Cafodd y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 gydsyniad brenhinol ym Mawrth 2014 ac yn sgil hyn fe gyflwynwyd dau fesur newydd i daclo Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Y ddau fesur newydd oedd y Camau Unioni Cymunedol a’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Beth yw’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?
Mae’r Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn caniatáu i ddioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ofyn i’w hachos gael ei adolygu os ydynt yn teimlo na chymerwyd unrhyw gamau, neu gamau annigonol, gan y cyrff cyhoeddus lleol.
Pwy all wneud cais am Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?
Gall y dioddefwr neu rywun ar ran y dioddefwr wneud cais e.e. aelod o’r teulu, gofalwr, AS neu gynghorydd.
Pryd ellir gwneud cais?
Gallwch ofyn i'ch achos gael ei adolygu os bydd trothwy’r adolygiad wedi'i ddiwallu. Y trothwy yn ardal Heddlu Gogledd Cymru ydi 3 digwyddiad o fewn cyfnod o 6 mis. Mae’n rhaid i chi riportio pob digwyddiad o fewn 1 mis iddo ddigwydd. Rhaid cyflwyno’r cais i’r corff cyhoeddus perthnasol a wnaeth gofnodi’r 3 digwyddiad. Dyma restr o’r cyrff cyhoeddus.
- Cyngor Sir Ynys Môn - 01248 750057
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - 01492 574000
- Cyngor Sir Ddinbych - 01824 706101
- Cyngor Sir y Fflint - 01352 702590
- Cyngor Gwynedd - 01766 771000
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - 01978 292000
- Tai Gogledd Cymru - 01492 572727
- Grŵp Cynefin - 0300 1112122
- Cartrefi Cymunedol Gwynedd - 0300 1238084
- Cartrefi Conwy - 01745 335361
- Clwyd-Alun - 01978 364449
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 01248 682682 (est 2665)
Sut i gyflwyno cais am adolygiad?
Er mwyn cyflwyno cais am adolygiad bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar-lein, a gallwch ddod o hyd i’r ffurflen ar y gwefannau perthnasol. Os ydych wedi riportio tri digwyddiad i Heddlu Gogledd Cymru bydd y ddolen sydd ar waelod y dudalen yn mynd â chi i’r ffurflen gais.
Beth fydd yn digwydd i’ch cais ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen gais?
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ffurflen gais fe gewch gydnabyddiaeth gan y corff perthnasol o fewn 5 diwrnod gwaith.
O fewn 15 diwrnod gwaith bydd Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol eich ardal yn cysylltu â chi i’ch cynghori os ydi’r trothwy sbardun wedi’i gyrraedd.
Os cadarnheir hyn yna bydd eich achos:
- Yn cael ei adolygu mewn cyfarfod achos i drafod y camau a gymerwyd;
- Byddant yn ystyried os oedd y camau a gymerwyd yn ddigonol yn seiliedig ar ddisgwyliadau rhesymol ac amserlenni;
- Bydd eich achos yn cael ei drafod gyda chi o fewn 5 diwrnod gwaith i’r cyfarfod adolygu achos.