei chymeradwyo. Maent i wrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona a dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol am gyflawniad yr Heddlu.
Mae'r CHTh hefyd yn rhoi cyllid i wasanaethau ledled Gogledd Cymru. Mae'r Gwasanaethau a Gomisiynir hyn yn gwneud gwaith gwerthfawr o fewn ein cymuned i gynorthwyo dioddefwyr trosedd a chynorthwyo troseddwyr i leihau aildroseddu. Enghreifftiau'r o'r gwasanaethau hyn ydy'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy, sy'n cynnig cyngor a chymorth i ddioddefwyr trosedd; Checkpoint Cymru, sy'n anelu ymdrin ag achosion sylfaenol ymddygiad troseddol fel iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a rhoi dewis amgen credadwy i erlyniad; a gwasanaethau fel DASU, RASASC a Gorwel sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais yn erbyn merched a genethod.
Lansiwyd adolygiad o rôl y CHTh ym mis Gorffennaf 2020, yn dilyn ymrwymiad maniffesto gan Lywodraeth y DU i gryfhau atebolrwydd y CHTh ac ehangu eu rôl. Mae dau ran i'r adolygiad. Mae un yn edrych ar yr opsiynau i gryfhau model y Comisiynydd, wrth hefyd fapio uchelgeisiau tymor hirach rôl y CHTh. Mae'r llall yn canolbwyntio ar ddiwygiadau tymor hirach. Bydd rhai efallai angen deddfwriaeth. Mae'r Llywodraeth wedi dweud y canolbwyntir ar agweddau o rôl y CHTh sy'n cynnwys materion fel lleihau aildroseddu.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd presennol Gogledd Cymru: "Mae eleni'n nodi 10 mlynedd ers sefydlu rôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru a Lloegr. Roedd ennill yr etholiad ym mis Mai 2021 yn un o'r cyfnod mwyaf balch yn fy mywyd. Rwyf yn angerddol am ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac fe wnes addo cynrychioli pawb yng Ngogledd Cymru. Yn dilyn cael fy ethol, rwyf wedi cael fy argyhoeddi'n fwy am y gwahaniaeth gall Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ei wneud wrth sicrhau fod ein cymdogaethau a'n cymunedau'n fwy diogel.
"Yn ystod y degawd diwethaf, mae'r Comisiynwyr blaenorol a minnau wedi bod yn llais y bobl mewn plismona. Rydym wedi gwrando ar farn y cyhoedd ac wedi dwyn y Prif Gwnstabl ac uwch swyddogion yn atebol er mwyn sicrhau fod gan Ogledd Cymru'r gwasanaeth heddlu gorau posibl.
"Rydym wedi gweld mentrau gwych yn cael eu cyflwyno ledled y rhanbarth er mwyn cynorthwyo i atal a lleihau trosedd. Rydym wedi comisiynu gwasanaethau i gynorthwyo dioddefwyr. Rydym wedi cynorthwyo sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon y gallwn ni gyd fod yn falch ohono.
"Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi'r bartneriaeth rhwng Comisiynwyr ledled Cymru a Lloegr. Rwyf o hyd yn edmygu'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud ledled y wlad. Mae'r gweithio mewn partneriaeth hwn yn hynod wir yng Nghymru, lle mae gan bedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd gysylltiad cryf gyda'i gilydd, a chyda Llywodraeth Cymru, sy'n sefyll fel model gwirioneddol ar sut i gyflawni ar gyfer y bobl mewn plismona. "
Dywedodd Winston Roddick CB KC, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf: “Roedd cyflwyno Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn newid radical o ran llywodraethu’r gwasanaeth heddlu. Maent wedi gwneud atebolrwydd yr heddlu i’r cyhoedd yn real a gwirioneddol. Roedd Awdurdodau’r Heddlu a ddisodlwyd gan y comisiynwyr yn anweledig ac anhysbys. Heddiw, mae atebolrwydd gwirioneddol yr heddlu yn fwy angenrheidiol nag erioed o’r blaen. Rwyf hefyd yn hynod falch o safonau, hanes a enw da uchel Heddlu Gogledd Cymru. O’r holl bethau newydd, rwyf yn ymfalchïo fwyaf gyda sefydlu’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad. Fe ddaeth a’n cymunedau gwledig i ganol strategaeth yr heddlu. Yn ei sgil, gwnaeth Gogledd Cymru gael enw da rhyngwladol. Fe ddaeth hyd yn oed Heddlu Awstralia drosodd i weld sut y gellid ei gyflawni.”
Gan roi sylwadau ar ei gyfnod yn y swydd, dywedodd Arfon Jones, yr ail Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, a oedd ei hun wedi bod yn swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd yn fraint fawr cael fy ethol yn CHTh a chyda cymaint o fwyafrif mawr o gefnogwyr trawsbleidiol. Roeddent yn amlwg eisiau newid diwylliannol yn y ffordd roedd Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei blismona ac roedd yn rhoi gorchymyn cryf i mi wneud pethau'n wahanol. Roedd hefyd yn uchafbwynt ar ôl gwasanaethu fel swyddog yn yr heddlu am 30 mlynedd."
Gan edrych ar y cyflawniad y mae fwyaf balch ohono tra yn y swydd, parhaodd Mr Jones: "Llwyddais i gyflawni llawer mwy yn ystod fy nhymor nag y bwriedais ar y dechrau. Roedd llawer o uchafbwyntiau, ond rwyf yn meddwl mai'r prif un ydy dechrau gwneud newid mewn diwylliant o fewn plismona, gweld trosedd a throseddoldeb fel rhywbeth yn deillio o'n hamgylchfyd yn hytrach nac ymddygiad unigol yn unig.
"Roedd yn bwysig fod plismona'n deall fod gan droseddoldeb achosion sylfaenol, fel profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma oedolion. Roedd ymdrin a'r achosion gwreiddiol hynny'n llawer mwy effeithiol wrth atal trosedd na chosbi'r troseddwr. Er mwyn ymdrin ag achosion sylfaenol a chyfeirio troseddwyr i ffwrdd o gyfiawnder troseddol, gwnaethom sefydlu Checkpoint Cymru sef prosiect i ddod a'r agenda ataliol arloesol at ei gilydd. Rwyf yn falch fod y mwyafrif o uwch swyddogion yng Ngogledd Cymru wedi croesawu'r egwyddorion hyn ac yn parhau er mwyn eu cynorthwyo nhw."