Dyddiad
Ar 2 Mai 2024, etholwyd Andy Dunbobbin o Lafur Cymru gan etholwyr Gogledd Cymru, i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) am y pedair blynedd nesaf. Cafodd canlyniad yr etholiad ei ddatgan ar brynhawn 3 Mai ym Mhrifysgol Wrecsam gan Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam a Swyddog Canlyniadau y Rhanbarth Heddlu.
Roedd pob pleidleisiwr dros 18 yn medru cymryd rhan yn yr etholiad, yr etholiad CHTh gyntaf i ddefnyddio’r system cyntaf-i’r felin, yn lle’r system flaenorol o bleidlais amgen.
Cafodd Andy Dunbobbin ei ethol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Ngogledd Cymru yn 2021. Mae’n dod o Gei Connah, lle mae’n byw efo’i wraig, ei fab a’i ferch. Gynt, ‘roedd yn Gynghorydd Sirol efo Cyngor Sir y Fflint, dros ward Golfftyn Cei Connah, ac yn parhau i fod yn aelod o Gyngor Dref Cei Connah. Cyn cael ei ethol, fe fynegodd Mr Dunbobbin ei ddull gwasanaeth heddlu cymunedol (COPS) i blismona, ac fe ganolbwyntiodd ei faniffesto ar y pedwar piler strategol. Y rhain ydy; presenoldeb plismona cymdogaeth leol; cynorthwyo dioddefwyr, cymunedau a busnesau; system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol; comisiynydd heddlu a throsedd gweladwy a chyfrifol.
Rôl y CHTh yw goruchwylio’r heddlu yng Ngogledd Cymru, ac i sicrhau bod anghenion cymunedol yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosib. Mae gan bob Gomisiynydd ddyletswydd i sicrhau gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon, sy’n medru dangos gwerth ei bres, ac, yn bennaf, gostyngiad mewn trosedd. Yng Nghymru, mae 4 Comisiynydd, un i bob un o’r heddluoedd, sef Gogledd Cymru, Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru.
Mae gan y Comisiynydd bedair prif ddyletswydd, sef:
- Gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru
- Penderfynu ar y gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru
- Dal y Prif Gwnstabl yn atebol, a
- Gwrando ar farn y cyhoedd ynglŷn â phlismona, ac ymateb iddo.
Mae’r rôl hefyd yn cynnwys comisiynu gwasanaethau diogelwch cymunedol a phrosiectau hanfodol yn y rhanbarth, ac i sicrhau bod blaenoriaethau’r cyhoedd yn cael eu gwireddu, bod gan ddioddefwyr lais ac nad ydy’r rhai mwyaf bregus yn cael eu hesgeuluso. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, bydd Andy Dunbobbin yn ymgynghori efo’r cyhoedd i ganfod eu blaenoriaethau i’r heddlu. Fe ddefnyddir barn y cyhoedd i greu’r Cynllun Heddlu a Throsedd i Ogledd Cymru, a gaiff yna ei ddilyn gan Heddlu Gogledd Cymru.
Mae gan pob CHTh swyddfa sy’n cynnwys aelodau o staff i’w helpu i gyflawni eu rôl. Yng Ngogledd Cymru, mae hyn yn cynnwys Prif Weithredwr y Swyddfa, staff gweinyddol a chefnogol, swyddogion polisïau, staff cyfathrebiadau a dadansoddwyr, sy’n gweithio ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin: "Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy ail-ethol gan bobl Gogledd Cymru. Mae'n dangos eu bod yn hapus gyda'r gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud dros y tair blynedd diwethaf i wneud plismona yn fwy effeithiol, effeithlon ac atebol. Mae yna pob amser mwy o waith y gallwn ei wneud ac ni allaf aros i fynd yn ôl i wasanaethu holl bobl Gogledd Cymru, p'un a ydynt wedi pleidleisio drosof fi ai peidio. Hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i gyfrannu at fy ymgyrch, fy nheulu, a phobl Gogledd Cymru am yr ymddiriedaeth a ddangosodd ynof unwaith eto."
Ychwanegodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman: “Hoffwn longyfarch y CHTh ar ei etholiad. Fel heddlu, ein gweledigaeth ydy i Ogledd Cymru fod y lle mwyaf diogel yn y wlad i fyw, gweithio ac i ymweld – gweledigaeth ‘dwi’n gwybod bod y CHTh yn ei rannu. Rydym yn barod efo’r lefelau isaf o drosedd yn genedlaethol, ond mae wastad mwy i’w wneud i leihau trosedd ymhellach. ‘Rydw i’n edrych ymlaen at weithio efo’r CHTh yn y misoedd a’r blynyddoedd dilynol drwy ymgynghoriad â thrigolion Gogledd Cymru.”
Dywedodd y Prif Weithredwr, Stephen Hughes: “Fel Prif Weithredwr Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ‘dwi’n ddiolchgar i drefnwyr yr etholiad am broses esmwyth, ac ‘rwy’n croesawu’r CHTh i’w rôl.
“Mae aelodau staff Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yno i gynorthwyo’r Comisiynydd i gyflawni eu gwaith hanfodol ar ran trigolion Gogledd Cymru, gan gynnwys dal y Prif Gwnstabl yn atebol ac i sicrhau bod yr heddlu yn gwneud eu gwaith yn effeithiol ac yn ymatebol i ddymuniadau’r trigolion.
“Mae’r staff hefyd yn rhedeg y dosbarthiad o fuddsoddiadau, sy’n hanfodol i wasanaethau mae pobl yn dibynnu arnynt, fel sefydliadau sy’n cynorthwyo dioddefwyr o gam-drin domestig, pobl sy’n camddefnyddio sylweddau, a’r rhai sy’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc. ‘Dwi’n gwybod ein bod yn edrych ymlaen at weithio efo’r CHTh i wireddu’r weledigaeth ac i roi’r polisïau ar waith.”
Mae canlyniad llawn yr etholiad fel a ganlyn:
Llafur: 31, 950
Ceid: 26,281
Plaid Cymru: 23,466
Dem Rhy: 7,129
Mwyafrif 5,669