Skip to main content

Annog atalwyr troseddau lleol i wneud cais am arian

Dyddiad

041121 PCC YCYC-1

Mae'r ffenestr ymgeisio ar gyfer menter eleni bellach wedi cau. Gallwch fwrw pleidlais ar gyfer prosiectau ym mhob sir yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/ECEC_22


 Mae atalwyr troseddau lleol yng ngogledd Cymru yn cael eu hannog i gynnig am gyfran o gronfa £60,000 o arian a atafaelwyd gan droseddwyr.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, bydd cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn cael ei defnyddio i ailgylchu arian drwg troseddwyr er budd cymunedau ledled y rhanbarth.

Mae'r fenter yn bartneriaeth rhwng Mr Dunbobbin, Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru.

Mae hanner yr arian yn cael ei gyfrannu gan y Comisiynydd gyda'r gweddill yn dod oddi wrth arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr trwy'r Ddeddf Elw Troseddau.

O ganlyniad, bydd tri grŵp cymunedol ym mhob sir yn y Gogledd yn derbyn hyd at £2,500 yr un tra bydd tri grant o £5,000 ar gael i sefydliadau sy'n gweithio ar draws tair sir neu fwy.

Ar ôl agor ar Dachwedd 15, mae'r ffenestr i grwpiau gyflwyno ceisiadau yn agored tan Ragfyr 10, gyda'r enillwyr yn cael eu dewis trwy bleidlais gyhoeddus.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei dewis gan banel arbennig ac mae'r pleidleisio'n agor ar Ionawr 10 ac yn parhau tan Chwefror 11.

Mae angen i bob cais gefnogi Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd lle mae darparu cymdogaethau mwy diogel a chefnogi cymunedau yn flaenoriaethau allweddol.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae hyn yn enghraifft o gyfiawnder cymdeithasol ar waith oherwydd bod cynllun Eich Cymuned Eich Dewis yn ymwneud â throi arian drwg yn arian da i gefnogi ein cymunedau o’r Fflint i Borthaethwy ac ar draws gweddill y rhanbarth.

“Bydd y prosiectau llwyddiannus yn rhai sy’n cefnogi’r blaenoriaethau strategol fy Nghynllun Heddlu a Throsedd

“Rwyf am droi hynny ar ei ben fel bod gennym gyfres o fentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, gan ddarparu canlyniadau cadarnhaol i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.

“Yn ogystal â chael ceisiadau o’n trefi mwy, hoffwn annog grwpiau o ardaloedd gwledig i ddod ymlaen oherwydd rwy’n falch o gynrychioli holl gymunedau gogledd Cymru a bod mor gynhwysol â phosibl.”

Dywedodd cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Yr hyn rwy’n ei hoffi’n arbennig yw natur ddemocrataidd cynllun Eich Cymuned Eich Dewis.

“Mae'n ymwneud â grwpiau cymunedol yn ceisio am grantiau ac yna'r cymunedau eu hunain yn penderfynu pwy sy'n cael r arian. Mae hynny'n rhywbeth rhagorol.

“Un peth y bydd angen i’r holl ymgeiswyr ei wneud yw trafod eu cynnig gyda’u tîm plismona cymdogaeth lleol a sicrhau bod eu harolygydd ardal yn ardystio eu cais cyn ei gyflwyno.

“Mae yna elfen ‘Robin Hwd’ i hyn ac rwy’n credu bod hynny’n apelio’n fawr at bobl ac ynni ei wneud yn gynllun hynod lwyddiannus, ac mae’r ffaith iddo ddenu mwy na 30,000 o bleidleisiau y llynedd yn tanlinellu hynny.

“Rwy’n falch iawn bod PACT yn gallu cyflawni hyn ar ran y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru ac rwy’n annog grwpiau ac elusennau gwirfoddol i gyflwyno eu ceisiadau.”

Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Helen Corcoran: “Mae cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn asio’n berffaith gyda’r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni.

“Mae cymaint o grwpiau cymunedol teilwng allan yna, ac mae’r fenter hon yn ymwneud â’r heddlu a’r gymuned yn gweithio efo’i gilydd i wneud pethau’n fwy diogel i gyhoedd y Gogledd, gyda’r budd ychwanegol wrth gwrs bod llawer o’r arian yn dod oddi wrth droseddwyr.

“Rydym eisiau cefnogi cymunedau fel eu bod nhw'n gallu cymryd cyfrifoldeb am eu hardaloedd eu hunain.

“Gall grwpiau cymunedol wneud llawer iawn i wneud eu hardaloedd lleol yn fwy diogel, lleihau troseddu a lleihau aildroseddu. Mae hefyd yn anfon neges dda i'r cymunedau oherwydd mae'n dangos ein bod ni'n gwrando arnyn nhw.”