Skip to main content

Adeiladu ar gyfer y dyfodol yng Nglyn Ceiriog

Dyddiad

Glyn Ceiriog

Cafodd man cyfarfod newydd ar gyfer y gymuned leol ei agor yn swyddogol yng Nglyn Ceiriog ar ddydd Sul 18 Chwefror gan ddangos sut mae arian wedi'i gymryd oddi ar droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er mwyn datblygu a chryfhau cyfleusterau bro ar draws Gogledd Cymru.

Derbyniodd y prosiect grant gan gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis llynedd. Wedi misoedd o waith paratoi ac adeiladu, cyhoeddwyd fod y pafiliwn newydd ar y caeau chwarae ar Ffordd Llanarmon yn agored mewn seremoni hefo Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac aelodau o'r gymuned leol. Roedd agor y pafiliwn yn cyd-fynd hefyd hefo gêm gwpan gyfartal rhwng y tîm rygbi ieuenctid lleol a thîm o Fae Colwyn.   

Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn help gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Aeth Cyngor Cymunedol Llansantffraid Glyn Ceiriog drwy'r ymgynghoriad hefo trigolion gan ofyn sut y gallai'r Cyngor wella'r ardal. Roedd y canlyniad yn amlwg – roedd diffyg darpariaeth ieuenctid yn y pentref. Arweiniodd hyn at Dîm Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymgynghori hefo plant a phobl ifanc ynghylch eu hanghenion a'u dyheadau. Roedd y plant a'r bobl ifanc yn awyddus gweld y cyfleuster newydd a gafodd ei adeiladu er mwyn iddyn nhw gael cyfarfod ac er budd y gymuned ehangach.

Ar ben hyn, gwnaeth Clwb Rygbi Bro Gwernant, sy'n denu plant a phobl ifanc o Lyn Ceiriog a'r cyffiniau ynghyd ag o Langollen i chwarae rygbi, fynegi diddordeb yn y prosiect er mwyn rhoi cysgod i wylwyr y gemau. Mae'r pafiliwn yn ganlyniad yr holl sgyrsiau hyn ac mae'n anelu rhoi canolbwynt i'r pentref i'r dyfodol. 

Mae'r Cynghorydd Sarah Davies sef Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llansantffraid Glyn Ceiriog yn falch fod y pafiliwn bellach ar agor er mwyn cael ei ddefnyddio gan yr ieuenctid yn yr ardal: "Dechreuodd y syniad ym mis Mai 2019, ac mae wedi cymryd ymroddiad ein Clerc sef Jean Davies ac oriau lawer o waith a chynllunio ein Cynghorwyr er mwyn i hyn ddwyn ffrwyth.  

"Yn y lle cyntaf hoffem ddiolch i SCCH Martin Griffiths a SCCH Gareth Jones am ddod â'r cyllid oedd ar gael o gronfa PACT at sylw'r Cyngor.

“Buasem ni hefyd yn hoffi diolch i bawb sydd wedi rhoi amser ac arian hael tuag at y prosiect hwn. Mae hyn yn cynnwys Clwb Rygbi Bro Gwernant, Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Seiri Rhyddion Cyfrinfa'r Waun, Meibion Ceiriog, Dan Roberts, Tegid Davies ac Einion Davies. Ond mae'r diolch mwyaf yn mynd i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r cyllid PACT. Heb eu cyfraniad hael, byddai ein prosiect ni wedi cymryd yn llawer hirach i'w gwblhau.

"Fe wnaeth y Cyngor Cymuned gyfarfod yn ddiweddar hefo Cadeirydd Clwb Rygbi Bro Gwernant sef Einion Davies a dau aelod o dîm Gweithwyr Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, o dan arweiniad Julie Davies. Diben y cyfarfod oedd arolygu'r adeilad wedi'i gwblhau ac roedden nhw wedi cyffroi ynghylch y cyfleoedd y bydd y pafiliwn hwn yn ei roi. Llynedd, fe wnaeth y Cyngor agor y llwybr beiciau yn swyddogol. Mae'r llwybr, hefo'r pafiliwn, yn cynyddu'r cyfleusterau sydd ar gael i'n plant a'n pobl ifanc ni."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn i'n falch o ymuno hefo'r gymuned leol yng Nglyn Ceiriog ac agor eu pafiliwn newydd nhw'n swyddogol. Mae hwn yn brosiect a gafodd ei awgrymu a'i ddatblygu gan y gymuned leol. Mae'n enghraifft deilwng o drigolion yn dod at ei gilydd er budd eu hardal leol nhw. Dwi'n gobeithio y bydd yn lleoliad croesawgar i bobl ifanc, chwaraewyr a chefnogwyr rygbi a gweddill y gymuned am nifer o flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn gwneud gwahaniaeth i sefydliadau a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae datblygiad y pafiliwn newydd hwn yng Nglyn Ceiriog yn enghraifft wych o hyn ar waith. Dwi'n gobeithio y gwnaiff wahaniaeth gwirioneddol i bobl leol a rhoi lle gwych iddyn nhw ar gyfer cynnal gweithgareddau a digwyddiadau lleol. 

"Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu eu helpu nhw yn eu prosiect."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn enghraifft wych sut gallwn ni droi arian o weithgarwch troseddol i ganlyniad cadarnhaol ar gyfer sefydliadau a chymdogaethau ar draws Gogledd Cymru. Mae datblygiadau fel hyn yn cynnig lle i bobl ifanc gyfarfod a hyrwyddo gweithgareddau cadarnhaol, gan leihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiadau negyddol posibl eraill."

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk