Skip to main content

Ail-gadarnhau'r Dirprwy CHTh Wayne Jones yn ei swydd am gyfnod o bedair blynedd

Dyddiad

Mewn cyfarfod arbennig o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ym Modlondeb, Conwy ar 21 Mehefin, ail-gadarnhawyd Wayne Jones fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru am gyfnod pellach o bedair blynedd.

Mae'r Panel Heddlu a Throsedd yn gorff sy'n cynnwys deg cynghorydd ledled Gogledd Cymru a thri aelod annibynnol cyfetholedig. Mae'n craffu gwaith y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae ailbenodi Wayne Jones fel Dirprwy yn dilyn ailethol Andy Dunbobbin fel CHTh Gogledd Cymru gan bobl y rhanbarth ym mis Mai. Mae'r Dirprwy yn eu tro wedi'u henwebu gan y CHTh. Caiff y cynnig hwn ei gyflwyno i'r panel iddyn nhw gytuno arno.

Cyn gwasanaethu fel Dirprwy CHTh ers mis Medi 2021, roedd Wayne Jones yn uwch dditectif hefo Heddlu Gogledd Cymru a bu'n gwasanaethu fel Pennaeth Gwasanaethau Trosedd.

Yn wreiddiol o'r Rhyl, dechreuodd gyrfa heddlu Wayne Jones pan ymunodd hefo Sir Gaerhirfryn. Ar ôl tair blynedd yn Sir Gaerhirfryn, dychwelodd adref er mwyn ymuno hefo Heddlu Gogledd Cymru yn 1994, gan wasanaethu yn Wrecsam i ddechrau a symud ymlaen yn gyflym drwy'r rhengoedd. Yn ystod ei yrfa bu hefyd yn gwasanaethu yng Nghaergybi, y Rhyl, Llandudno, y  pencadlys rhanbarthol yn Llanelwy a phencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn.

Yn ogystal ag arwain y frwydr yn erbyn gangiau Llinellau Cyffuriau, bu'n allweddol wrth sefydlu sawl menter arloesol gan gynnwys Tîm Ymchwiliadau Ar-lein yr Heddlu (POLIT), tîm Onyx ar gyfer Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) ac Uned Troseddau Economaidd yr heddlu.

Roedd hefyd yn Bennaeth Aur ymchwiliad Ymgyrch Lenten i gamfanteisio'n rhywiol ar blant a dderbyniodd wobr arbennig am ei waith.

Ers ymgymryd â rôl Dirprwy CHTh, mae Wayne wedi bod yn weithgar ym meysydd gwaith y CHTh fel atal caethwasiaeth fodern, trais yn erbyn merched, cam-drin domestig, a thrais rhywiol, a gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

Dywedodd John Williams, Cadeirydd Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yn rôl bwysig. Wrth gadarnhau penodiad Wayne Jones, mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn gwbl fodlon y gwnaiff Mr Jones barhau cyflwyno arbenigedd a phroffesiynoldeb i’r rôl a wnaiff wella swyddfa’r Comisiynydd Heddlu.”

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dwi'n falch bod y Panel Heddlu a Throsedd wedi cytuno y dylai Wayne Jones barhau gwasanaethu fel Dirprwy CHTh. Dewiswyd Wayne yn wreiddiol yn 2021 ymhlith ymgeiswyr o ansawdd uchel. Mae wedi bod yn gaffaeliad gwirioneddol i'n gwaith ni ers ei benodiad, gan ddod â phrofiad ymarferol o blismona a gwybodaeth polisi helaeth i'r rôl.

"O ystyried natur newidiol plismona a gwleidyddiaeth fodern ar hyn o bryd, mae ailbenodi Wayne yn darparu parhad mewn gwasanaeth a phrofiad. Felly, dwi'n edrych ymlaen at weithio hefo Wayne a gweddill fy nhîm dros y misoedd nesaf. Byddwn ni'n ymgynghori hefo pobl Gogledd Cymru ar fy Nghynllun Heddlu a Throsedd am y pedair blynedd nesaf. Y nod ydy gwneud Gogledd Cymru yn lle hyd yn oed saffach i'r holl drigolion ac ymwelwyr."

Ychwanegodd y Dirprwy CHTh Wayne Jones: "Diolch i'r CHTh a'r Panel Heddlu a Throsedd am y ffydd maen nhw wedi'i ddangos ynof i drwy fy nghadarnhau i fel Dirprwy CHTh unwaith eto. Yn dilyn cyfarfod y gwrandawiad, dwi'n edrych ymlaen yn fawr at fynd yn syth yn ôl i weithio yn gwasanaethu a chyflawni ar gyfer pobl Gogledd Cymru, ochr yn ochr hefo Andy fel Comisiynydd. 'Da ni'n sefyll mewn cyfnod diddorol ar gyfer plismona, hefo pwysau a chyfleoedd ar y gorwel. Dwi'n gyffrous parhau chwarae fy rhan a dod â fy mhrofiad i wasanaethu yng ngwasanaeth y rhanbarth."