Skip to main content

Adnan yn ennill tlws gwrth-hiliaeth y Comisiynydd

Dyddiad

Hate Crime footy (7 of 64)

Cafodd pencampwriaeth a gynhaliwyd i dynnu sylw at y frwydr yn erbyn hiliaeth a throseddau casineb ei hennill gan dîm o Wrecsam a ffurfiwyd er mwyn rhoi cyfle i bobl o gefndiroedd ethnig gwahanol i gael chwarae.

Cynhaliwyd y bencampwriaeth chwe-bob-ochr ei chynnal yn Ysgol Clywedog ac fe’i noddwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones. Roedd y BBC yno hefyd i ffilmio’r digwyddiad fel rhan o gyfres yn trafod sut y mae arian a gafodd ei atafaelu gan droseddwyr yn gweithio er budd mentrau cymunedol.

Un o’r saith tîm a gymerodd ran yn y bencampwriaeth oedd tîm o elusen Clwb Pêl-droed Cynhwysol Wrecsam, sydd wedi cael ei chefnogi gan grant  £2,500 oddi wrth gynllun Arian gan Droseddwyr drwy wobrau Eich Cymuned, Eich Dewis y Comisiynydd, tra bod yr enillwyr, Clwb Pêl-droed Belle Vue, hefyd wedi cael eu cydnabod yn y seremoni wobrwyo flynyddol.

Arwr Belle Vue yn y fuddugoliaeth yn y rownd derfynol yn erbyn Albion oedd Adnan Nassry, a gafodd ei eni yn Wrecsam i rieni Eifftaidd, a ddangosodd fod ganddo'r un awch o flaen y gôl a Mo Salah wrth iddo sgorio ddwywaith.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn ddiwrnod anhygoel ac rwyf wir wedi mwynhau. Dim ond tymor yma y gwnes i ddechrau chwarae ac mae’n mynd yn dda iawn.

“Roedd y goliau’n dda ond ymdrechion y tîm wnaeth greu’r goliau. Dyna beth wnaeth y diwrnod yn wych.”

Dywedodd y chwaraewr-reolwr Delwyn Derrick, a enillodd Wobr Gymunedol y Comisiynydd am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth: “Mae wedi bod yn ardderchog a hoffwn ddiolch i’r holl dimau am droi fyny a chwarae dros achos da iawn.

“Roedd pawb yn gwybod pam roedden nhw yma. Nid y tlws oedd yr unig beth pwysig, ond roedd hefyd yn bwysig i ni godi ymwybyddiaeth o’r frwydr yn erbyn troseddau casineb ac i ddangos y cerdyn coch hiliaeth.

“Mae Adnan yn arwr o chwaraewr ond roedd pob un ohonyn nhw’n arwr heddiw ac o gofio mai hwn oedd y digwyddiad cyntaf mae wedi bod yn dda iawn.”

Roedd Peter Killane, o gwmni teledu DSP TV o Belffast, wedi bod yn ffilmio clwb pêl-droed Cynhwysol Wrecsam cyn y digwyddiad ac yn ystod y bencampwriaeth ar gyfer  rhaglen Ill-Gotten Gains a fydd yn cael ei ddarlledu ar y BBC flwyddyn nesaf.

Ffurfiwyd y clwb ddwy flynedd yn ôl er mwyn helpu pobl ag ystod o broblemau, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl,  a phobl o leiafrifoedd ethnig neu grwpiau LGBT sydd wedi cael eu heffeithio gan fwlio neu ddigartrefedd, ac yn gynharach eleni enillodd y clwb £2,500 diolch i gronfa o arian a gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o ogledd Cymru.

Mae’r clwb wedi cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Pêl-droed Iechyd Meddwl Ewrop ym Munich a’r llynedd y clwb oedd y pedwerydd tîm gorau yn y bencampwriaeth.

Er iddyn nhw golli i dîm dawnus Albion mi ddywedodd Jordan Jones, 22 oed, o Riwabon, y trydydd chwaraewr gorau ym Mhencampwriaeth Ewrop eleni: “Roeddwn i'n arfer chwarae llawer o bêl-droed ar lefel dda ond bu’n rhaid i mi adael i bethau fynd oherwydd camddefnyddio sylweddau. Roeddwn i’n arfer cymryd llawer o gyffuriau ac aeth popeth lawr yr allt o’r fan honno.

Ond mae bod yn rhan o glwb pêl-droed Cynhwysol Wrecsam wedi helpu llawer. Mae wedi rhoi ail gyfle i mi a dydw i ddim yn teimlo mai fi ydi’r unig berson sydd efo problemau yma.

Rwy’n teimlo fel rhan o’r tîm a hoffwn fynd yn ôl i mewn i’r byd pêl-droed ond rwy’n aros am lawdriniaeth ar dennyn fy mhen-glin ond ar ôl hynny rwy’n gobeithio ennill cymwysterau er mwyn bod yn hyfforddwr.”

Cyflwynwyd y tlws i’r tîm buddugol ar y diwrnod gan Arfon Jones, sy’n un o gefnogwyr brwd Clwb Pêl-droed Wrecsam a frwydrodd i gael gêm ddi-sgôr yn Rownd Gymhwyso Olaf Cwpan yr FA yn erbyn Harrogate.

Dywedodd: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi medru dod draw i gefnogi digwyddiad mor wych ac rwy’n gobeithio y bydd hon rŵan yn bencampwriaeth flynyddol.

Mae wedi cynnwys gymaint o bobl ac mae hynny’n bwysig oherwydd does dim byd yn waeth nag eithrio cymdeithasol ac mae troseddau casineb yn gwneud i bobl deimlo fel eu bod nhw ar eu pennau eu hunain.

Yn anffodus mae cynnydd wedi bod yn y nifer o droseddau casineb ac rwy’n gwneud gwaith ar hyn o bryd sy’n delio efo troseddau casineb yn erbyn pobl anabl sy’n rhywbeth anodd iawn i’w ddeall ond sydd ar gynnydd.

Y digwyddiad yma oedd uchafbwynt yr ymgyrch dros yr wythnos i godi ymwybyddiaeth am droseddau casineb ac rwy’n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i helpu Heddlu Gogledd Cymru i frwydro yn erbyn y cynnydd yn y drosedd filain ac annerbyniol yma.”

Am fwy o wybodaeth am waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ewch i <http://www.northwales-pcc.gov.uk/cy/Hafan.aspx&gt;